Craig y Farchas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Y mae '''Craig y Farchas''' yn glogwyn ar ben ogleddol mynyddoedd Yr Eifl, uwchben tir pori a elwid yn Farchas, rhan o fferm Nant Bach pan wnaed y Map...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Y mae '''Craig y Farchas''' yn glogwyn ar ben ogleddol mynyddoedd [[Yr Eifl]], uwchben tir pori a elwid yn Farchas, rhan o fferm Nant Bach pan wnaed y Map Degwm ym 1839.<ref>LLGC Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llanaelhaearn, 1839</ref> Y pryd hynny yr oedd y gwaith chwarelu am ithfaen heb gychwyn yno, ond ym 1844, agorwyd gwaith setiau gan [[John Hutton]] yn yr Hen Ffolt islaw'r graig; ac yn fuan wedyn tyfodd chwarel dau fonc ar y graig uwchben.
Y mae '''Craig y Farchas''' yn glogwyn ar ben gogleddol mynyddoedd [[Yr Eifl]], uwchben tir pori a elwid y Farchas, a oedd yn rhan o fferm Nant Bach pan wnaed y Map Degwm ym 1839.<ref>LLGC Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llanaelhaearn, 1839</ref> Y pryd hynny nid oedd unrhyw waith chwarelu am ithfaen wedi dechrau yno. Fodd bynnag, erbyn canol y 1840'au roedd gwaith cynhyrchu setiau (''setts'') ar raddfa fach wedi dechrau yn yr Hen Ffolt o dan Graig y Farchas, ac ym 1854 sefydlwyd Chwarel Craig y Farchas ei hun dan oruchwyliaeth John Hutton drwy agor dwy bonc ar ochr y clogwyn. Erbyn hyn, mae'r ponciau hynny wedi diflannu dan y Domen Fawr o wastraff o Chwarel yr Eifl uwchlaw, er y credir bod rhan o'r uchaf o'r ddwy bonc yn dod i'r golwg yn dilyn cario tunelli o wastraff o'r Domen Fawr dros y blynyddoedd diwethaf. Gweler yr erthygl helaethach ar Chwarel Craig y Farchas, Trefor yn Cof y Cwmwd.  
 
Erbyn hyn, mae'r graig ei hun wedi diflannu i raddau dan dipiau [[Chwarel yr Eifl]].


  {{eginyn}}
  {{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 11:05, 8 Chwefror 2021

Y mae Craig y Farchas yn glogwyn ar ben gogleddol mynyddoedd Yr Eifl, uwchben tir pori a elwid y Farchas, a oedd yn rhan o fferm Nant Bach pan wnaed y Map Degwm ym 1839.[1] Y pryd hynny nid oedd unrhyw waith chwarelu am ithfaen wedi dechrau yno. Fodd bynnag, erbyn canol y 1840'au roedd gwaith cynhyrchu setiau (setts) ar raddfa fach wedi dechrau yn yr Hen Ffolt o dan Graig y Farchas, ac ym 1854 sefydlwyd Chwarel Craig y Farchas ei hun dan oruchwyliaeth John Hutton drwy agor dwy bonc ar ochr y clogwyn. Erbyn hyn, mae'r ponciau hynny wedi diflannu dan y Domen Fawr o wastraff o Chwarel yr Eifl uwchlaw, er y credir bod rhan o'r uchaf o'r ddwy bonc yn dod i'r golwg yn dilyn cario tunelli o wastraff o'r Domen Fawr dros y blynyddoedd diwethaf. Gweler yr erthygl helaethach ar Chwarel Craig y Farchas, Trefor yn Cof y Cwmwd.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. LLGC Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llanaelhaearn, 1839