Gored Beuno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Ystyr ''cored'' yw clawdd cerrig (neu wiail weithiau) ar ffurf lleuad newydd i ddal pysgod. Deuai'r pysgod i mewn gyda'r llanw, ac wrth i'r llanw droi nid oedd modd iddynt ddianc, a chaent eu dal yn y pyllau y tu ôl i'r goredau.  Fe'u defnyddid yn aml yn y Canol Oesoedd. Mae sawl enghraifft o hyd i'w gweld ar lannau'r Fenai; er enghraifft, wrth Ynys Gored Goch ger Pont Britannia. Mae olion coredau i'w gweld yn y môr oddi ar arfordir Ceredigion hefyd - Aber-arth yn arbennig - a chysylltir y rhain â mynaich Ystrad Fflur. Yn aml, fe'u cysylltir â safleoedd crefyddol gan fod pysgod yn rhan bwysig o fwyd offeiriaid a mynaich ar ddyddiau ympryd.

Ceir englyn gan Eben Fardd (nid un o’r rai gorau mae’n rhaid cyfaddef) yn sôn am fynaich Beuno yn mynd am y gored i geisio pryd neu ddau o bysgod:
Ceir englyn gan [[Eben Fardd]] (nid un o’r rai gorau mae’n rhaid cyfaddef) yn sôn am fynaich Beuno yn mynd am y gored i geisio pryd neu ddau o bysgod:

::::::''Rhai a geir tua’r ‘Gored’, - am bysgod''     
::::::''Rhai a geir tua’r ‘Gored’, - am bysgod''     
::::::::''I ymmbesgi’n myned;''   
::::::::''I ymmbesgi’n myned;''   
:::::::''Ond yr hwyr dyr i waered,''  
:::::::''Ond yr hwyr dyr i waered,''  
:::::::''''I ado y ‘Cryw’ am dy Gred."'
:::::::''I ado y ‘Cryw’ am dy Gred.'' "'
          
(Yr un yw ystyr "cryw" a "gored").  
(Yr un yw ystyr "cryw" a "gored").  

Fersiwn yn ôl 21:08, 7 Ionawr 2021

Mae Gored Beuno yn gasgliad o gerrig mawr yn y môr, sy'n ymddangos ar gyfnodau o drai, tua 400 metr oddi ar y lan gyferbyn â phentref Clynnog Fawr a Phorth Clynnog. Y gred oedd bod Sant Beuno, a mynaich ei glas (neu abaty) yng Nghlynnog, wedi adeiladu cored, neu drap, i ddal pysgod yno a bod lefel y môr, pan oedd ef yn fyw, yn sylweddol is nag ydyw heddiw, fel yr oedd modd iddo gyrraedd y gored a dal pysgod yno.

Ystyr cored yw clawdd cerrig (neu wiail weithiau) ar ffurf lleuad newydd i ddal pysgod. Deuai'r pysgod i mewn gyda'r llanw, ac wrth i'r llanw droi nid oedd modd iddynt ddianc, a chaent eu dal yn y pyllau y tu ôl i'r goredau. Fe'u defnyddid yn aml yn y Canol Oesoedd. Mae sawl enghraifft o hyd i'w gweld ar lannau'r Fenai; er enghraifft, wrth Ynys Gored Goch ger Pont Britannia. Mae olion coredau i'w gweld yn y môr oddi ar arfordir Ceredigion hefyd - Aber-arth yn arbennig - a chysylltir y rhain â mynaich Ystrad Fflur. Yn aml, fe'u cysylltir â safleoedd crefyddol gan fod pysgod yn rhan bwysig o fwyd offeiriaid a mynaich ar ddyddiau ympryd.

Ceir englyn gan Eben Fardd (nid un o’r rai gorau mae’n rhaid cyfaddef) yn sôn am fynaich Beuno yn mynd am y gored i geisio pryd neu ddau o bysgod:

Rhai a geir tua’r ‘Gored’, - am bysgod
I ymmbesgi’n myned;
Ond yr hwyr dyr i waered,
I ado y ‘Cryw’ am dy Gred. "'

(Yr un yw ystyr "cryw" a "gored").

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma