Marged Uch Ifan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Cledrau (sgwrs | cyfraniadau)
B Symudodd Cledrau y dudalen Marged Uch Ivan i Marged Uch Ifan
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:42, 15 Ionawr 2019

Roedd Marged Uch Ivan, neu Margaret ferch Evan ac hefyd Peggy Evans yn gymeriad unigryw a oedd yn byw yn Nhelyrnia, Nantlle.

Yn ei chyfnod, roedd nifer yn canu cerddi amdani ac yn adrodd ei hanesion ar draws Cymru. Yn ôl y Parch. W. R. Ambrose, yr oedd hi’n medru gwneud llawer gyda’i llaw ac yn medru adrodd a chanu alawon Cymreig a diddanu llawer o’i hymwelwyr. Yr oedd y teithiwr Thomas Pennant wedi mynd i’r Telyrniau i’w gweld, ond cafodd ei siomi gan nad oedd hi gartref y tro hwnnw. Yr oedd hi wedi gwneud enw iddi hi ei hun fel cymeriad yn yr ardal, ac ar ei marwolaeth yn 1788, cofnodwyd y bennill isod ar ei charreg fedd;

Here lies Peggy Evans who saw ninety-two,

Could wrestle, row, fiddle and hunt and fox too

Could ring a sweet peal, as the neighbourhood tells

That would charm your two ears – had there been any bells!

Enjoyed rosy health, in a lodging of straw,

Commanded the saw-pit, and wielded the saw,

And though shes departed where you cannot find her

I know she has left a few sisters behind her.”

Ffynhonnell

Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872).