Bron-yr-erw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 5: Llinell 5:
Glaniodd Gruffudd gyda'i fyddin, a oedd yn cynnwys ei osgordd bersonol (neu ei "deulu") a nifer sylweddol o ymladdwyr Danaidd, yn [[Abermenai]]. Ar y dechrau, cafodd gymorth milwrol gan y barwn Normanaidd, Robert o Ruddlan, ac yn fuan roedd wedi trechu'r arweinydd lleol, Cynwrig o Lŷn, ac wedi mynd i lawr cyn belled â Meirionnydd, lle trechodd Drahaearn ar faes Gwaeterw. Yna, ymosododd yn sydyn ar ei gyn-gynorthwywr Robert o Ruddlan, a oedd yn peryglu annibyniaeth Gwynedd, a bu bron iddo ei gymryd yn garcharor. Ond, yn dilyn hynny, daeth y Daniaid oedd yng ngosgordd Gruffudd yn dra amhoblogaidd, a lladdwyd dros hanner cant ohonynt yn eu gwelyau gan bobl Llŷn. Wrth weld Gruffudd yn y sefyllfa hon, gwelodd Trahaearn ei gyfle i dalu'r pwyth yn ôl, a daeth ar ei warthaf gyda byddin gref o Bowys. Y diwedd fu i Gruffudd gael ei drechu'n ddrwg ym mrwydr Bron-yr-erw a bu'n rhaid iddo ffoi yn ôl i Iwerddon gyda gweddill ei ddynion.

Fodd bynnag, chwe blynedd yn ddiweddarach roedd Gruffudd yn ei ôl a, chyda chymorth Rhys ap Tewdwr, fe drechodd Drahaearn ym mrwydr Mynydd Carn yn y Deheubarth a'i ladd, gan adfeddiannu ei etifeddiaeth yng Ngwynedd a dod yn un o'i brenhinoedd neu dywysogion cadarnaf. Ond stori arall ydi honno.   

Gweler hefyd erthygl yng Nghof y Cwmwd ynglŷn â [[Brwydr Bron-yr-erw]].   

== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
Llinell 12: Llinell 14:

Gwynfor Evans, ''Aros Mae'' (Abertawe 1971), t. 126

[[Categori:Brwydrau]]
[[Categori:Safleoedd nodedig]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:21, 17 Tachwedd 2020

Roedd Bron-yr-erw, sydd ar y llechweddau uwchlaw pentref Clynnog Fawr yn safle brwydr bwysig yn y flwyddyn 1075 rhwng Trahaearn ap Caradog a Gruffudd ap Cynan (c.1055-1137).

Yn dilyn marwolaeth y brenin cadarn Bleddyn ap Cynfyn yn 1075 bu ymgiprys mawr am goron teyrnas Gwynedd a hwyliodd Gruffudd ap Cynan, a oedd yn hanu o hen linach Gwynedd, drosodd o Iwerddon i hawlio ei etifeddiaeth. (Roedd Gruffudd wedi ei fagu yn Nulyn, yn fab i Cynan ap Iago a Rhagnell, merch brenin Danaidd Dulyn. Felly, roedd yn Gymro o ochr ei dad ac yn Llychlynwr o ochr ei fam.) Ond hawlid coron Gwynedd hefyd gan Drahaearn ap Caradog o Arwystli yng nghanolbarth Cymru, ac nid oedd hwnnw'n mynd i ildio i Gruffudd ar chwarae bach.

Glaniodd Gruffudd gyda'i fyddin, a oedd yn cynnwys ei osgordd bersonol (neu ei "deulu") a nifer sylweddol o ymladdwyr Danaidd, yn Abermenai. Ar y dechrau, cafodd gymorth milwrol gan y barwn Normanaidd, Robert o Ruddlan, ac yn fuan roedd wedi trechu'r arweinydd lleol, Cynwrig o Lŷn, ac wedi mynd i lawr cyn belled â Meirionnydd, lle trechodd Drahaearn ar faes Gwaeterw. Yna, ymosododd yn sydyn ar ei gyn-gynorthwywr Robert o Ruddlan, a oedd yn peryglu annibyniaeth Gwynedd, a bu bron iddo ei gymryd yn garcharor. Ond, yn dilyn hynny, daeth y Daniaid oedd yng ngosgordd Gruffudd yn dra amhoblogaidd, a lladdwyd dros hanner cant ohonynt yn eu gwelyau gan bobl Llŷn. Wrth weld Gruffudd yn y sefyllfa hon, gwelodd Trahaearn ei gyfle i dalu'r pwyth yn ôl, a daeth ar ei warthaf gyda byddin gref o Bowys. Y diwedd fu i Gruffudd gael ei drechu'n ddrwg ym mrwydr Bron-yr-erw a bu'n rhaid iddo ffoi yn ôl i Iwerddon gyda gweddill ei ddynion.

Fodd bynnag, chwe blynedd yn ddiweddarach roedd Gruffudd yn ei ôl a, chyda chymorth Rhys ap Tewdwr, fe drechodd Drahaearn ym mrwydr Mynydd Carn yn y Deheubarth a'i ladd, gan adfeddiannu ei etifeddiaeth yng Ngwynedd a dod yn un o'i brenhinoedd neu dywysogion cadarnaf. Ond stori arall ydi honno.

Gweler hefyd erthygl yng Nghof y Cwmwd ynglŷn â Brwydr Bron-yr-erw.

Cyfeiriadau

J.E. Lloyd, A History of Wales (Llundain 1948), t.383

Gwynfor Evans, Aros Mae (Abertawe 1971), t. 126