Chwarel yr Eifl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'Chwarel yr Eifl' fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o driawd Mynyddoedd yr Eifl, y ffin rhwng C wmwd Uwchgwyrfai a Chwmwd Dinllaen, a rhwng Cantref Arfon a Chantref Llyn.
'Chwarel yr Eifl' fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o driawd mynyddoedd yr Eifl, y ffin rhwng Cwmwd Uwchgwyrfai a Chwmwd Dinllaen, a rhwng Cantref Arfon a Chantref Llŷn.

Yng nghofnodion y cwmnïau fu'n berchnogion arni o'r cychwyn ei henw oedd 'Eifl Quarry', ond ar dafodau'r cyhoedd rhoddwyd a defnyddiwyd enwau eraill.

'Y Gwaith' oedd ac ydi enw pobl Trefor ar y lle. Mewn cylch ehangach defnyddid 'Gwaith Llanhuar' (Llanaelhaearn), ac fel y tyfodd y chwarel aeth yn 'Gwaith Mawr Llanhuar', ac yn dim ond y 'Gwaith Mawr'. Yn ddiweddarach, ar ôl adeiladu pentref Trefor, ac yna'n ystod yr ugeinfed ganrif, cyfeirid at y Gwaith fel 'Gwaith Trefor' yn unig.
Yng nghofnodion y cwmnïau fu'n berchnogion arni o'r cychwyn, ei henw oedd 'Eifl Quarry', ond ar dafodau'r cyhoedd rhoddwyd, a defnyddiwyd, enwau eraill.
 
'Y Gwaith' fu, ac ydi, enw pobl Trefor ar y lle. Mewn cylch ehangach defnyddid 'Gwaith Llanhuar' (Llanaelhaearn), ac fel y tyfodd y chwarel aeth yn 'Gwaith Mawr Llanhuar', ac yna'n ddim ond y 'Gwaith Mawr' yn unig. Yn ddiweddarach, ar ôl adeiladu pentref Trefor, ac yna'n ystod yr ugeinfed ganrif, cyfeirid at y Gwaith fel 'Gwaith Trefor' yn unig.
 
Mae'n bwysig  nodi mai fel 'Gwaith' y cyfeirir yn Gymraeg at chwarel ithfaen, ac nid fel 'chwarel' e.e. Gwaith Tan-y-graig ar lethr y Gurn Ddu yn Nhrefor; Gwaith Carreg y Llam yn Nant Gwrtheyrn; Gwaith Trwyn yn Llanbedrog; Gwaith Carreg yr Imbill ym Mhwllheli; Gwaith Penmaen-mawr; Gwaith y Gwylwyr yn Nefyn a Gwaith Tŷ Mawr ym Mhistyll.

Mae'n bwysig  nodi mai fel 'Gwaith' y cyfeirir yn Gymraeg at chwarel ithfaen, ac nid fel chwarel e.e. Gwaith Tan-y-graig ar lethr y Gurn Ddu yn Nhrefor; Gwaith Carreg y Llam yn Nant Gwrtheyrn; Gwaith Trwyn yn Llanbedrog; Gwaith Carreg yr Imbill ym Mhwllheli; Gwaith Penmaen-mawr; Gwaith y Gwylwyr yn Nefyn a Gwaith Tŷ Mawr ym Mhistyll.

Yng nghofnodion y Cwmni Ithfaen Cymreig yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyfeirir bron yn ddieithriad at 'The Works' yn hytrach na 'the quarry', ond at y perchnogion, siŵr iawn, fel y 'quarry owners'!

Dewfnyddir yr un egwyddor yn Nhrefor ynglŷn â phopeth sy'n perthyn i fywyd y Gwaith. Dyma rai ymadroddion o'u cymharu â byd y chwarel lechi, geiriau'r lechen ar y chwith a geiriau'r ithfaen ar y dde :

chwarel                   gwaith
Defnyddir yr un egwyddor yn Nhrefor ynglŷn â phopeth sy'n perthyn i fywyd y Gwaith. Dyma rai ymadroddion o'u cymharu â byd y chwarel lechi - geiriau'r lechen ar y chwith a geiriau'r ithfaen ar y dde :
chwarelwyr                 dynion gwaith
 
lôn y chwarel lôn gwaith
 
swper chwarel     bwyd gwaith
  chwarel                        gwaith
caban buta'r chwarel     cwt buta'r gwaith
 
corn chwarel   corn gwaith
  chwarelwyr                     dynion gwaith
offis (sswyddfa) 'r chwarel offis y gwaith
 
ponciau'r chwarel ponciau'r gwaith
  lôn y chwarel                 lôn gwaith
i ben y chwarel   i ben gwaith
 
mynydd y chwarel   mynydd gwaith
  swper chwarel                 bwyd gwaith
 
  caban buta'r chwarel           cwt buta'r gwaith
 
  corn chwarel                   corn gwaith
 
  offis (swyddfa)'r chwarel     offis y gwaith
 
  ponciau'r chwarel             ponciau'r gwaith
 
  i ben y chwarel               i ben gwaith
 
  mynydd y chwarel               mynydd gwaith
 
Gan y gellir cyfieithu'r gair 'gwaith' i'r Saesneg naill ai fel 'quarry' neu 'work', cafwyd ambell i gamddealltwriaeth digon digri:
 
Gwan iawn oedd gwybodaeth cymeriad o'r enw Tecwyn o Lithfaen o'r iaith fain. Un diwrnod cerddodd dros y mynydd i'r Gwaith Mawr i chwilio am joban. Fe'i gwelwyd ar un o'r ponciau gan neb llai na'r Rheolwr ei hun, Mr. Darbishire, Sais uniaith.
 
"And what can I do for you this morning, Tecwyn."
 
"Please you sir," atebodd Tecwyn yn ffyddiog, wedi ymarfer ei anerchiad yr holl ffordd dros y mynydd, "I am looking for a QUARRY, as I have been on the dole for six weeks".
 
"What do you think this place is? A zoo?"
 
Dylid nodi fod un o lenorion amlwg y Gymraeg, John Emyr, brodor o Drefor, wedi cyhoeddi cyfrol yn dwyn yr enw 'Mynydd Gwaith a Storïau Eraill".

Fersiwn yn ôl 18:03, 3 Chwefror 2021