Chwarel yr Eifl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''Chwarel yr Eifl' fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o driawd Mynyddoedd yr Eifl, y ffi...'
 
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:

'Y Gwaith' oedd ac ydi enw pobl Trefor ar y lle. Mewn cylch ehangach defnyddid 'Gwaith Llanhuar' (Llanaelhaearn), ac fel y tyfodd y chwarel aeth yn 'Gwaith Mawr Llanhuar', ac yn dim ond y 'Gwaith Mawr'.

Mae'n bwysig  nodi mai fel 'Gwaith' y cyfeirir yn Gymraeg at chwarel ithfaen, ac nid fel chwarel e.e. Gwaith Tan-y-graig ar lethr y Gurn Ddu yn Nhrefor; Gwaith Carreg y Llam yn Nant Gwrtheyrn; Gwaith Trwyn yn Llanbedrog; Gwaith Carreg yr Imbill ym Mhwllheli; Gwaith Penmaen-mawr; Gwaith y Gwylwyr yn Nefyn a Gwaith Tŷ Mawr ym Mhistyll.

Fersiwn yn ôl 17:09, 3 Chwefror 2021

'Chwarel yr Eifl' fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o driawd Mynyddoedd yr Eifl, y ffin rhwng C wmwd Uwchgwyrfai a Chwmwd Dinllaen, a rhwng Cantref Arfon a Chantref Llyn.

Yng nghofnodion y cwmnïau fu'n berchnogion arni o'r cychwyn ei henw oedd 'Eifl Quarry', ond ar dafodau'r cyhoedd rhoddwyd a defnyddiwyd enwau eraill.