John Robinson, goruchwyliwr chwarel a blaenor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ganed '''John Robinson''' (1805-1867) yng Nghefneithin, [[Carmel]], yn fab hynaf Hugh ac Ellin Robinson, Cefn Eithin.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1804</ref> Fe'i adnabyddid fel bachgen gwyllt ac ymladdgar nes benderfynu callio, ac erbyn 1828, ac yntau'n 24 oed, roedd yn athro yn yr ysgol Sul yng Ngharmel, ac y mhen pedair blynedd fe'i godwyd yn flaenor. Daeth i adnabod [[John Jones, Tal-y-sarn]] yn dda, a dichon trwy hynny fe'i ddyrchafwyd yn oruchwyliwr [[Chwarel Dorothea]]. Yng Nghyfrifiad 1861, fe'i gofnodir yn byw yn Dorothea House, gyda'i wraig Margaret (dynes o Abererch, 20 mlynedd yn iau nag ef) a'u dau fab ifanc, John ac Owen Jones Robinson.<ref>Cyfrifiad 1861, Plwyf Llandwrog</ref> Bu'n aelod a blaenor yng [[Nghapel Tal-y-sarn (MC)|nghapel y Methodistiaid yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]] yn nes ymlaen yn ei oes.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.201-2</ref>
Ganed '''John Robinson''' (1805-1867) yng Nghefneithin, [[Carmel]], yn fab hynaf Hugh ac Ellin Robinson, Cefn Eithin.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1804</ref> Yn ei ieuenctid dywedid ei fod yn fachgen gwyllt ac ymladdgar nes iddo benderfynu callio, ac erbyn 1828, ac yntau'n 24 oed, roedd yn athro yn yr ysgol Sul yng Ngharmel, ac ymhen pedair blynedd fe'i codwyd yn flaenor. Daeth i adnabod [[John Jones, Tal-y-sarn]] yn dda, a dichon trwy hynny fe'i dyrchafwyd yn oruchwyliwr [[Chwarel Dorothea]]. Yng Nghyfrifiad 1861, cofnodir ei fod yn byw yn Dorothea House, gyda'i wraig Margaret (dynes o Aber-erch, 20 mlynedd yn iau nag ef) a'u dau fab ifanc, John ac Owen Jones Robinson.<ref>Cyfrifiad 1861, Plwyf Llandwrog</ref> Yn ddiweddarach yn ei oes bu'n aelod a blaenor yng [[Capel Tal-y-sarn (MC)|nghapel y Methodistiaid]] yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]].<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.201-2</ref>


Ni ddylid ei gymysgu a [[John Robinson, perchennog chwareli|John Robinson]], [[Plas Tal-y-sarn]] a oedd yn Sais o Lerpwl ac yn eglwyswr. Cymro a aned yn lleol i deulu oedd wedi byw ym mhlwyf Llandwrog am o leiaf dwy os nad tair cenhelaeth a mwy.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestrau Plwyf Llandwrog.</ref>
Ni ddylid ei gymysgu â [[John Robinson, perchennog chwareli|John Robinson]], [[Plas Tal-y-sarn]], perchennog chwareli a oedd yn Sais o Lerpwl ac yn eglwyswr. Cymro a aned yn lleol i deulu a oedd wedi byw ym mhlwyf Llandwrog am o leiaf ddwy os nad tair cenhedlaeth oedd John Robinson sy'n destun y darn hwn.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestrau Plwyf Llandwrog.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:09, 5 Mehefin 2022

Ganed John Robinson (1805-1867) yng Nghefneithin, Carmel, yn fab hynaf Hugh ac Ellin Robinson, Cefn Eithin.[1] Yn ei ieuenctid dywedid ei fod yn fachgen gwyllt ac ymladdgar nes iddo benderfynu callio, ac erbyn 1828, ac yntau'n 24 oed, roedd yn athro yn yr ysgol Sul yng Ngharmel, ac ymhen pedair blynedd fe'i codwyd yn flaenor. Daeth i adnabod John Jones, Tal-y-sarn yn dda, a dichon trwy hynny fe'i dyrchafwyd yn oruchwyliwr Chwarel Dorothea. Yng Nghyfrifiad 1861, cofnodir ei fod yn byw yn Dorothea House, gyda'i wraig Margaret (dynes o Aber-erch, 20 mlynedd yn iau nag ef) a'u dau fab ifanc, John ac Owen Jones Robinson.[2] Yn ddiweddarach yn ei oes bu'n aelod a blaenor yng nghapel y Methodistiaid yn Nhal-y-sarn.[3]

Ni ddylid ei gymysgu â John Robinson, Plas Tal-y-sarn, perchennog chwareli a oedd yn Sais o Lerpwl ac yn eglwyswr. Cymro a aned yn lleol i deulu a oedd wedi byw ym mhlwyf Llandwrog am o leiaf ddwy os nad tair cenhedlaeth oedd John Robinson sy'n destun y darn hwn.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1804
  2. Cyfrifiad 1861, Plwyf Llandwrog
  3. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.201-2
  4. Archifdy Caernarfon, Cofrestrau Plwyf Llandwrog.