Hen Ffolt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:

Tua 1844 dechreuodd dau neu dri o griwiau bychain wneud [[Setiau|setiau]] o'r cerrig ithfaen mawrion oedd wedi eu gwasgaru ger tir yr Hen Ffolt. Cerrig rhyddion oedd y rhain oedd yn dystiolaeth i'r miliynau tunelli a gludwyd gan y rhewlifoedd oes a fu. Roeddent yn gerrig o ansawdd neilltuol, yn berffaith ar gyfer gwneud cerrig palmantu (setiau). Hyn, mewn gwirionedd, oedd y cychwyn cyntaf un i [[Chwarel yr Eifl]] ddaeth, yn ei hawr anterth, y chwarel setiau ithfaen fwyaf o'i bath yn y byd, ac yn cyflogi dros fil o ddynion.

Ceir cyfeiriad gan Samuel Holland yn ei 'Memoirs' at y gwaith setiau yn yr Hen Ffolt, ac fel y daeth Trefor Jones drosodd o Chwarel y Gwylwyr i gymryd trosodd yr awennau yno tua'r flwyddyn 1850, wedi i John Hutton, William Caldwell Roscoe a'i wraig, Emily Sophia Roscoe, ei brynu. Enw'r cwmni hwn oedd y Cwmni Ithfaen Cymreig (''Welsh Granite Company''), a rŵan dyma'i uno â Chwmni'r Gwylwyr a Thŷ Mawr (Pistyll).
Ond pwy, tybed, oedd y Cwmni Ithfaen Cymreig oedd yn cloddio yno yn ystod y chwe blynedd '''cyn''' 1850? Gwyddom i'r gweithfeydd setiau bychain ddod yno ym 1844 gan fod cofnod arbennig o hynny mewn dogfen ddyddiedig 1845. Ym Mhrospectws y North Western Railway (a obeithiai gael rheilffordd o Fangor i Bortin-llaen, a chreu porthladd mawr yno i gysylltu gwledydd Prydain ag Iwerddon) cyfeiriwyd yn benodol at "''the valuable stone quarries at the Rivals, recently opened by a Liverpool Company''".
Pennaeth y Cwmni oedd gŵr a adnabyddid fel y "Sais Mawr". Ar y 26ain o Fawrth, 1844, rhoddodd Lefftenant Cyrnol Thomas Peers-Williams, A.S., sgweier Craig-y-don, Llangoed, Môn, brydles deng mlynedd i un John Heyden, gŵr busnes o Lerpwl, yn rhoi hawl iddo gloddio mwynau ar ei dir yn y Gorllwyn. Roedd swyddfa Heyden yn 60 Duke Street, Lerpwl, a fo, heb os, oedd y "Sais Mawr".
Cwsmer pwysig cyntaf Heyden oedd Pwyllgor Palmantu Corfforaeth Manceinion. Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach , ar y 14eg o Orffennaf 1863, byddai'r Pwyllgor hwn yn anfon tystlythyr dros y Cwmni Ithfaen Cymreig yn canmol i'r cymylau safon y cerrig, hyd yn oed wedi pedair blynedd ar bymtheg a chwarter o ddefnydd trwm. Dyna gadarnhau, felly, fod cerrig palmantu'r Eifl wedi cael eu gosod ar strydoedd Manceinion mor belled yn ôl â mis Ebrill 1844. Dyna ddyddiad cychwyn gweithgareddau y Cwmni Ithfaen Cymreig yn yr Hen Ffolt. Daeth y Gwaith ar werth rywbryd tua 1849-50. Cynigiodd Hutton, Gwaith y Gwylwyr, amdano, ac wedi peth bargeinio, gwerthodd Heyden y brydles iddo, prydles oedd i bara tan Mawrth 1854.       

Fersiwn yn ôl 16:50, 5 Chwefror 2021

Saif yr Hen Ffolt ar ben allt-môr Y Gorllwyn yn Nhrefor, rhwng gwaelod Tomen Fawr y Farchas a'r traeth caregog islaw, mewn man a elwir Pant y Farchas, gyda rhan ohoni bellach wedi diflannu i'r môr trwy erydiad y blynyddoedd. Roedd yma, yn y ddeunawfed ganrif a hanner cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gorlan defaid a cheffylau perthynol i fferm Nant Bach gerllaw. Roedd yn ardal bur anghysbell bryd hynny, fel y mae heddiw.

Tua 1844 dechreuodd dau neu dri o griwiau bychain wneud setiau o'r cerrig ithfaen mawrion oedd wedi eu gwasgaru ger tir yr Hen Ffolt. Cerrig rhyddion oedd y rhain oedd yn dystiolaeth i'r miliynau tunelli a gludwyd gan y rhewlifoedd oes a fu. Roeddent yn gerrig o ansawdd neilltuol, yn berffaith ar gyfer gwneud cerrig palmantu (setiau). Hyn, mewn gwirionedd, oedd y cychwyn cyntaf un i Chwarel yr Eifl ddaeth, yn ei hawr anterth, y chwarel setiau ithfaen fwyaf o'i bath yn y byd, ac yn cyflogi dros fil o ddynion.

Ceir cyfeiriad gan Samuel Holland yn ei 'Memoirs' at y gwaith setiau yn yr Hen Ffolt, ac fel y daeth Trefor Jones drosodd o Chwarel y Gwylwyr i gymryd trosodd yr awennau yno tua'r flwyddyn 1850, wedi i John Hutton, William Caldwell Roscoe a'i wraig, Emily Sophia Roscoe, ei brynu. Enw'r cwmni hwn oedd y Cwmni Ithfaen Cymreig (Welsh Granite Company), a rŵan dyma'i uno â Chwmni'r Gwylwyr a Thŷ Mawr (Pistyll).

Ond pwy, tybed, oedd y Cwmni Ithfaen Cymreig oedd yn cloddio yno yn ystod y chwe blynedd cyn 1850? Gwyddom i'r gweithfeydd setiau bychain ddod yno ym 1844 gan fod cofnod arbennig o hynny mewn dogfen ddyddiedig 1845. Ym Mhrospectws y North Western Railway (a obeithiai gael rheilffordd o Fangor i Bortin-llaen, a chreu porthladd mawr yno i gysylltu gwledydd Prydain ag Iwerddon) cyfeiriwyd yn benodol at "the valuable stone quarries at the Rivals, recently opened by a Liverpool Company".