Llyn-y-gele: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Fferm ar gyrion pentref Pontllyfni yw Llyn-y-gele. Mae'n enw diddorol gan ei bod yn amlwg fod llyn arbennig yno ar un cyfnod lle deuai meddygon, neu apoth...' |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Fferm ar gyrion pentref Pontllyfni yw Llyn-y-gele. Mae'n enw diddorol gan ei bod yn amlwg fod llyn arbennig yno ar un cyfnod lle deuai meddygon, neu apothecarïaid fel y gelwid hwy cyn hynny, i gasglu gelod (''leeches'') i drin eu cleifion. Am ganrifoedd bu gelod yn cael eu defnyddio'n helaeth mewn meddygaeth i sugno gwaed o amgylch briwiau ac yn y blaen er mwyn tynnu amhureddau o'r corff a hefyd wella cylchrediad y gwaed ac atal ceuledau. Fodd bynnag, wrth i feddygaeth ddatblygu fel proffesiwn modern, a chyda'r cynnydd mewn defnyddio cyffuriau cemegol, aeth defnyddio gelod yn hynod anffasiynol a'i gysylltu â "meddygon cwac" i bob pwrpas. Ond yn ystod y degawdau diwethaf mae defnyddio'r creaduriaid hyn wedi cael ei ailsefydlu yn y byd meddygol proffesiynol ac maent yn cael eu magu mewn labordai at ddefnydd meddygon. Bellach mae triniaethau'n defnyddio gelod yn cael eu | Fferm ar gyrion pentref Pontllyfni yw Llyn-y-gele. Mae'n enw diddorol gan ei bod yn amlwg fod llyn arbennig yno ar un cyfnod lle deuai meddygon, neu apothecarïaid fel y gelwid hwy cyn hynny, i gasglu gelod (''leeches'') i drin eu cleifion. Am ganrifoedd bu gelod yn cael eu defnyddio'n helaeth mewn meddygaeth i sugno gwaed o amgylch briwiau ac yn y blaen er mwyn tynnu amhureddau o'r corff a hefyd wella cylchrediad y gwaed ac atal ceuledau. Fodd bynnag, wrth i feddygaeth ddatblygu fel proffesiwn modern, a chyda'r cynnydd mewn defnyddio cyffuriau cemegol, aeth defnyddio gelod yn hynod anffasiynol a'i gysylltu â "meddygon cwac" i bob pwrpas. Ond yn ystod y degawdau diwethaf mae defnyddio'r creaduriaid hyn wedi cael ei ailsefydlu yn y byd meddygol proffesiynol ac maent yn cael eu magu mewn labordai at ddefnydd meddygon. Bellach mae triniaethau'n defnyddio gelod yn cael eu defnyddio a'u cymeradwyo gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ceir nifer o gyfeiriadau at y therapïau hyn ar y rhyngrwyd, megis taflen gyda'r teitl ''Leech Therapy - Information for Patients'' gan Oxford University Hospitals NHS Foundation Trust. | ||
Yn ôl y sôn yn Llyn-y-gele hefyd y dyweddïodd David Lloyd George a'i ddarpar-wraig, Margaret, merch fferm Mynydd Ednyfed, Cricieth. Roedd Margaret yn perthyn i deulu Llyn-y-gele ac wedi dod yno am gyfnod o wyliau. Pan glywodd Lloyd George, a oedd eisoes wedi dechrau ei chanlyn, ei bod yno, prysurodd am Lyn-y-gele a gofyn iddi ei briodi yn slei yn y fan honno, gan nad oedd teulu Mynydd Ednyfed yn cymeradwyo'r berthynas i bob golwg. Beth bynnag, dyweddïo a fu ac fe'u priodwyd yn ddiweddarach yng Nghapel Pencaenewydd. | Yn ôl y sôn yn Llyn-y-gele hefyd y dyweddïodd David Lloyd George a'i ddarpar-wraig, Margaret, merch fferm Mynydd Ednyfed, Cricieth. Roedd Margaret yn perthyn i deulu Llyn-y-gele ac wedi dod yno am gyfnod o wyliau. Pan glywodd Lloyd George, a oedd eisoes wedi dechrau ei chanlyn, ei bod yno, prysurodd am Lyn-y-gele a gofyn iddi ei briodi yn slei yn y fan honno, gan nad oedd teulu Mynydd Ednyfed yn cymeradwyo'r berthynas i bob golwg. Beth bynnag, dyweddïo a fu ac fe'u priodwyd yn ddiweddarach yng Nghapel Pencaenewydd. |
Fersiwn yn ôl 10:43, 11 Ionawr 2021
Fferm ar gyrion pentref Pontllyfni yw Llyn-y-gele. Mae'n enw diddorol gan ei bod yn amlwg fod llyn arbennig yno ar un cyfnod lle deuai meddygon, neu apothecarïaid fel y gelwid hwy cyn hynny, i gasglu gelod (leeches) i drin eu cleifion. Am ganrifoedd bu gelod yn cael eu defnyddio'n helaeth mewn meddygaeth i sugno gwaed o amgylch briwiau ac yn y blaen er mwyn tynnu amhureddau o'r corff a hefyd wella cylchrediad y gwaed ac atal ceuledau. Fodd bynnag, wrth i feddygaeth ddatblygu fel proffesiwn modern, a chyda'r cynnydd mewn defnyddio cyffuriau cemegol, aeth defnyddio gelod yn hynod anffasiynol a'i gysylltu â "meddygon cwac" i bob pwrpas. Ond yn ystod y degawdau diwethaf mae defnyddio'r creaduriaid hyn wedi cael ei ailsefydlu yn y byd meddygol proffesiynol ac maent yn cael eu magu mewn labordai at ddefnydd meddygon. Bellach mae triniaethau'n defnyddio gelod yn cael eu defnyddio a'u cymeradwyo gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ceir nifer o gyfeiriadau at y therapïau hyn ar y rhyngrwyd, megis taflen gyda'r teitl Leech Therapy - Information for Patients gan Oxford University Hospitals NHS Foundation Trust.
Yn ôl y sôn yn Llyn-y-gele hefyd y dyweddïodd David Lloyd George a'i ddarpar-wraig, Margaret, merch fferm Mynydd Ednyfed, Cricieth. Roedd Margaret yn perthyn i deulu Llyn-y-gele ac wedi dod yno am gyfnod o wyliau. Pan glywodd Lloyd George, a oedd eisoes wedi dechrau ei chanlyn, ei bod yno, prysurodd am Lyn-y-gele a gofyn iddi ei briodi yn slei yn y fan honno, gan nad oedd teulu Mynydd Ednyfed yn cymeradwyo'r berthynas i bob golwg. Beth bynnag, dyweddïo a fu ac fe'u priodwyd yn ddiweddarach yng Nghapel Pencaenewydd.