John Roberts, Llangwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd John Roberts yn bregethwr a gweinidog amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. D...'
 
B Symudodd Heulfryn y dudalen John Roberts, LLangwm i John Roberts, Llangwm heb adael dolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:59, 30 Ionawr 2021

Roedd John Roberts yn bregethwr a gweinidog amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dywedir mai ym Mlaenygarth, Dyffryn Nantlle, y ganed ef ar 8 Awst 1753, ond â fferm Y Ffridd Baladeulyn y caiff ei gysylltu a'i frawd iau oedd Robert Roberts (1762-1802), gweinidog Capel Uchaf, Clynnog. Wedi cyfnod o weithio yn Chwarel Cilgwyn, llwyddodd John i gael tipyn o addysg ac yna aeth ati i gadw ysgolion ei hun mewn gwahanol fannau, yn arbennig Llanllyfni, ac am gyfnod adwaenid ef fel John Roberts, Llanllyfni. Dechreuodd bregethu yn 27 oed a phriododd â gwraig weddw, Mrs. Lloyd, Cefn Nannau, Llangwm, Meirionnydd. Ac yn Llangwm y bu'n byw o 1809 tan ei farwolaeth ar 3 Tachwedd 1834, yn 82 oed, ac fel John Roberts Llangwm y mae'n fwyaf adnabyddus. Roedd ymhlith y garfan gyntaf o ddynion a gafodd eu hordeinio'n weinidogion gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym 1811, pan ymwahanodd y mudiad yn swyddogol oddi wrth yr Eglwys Wladol a dod yn enwad annibynnol. Yn wahanol iawn i'w frawd iau, Robert, roedd yn ddyn byr a chadarn o gorffolaeth a chyfansoddiad. Er nad ystyrid ef yn bregethwr mor danbaid â Robert, roedd galw mawr am ei wasanaeth a bu'n bregethwr cyson yng nghymdeithasfaoedd ei gyfundeb yn Ne a Gogledd Cymru am flynyddoedd. Mab iddo oedd Michael Roberts, a ddaeth hefyd yn weinidog amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd gan ymsefydlu yn eglwys Penmount, Pwllheli. Fodd bynnag, daeth diwedd trist i hanes Michael Roberts, gan iddo ddioddef o salwch meddwl a dryswch difrifol yn ddiweddarach yn ei oes.[1]

Cyfeiriadau

[1] Gweler bywgraffiadau John Roberts a Michael Roberts yn Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein; hefyd gweler yr erthygl helaeth ar Ffridd Baladeulyn yn Cof y Cwmwd.