Tal-y-mignedd Uchaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Tua 1800, Evan David oedd y prydlesai, ac yn ffermio'r tir. Cododd hwnnw ddau feudy newydd at y tri oedd yno eisoes, ynghyd â stabl ger y tŷ fferm. Yn ôl adroddiad arolygwr yr ystad, roedd popeth wedi ei gadw mewn cyflwr da gan Evan David. Tir pori oedd bron y cwbl, dim ond ychydig dros ddwy acer yn cael eu haredig. Roedd llawer iawn o goed derw ar y tir, peth coed ynn ac ychydig o goed bedw. Nodai'r asiant yr adeg hynny fod y tenant yn defnyddio coed ar y tir mewn dull braidd yn rhy barod.<ref>R.O. Roberts, ''Farming in Caernarvonshire around 1800'' (Caernarfon, 1973), t.54</ref> Tybed ai cael gorchymyn gan y landlord i ail-blannu coed arweiniodd Walter Davies (Gwallter Mechain) i gyfeirio at blannu 2,000 o goed derw ‘mewn lleoliad uchel iawn' ar fferm Tal-y-mignedd ym 1810.<ref>Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, ''Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Caernarfon/ Nantlle – Ardal 42 Llethrau uchaf Dyffryn Nantlle'', [http://www.heneb.co.uk/hlc/caernarfon-nantlle/wcaer42.html], cyrchwyd 15.01.2021</ref>

Mae [[Tal-y-mignedd Isaf]] yn fferm ar wahân ar waelod [[Dyffryn Nantlle]] oedd yn rhan o [[Ystad Pant Du]] yn y cyfnod modern, er bod y ddau ansoddair Isaf ac Uchaf yn tueddu awgrymu mai un eiddo oeddynt ar un adeg, efallai cyn i arferiad gadael tir i'r mab hynaf yn unig ddod i rym yn gynnar yn y 16g.
Dylid cofio bod [[Tal-y-mignedd Isaf]] yn fferm ar wahân ar waelod [[Dyffryn Nantlle]] oedd yn rhan o [[Ystad Pant Du]] yn y cyfnod modern, er bod y ddau ansoddair Isaf ac Uchaf yn tueddu awgrymu mai un eiddo oeddynt ar un adeg, efallai cyn i arferiad gadael tir i'r mab hynaf yn unig ddod i rym yn gynnar yn y 16g.

  {{eginyn}}
  {{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 11:47, 15 Ionawr 2021

Mae Tal-y-mignedd Uchaf yn fferm ym mhlwyf Llanllyfni ar ochr ddeuheuol rhan uchaf Dyffryn Nantlle ar lethrau Mynydd Tal-y-mignedd. Yr oedd yn rhan o Ystad y Faenol, ac ar ei thir fe ddatblygwyd Gwaith Copr Simdde'r Dylluan yn y 18-19g.

Tua 1800, Evan David oedd y prydlesai, ac yn ffermio'r tir. Cododd hwnnw ddau feudy newydd at y tri oedd yno eisoes, ynghyd â stabl ger y tŷ fferm. Yn ôl adroddiad arolygwr yr ystad, roedd popeth wedi ei gadw mewn cyflwr da gan Evan David. Tir pori oedd bron y cwbl, dim ond ychydig dros ddwy acer yn cael eu haredig. Roedd llawer iawn o goed derw ar y tir, peth coed ynn ac ychydig o goed bedw. Nodai'r asiant yr adeg hynny fod y tenant yn defnyddio coed ar y tir mewn dull braidd yn rhy barod.[1] Tybed ai cael gorchymyn gan y landlord i ail-blannu coed arweiniodd Walter Davies (Gwallter Mechain) i gyfeirio at blannu 2,000 o goed derw ‘mewn lleoliad uchel iawn' ar fferm Tal-y-mignedd ym 1810.[2]

Dylid cofio bod Tal-y-mignedd Isaf yn fferm ar wahân ar waelod Dyffryn Nantlle oedd yn rhan o Ystad Pant Du yn y cyfnod modern, er bod y ddau ansoddair Isaf ac Uchaf yn tueddu awgrymu mai un eiddo oeddynt ar un adeg, efallai cyn i arferiad gadael tir i'r mab hynaf yn unig ddod i rym yn gynnar yn y 16g.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. R.O. Roberts, Farming in Caernarvonshire around 1800 (Caernarfon, 1973), t.54
  2. Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Caernarfon/ Nantlle – Ardal 42 Llethrau uchaf Dyffryn Nantlle, [1], cyrchwyd 15.01.2021