Barics Pen-yr-orsedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae'r adeiladau a elwir yn '''Barics Pen-yr-orsedd''' yn sefyll ar dir a fu'n rhan o fferm Tŷ Mawr yn Nantlle. Mae'r rhan fwyaf o dir fferm yr he...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Busnes a Masnach]]
[[Categori:Diwydiant a Masnach]]

Fersiwn yn ôl 14:04, 20 Ionawr 2021

Mae'r adeiladau a elwir yn Barics Pen-yr-orsedd yn sefyll ar dir a fu'n rhan o fferm Tŷ Mawr yn Nantlle. Mae'r rhan fwyaf o dir fferm yr hen Blas Nantlle a elwid wedyn yn Nhŷ Mawr bellach wedi ei ddefnyddio i gloddio am lechi neu arllwys y gwastreff arno. Codwyd y barics fel cartref i chwarelwyr oedd yn byw yn rhyw bell o'r gwaith i deithio yno bob dydd. Nid oedd yn anghyffredin i chwareli llechi adeiladu llety neu farics o'r fath at y ddiben honno, ond ychydig sydd wedi'u goroesi a chael defnydd newydd - mae'r rhan fwyaf wedi hen ddadfeilio.

Bellach mae'r barics wedi eu troi'n ganolfan gymdeithasol ar gyfer pentref Nantlle a nifer o weithdai lle caiff busnesau bychain sefydlu. Bu Peris & Corr, dylunwyr yno nes dyfu'n fusnes rhy fawr, ac ymysg y tenantiaid presennol mae Coffi Poblado.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau