Trefor Row: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Pan osodwyd carreg sylfaen pentref newydd [[Trefor]] gan [[Trefor Jones]], Prif Stiward [[Chwarel yr Eifl]], ar 12 Ebrill 1856, enwyd y lle yn 'Bentref Trefor'. Chwe thŷ a godwyd bryd hynny, ond fe alwyd y pentref yn 'Trefor' a'r tai yn '''Trefor Row'''. Fe'u codwyd gan adeiladydd o'r fro, William Roberts, Lleiniau Hirion. Dymchwelwyd dau o'r tai ganol y 1960au er mwyn gwneud lle i ehangu'r Stôr (siopau [[Cymdeithas Gydweithredol Chwarelwyr yr Eifl]]). Erys y pedwar arall fel rhifau 52, 54, 56 a 58 Ffordd yr Eifl, ac maent wedi eu lleoli ger [[Pen Hendra]], y groes sydd yng nghanol pentref Trefor.
Pan osodwyd carreg sylfaen pentref newydd [[Trefor]] gan [[Trefor Jones]], Prif Stiward [[Chwarel yr Eifl]], ar 12 Ebrill 1856, enwyd y lle yn 'Bentref Trefor'. Chwe thŷ a godwyd bryd hynny, ond fe alwyd y pentref yn 'Trefor' a'r tai yn '''Trefor Row'''. Fe'u codwyd gan adeiladydd o'r fro, William Roberts, Lleiniau Hirion. Dymchwelwyd dau o'r tai ganol y 1960au er mwyn gwneud lle i ehangu'r Stôr (siopau [[Cymdeithas Gydweithredol Chwarelwyr yr Eifl]]). Erys y pedwar arall fel rhifau 52, 54, 56 a 58 Ffordd yr Eifl, ac maent wedi eu lleoli ger [[Pen Hendra]], y groes sydd yng nghanol pentref Trefor.


Yr unig dystiolaeth sydd gennym o bwy oedd tenantiaid cynta'r tai yw honno a geir yng Nghyfrifiad 1861.<ref>Cyfrifiad Plwyf Llanaelhaearn 1861</ref> Rhestrir saith, nid chwech, o dai, oherwydd daeth ffermdy bychan Tŷ Newydd yr [[Hendref]] gerllaw yn rhan o'r stryd hefyd. Cwmni'r Gwaith oedd piau'r fferm ac ar dir Tŷ Newydd yr codwyd y tai.
Yr unig dystiolaeth sydd gennym o bwy oedd tenantiaid cynta'r tai yw honno a geir yng Nghyfrifiad 1861.<ref>Cyfrifiad Plwyf Llanaelhaearn 1861</ref> Rhestrir saith, nid chwech, o dai, oherwydd daeth ffermdy bychan Tŷ Newydd yr [[Hendre (Llanaelhaearn)|Hendref]] gerllaw yn rhan o'r stryd hefyd. Cwmni'r Gwaith oedd piau'r fferm ac ar dir Tŷ Newydd yr codwyd y tai.


Dyma'r tenantiaid ym 1861 :
Dyma'r tenantiaid ym 1861 :

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:14, 21 Ebrill 2020

Pan osodwyd carreg sylfaen pentref newydd Trefor gan Trefor Jones, Prif Stiward Chwarel yr Eifl, ar 12 Ebrill 1856, enwyd y lle yn 'Bentref Trefor'. Chwe thŷ a godwyd bryd hynny, ond fe alwyd y pentref yn 'Trefor' a'r tai yn Trefor Row. Fe'u codwyd gan adeiladydd o'r fro, William Roberts, Lleiniau Hirion. Dymchwelwyd dau o'r tai ganol y 1960au er mwyn gwneud lle i ehangu'r Stôr (siopau Cymdeithas Gydweithredol Chwarelwyr yr Eifl). Erys y pedwar arall fel rhifau 52, 54, 56 a 58 Ffordd yr Eifl, ac maent wedi eu lleoli ger Pen Hendra, y groes sydd yng nghanol pentref Trefor.

Yr unig dystiolaeth sydd gennym o bwy oedd tenantiaid cynta'r tai yw honno a geir yng Nghyfrifiad 1861.[1] Rhestrir saith, nid chwech, o dai, oherwydd daeth ffermdy bychan Tŷ Newydd yr Hendref gerllaw yn rhan o'r stryd hefyd. Cwmni'r Gwaith oedd piau'r fferm ac ar dir Tŷ Newydd yr codwyd y tai.

Dyma'r tenantiaid ym 1861 :

Rhif 1 (Tŷ Newydd) : Thomas Jones, brodor o blwyf Llanaelhaearn, a'i wraig Jane, brodor o Nefyn. Daeth T.J. i weithio yn y chwarel ym 1853.

Rhif 2 : William Jones, brodor o Lanbedr-y-cennin, Dyffryn Conwy, a'i wraig Elizabeth, brodor o Forfa Nefyn, ynghyd â'u tair merch, Catherine, Ann ("cripil") a Grace.

Roedd teulu arall hefyd yn byw yn y tŷ bychan hwn :

James Cooke o Mount Sorrell, Swydd Gaerlŷr, a'i wraig Tabitha, un o Groby yn yr un sir. Roedd ganddynt un ferch, Elizabeth, a thri mab, William, John a Thomas, ill tri, fel eu tad, yn chwarelwyr.

Rhif 3 : David Roberts, o blwyf Pistyll, a'i wraig Ann (merch y Parchedig Jonathan Davies, Ty'n Gors, cyn-weinidog Bethlehem (A), a'u merch Mary.

Yma eto, fel yn Rhif 2, roedd teulu arall yn trigo :

William Bott (23 oed) a ddaeth i'r ardal tua 1860 o Markfield, Swydd Gaerlŷr, a'i wraig Mary (o Groby), a'u pedwar o blant mân - Henrietta, Mary Anne, Elizabeth Maria a John James.

Rhif 4 : Robert a Jane Griffith o Gyffin, Dyffryn Conwy, ddaeth i'r ardal hon tua 1856, a'u dwy ferch, Margaret ac Elinor. Roedd yma hefyd un lojar, Richard Jones o Benmaenmawr.

Rhif 5 : John Joseph Hughes y gof, brodor o Langïan yn Llŷn, a'i wraig Esther, un arall o ferched Ty'n Gors, a'u dwy ferch, Jane ac Elizabeth.

Rhif 6 : Jeremiah Jones, brodor o gyffiniau'r Rhyl, ddaeth yma o Benmaenmawr, a'i wraig Grace, merch Llwy-pric, tyddyn bychan ar lethrau'r Eifl.

Rhif 7 : William Davies, brodor o blwyf Llanaelhaearn, a'i wraig Catherine o blwyf Llannor. Roedd ganddynt bump o blant - Charles, David, William, Jane a John (Gorffwysfa'n ddiweddarach).


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad Plwyf Llanaelhaearn 1861