Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Athro ffiseg yn Ysgol Brynrefail oedd [[C.H. Leonard]] ac ar ddechrau'r 1930'au, fe'i perswadiwyd i ffurfio parti dwsin o leisiau. Dyna fu'r symbyliad y tu ôl i sefydlu [[Côr Meibion Dyffryn Nantlle]] o'r newydd, a daeth i amlygrwydd mawr ar y radio gyda rhaglenni fel Noson Lawen, ac mae'r Côr yn dal mewn bodolaeth heddiw.
Athro ffiseg yn Ysgol Brynrefail oedd [[C.H. Leonard]] ac ar ddechrau'r 1930'au, fe'i perswadiwyd i ffurfio parti dwsin o leisiau. Dyna fu'r symbyliad y tu ôl i sefydlu [[Côr Meibion Dyffryn Nantlle]] o'r newydd, a daeth i amlygrwydd mawr ar y radio gyda rhaglenni fel Noson Lawen, ac mae'r Côr yn dal mewn bodolaeth heddiw.


Dylid crybwyll hefyd y traddodiad cerdd dant yn y dyffryn. Bu [[Y Brodyr Francis]] Griffith William Francis (1876-19 ) ac Owen William Francis (1879-1936) yn ddarlledu cerdd dant ar Radio Athlone, cyn bod sôn am orsaf y BBC ym Mangor.
Dylid crybwyll hefyd y traddodiad cerdd dant yn y dyffryn. Bu [[Y Brodyr Francis]], sef Griffith William Francis (1876-19 ) ac Owen William Francis (1879-1936) yn ddarlledu cerdd dant ar Radio Athlone, cyn bod sôn am orsaf y BBC ym Mangor. Ni ddylid anghofio ychwaith am [[Llyfni Hughes]], telynor ac arloeswr gyda'r cerdd dant ym mlynyddoedd cynnar y 20g.

Fersiwn yn ôl 19:34, 2 Ionawr 2021

Mae hon yn erthygl fer sydd yn crynhoi rhai o brif elfennau traddodiad Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle. Gweler erthyglau unigol ar gorau a chantorion unigol sydd wedi eu nodi mewn print glas.

Fel y digwyddodd mewn rhannau eraill o Gymru, yr hyn a ysgogodd gymaint o weithgaredd corawl oedd mudiad y tonic sol-ffa a dosbarthiadau sol-ffa a gynhelid gan y capeli'r rhan amlaf. Dyn dwad i Ddyffryn Nantlle oedd Hugh Owen, (1832-1897) Sefydlodd fusnes yn Nhalysarn fel crydd, ond treuliodd lawer o'i amser yn teithio cyn belled a dinasoedd Lloegr gyda'r Tal-y-sarn Glee Singers. Ym 1871 daeth ei gôr cymysg yn gyntaf yn Eisteddfod Porthmadog. Dilynodd ei fab, Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy) (1869-1930) ei dad fel cerddor er iddo arbenigo'n fwy mewn trefnu cerddoriaeth. Roedd traddodiad offerynnol cryf yn Nyffryn Nantlle hefyd a gwnaeth Pencerdd Llyfnwy waith sylweddol yn y maes yma.

Ym1894 cystadlodd Côr Meibion Dyffryn Nantlle a Chôr Plant Talysarn yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. Ym 1902, cychwynnodd [[J. Owen fel arweinyy y Côr Meibion

Athro ffiseg yn Ysgol Brynrefail oedd C.H. Leonard ac ar ddechrau'r 1930'au, fe'i perswadiwyd i ffurfio parti dwsin o leisiau. Dyna fu'r symbyliad y tu ôl i sefydlu Côr Meibion Dyffryn Nantlle o'r newydd, a daeth i amlygrwydd mawr ar y radio gyda rhaglenni fel Noson Lawen, ac mae'r Côr yn dal mewn bodolaeth heddiw.

Dylid crybwyll hefyd y traddodiad cerdd dant yn y dyffryn. Bu Y Brodyr Francis, sef Griffith William Francis (1876-19 ) ac Owen William Francis (1879-1936) yn ddarlledu cerdd dant ar Radio Athlone, cyn bod sôn am orsaf y BBC ym Mangor. Ni ddylid anghofio ychwaith am Llyfni Hughes, telynor ac arloeswr gyda'r cerdd dant ym mlynyddoedd cynnar y 20g.