Glynn Wynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd y Cyrnol '''Glynn Wynn'', AS (?1739-1793) yn frawd iau [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]], ac yn fab i [[Syr John Wynn, 2il Farwnig | Roedd y Cyrnol '''Glynn Wynn''', AS (?1739-1793) yn frawd iau i [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]], ac yn fab i [[Syr John Wynn]], yr 2il Farwnig. Gwasanaethodd fel aelod seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon, 1768-1781. | ||
Ar 11 Ionawr 1766, priododd â Bridget, merch Plas Penrhyn Creuddyn ger Llandudno. Cafodd y ddau bedwar o feibion, sef John, 1766; William (William Glynn Coetmor, cyfenw a fabwysiadodd i gofnodi etifeddu eiddo teulu Plas ym Mhenrhyn, sef Coetmor); [[Thomas Wynn Belasyse|Thomas Edward Glynn]] (a ychwanegodd y cyfenw ''Belasyse'' wrth briodi â Charlotte, merch Iarll Fauconberg); Glynn (a briododd ag Elizabeth Hamilton); ac un ferch, Bridget (marw 1826), a briododd â John, 4ydd Iarll Egmont sef ŵyr tad-yng-nghyfraith ei hewythr - roedd gwraig ei hewythr Syr Thomas yn ferch i'r 2il Iarll.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.173</ref> | |||
Ym 1768, 1774 a 1780 cafodd ei ethol a'i ailethol yn ddiwrthwynebiad fel aelod seneddol dros fwrdeistrefi Caernarfon (sef Caernarfon, Conwy, Cricieth, Pwllheli a Nefyn). Roedd gan ei deulu a'i gefnogwyr reolaeth dros fwyafrif y pleidleiswyr, ond hefyd nodwyd ar y pryd ei fod "yn fwy poblogaidd o lawer yn y sir na'i frawd hŷn, Arglwydd Newborough". Nid oedd ei gefnogaeth i'r naill ochr yn y senedd yn gyson, ac roedd teuluoedd Paget a Bulkeley yn ei gefnogi neu ei wrthwynebu yn ôl eu diddordebau hwy ar y pryd. Ym 1784, | Bu Glynn Wynn yn filwr proffesiynol rhwng 1755 a 1773. O 1762 hyd ei farwolaeth daliodd swydd protonotari a chlerc y Goron ar gyfer Gogledd Cymru, swydd weinyddol a ddaeth â chyflog eithaf dda iddo. Efallai ei fod wedi ymneilltuo o wasanaeth llawn-amser yn y fyddin ers blynyddoedd cyn ei ymddeoliad, arfer cyffredin yn y 18g. | ||
Ym 1768, 1774 a 1780 cafodd ei ethol a'i ailethol yn ddiwrthwynebiad fel aelod seneddol dros fwrdeistrefi Caernarfon (sef Caernarfon, Conwy, Cricieth, Pwllheli a Nefyn). Roedd gan ei deulu a'i gefnogwyr reolaeth dros fwyafrif y pleidleiswyr, ond hefyd nodwyd ar y pryd ei fod "yn fwy poblogaidd o lawer yn y sir na'i frawd hŷn, Arglwydd Newborough". Nid oedd ei gefnogaeth i'r naill ochr yn y senedd yn gyson, ac roedd y ddau deulu dylanwadol o Fôn, sef teuluoedd Paget (Plas Newydd) a Bulkeley (Baron Hill) yn ei gefnogi neu'n ei wrthwynebu yn ôl eu diddordebau hwy ar y pryd. Ym 1784, ni wnaeth y ddau deulu hyn ei wrthwynebu yn yr etholiad, ond fe safodd Thomas, Arglwydd Newborough - ei frawd hŷn - yn ei erbyn. Bu Glynn Wynn yn llwyddiannus, ond fe holltodd y frwydr rhwng dau frawd y gefnogaeth i'r teulu. Yn etholiad 1790, safodd Paget, sef yr Arglwydd Uxbridge, yn erbyn Glynn Wynn ac fe gollodd Wynn ei sedd. Bu farw dair blynedd yn ddiweddarach.<ref>‘’History of Parliament’’ [https://www.historyofparliamentonline.org/volume/1754-1790/member/wynn-glyn-1739-93], cyrchwyd 30.3.2020. Ceir esboniad manwl yn yr erthygl ar safbwyntiau Glynn Wynn, a'r sawl newid a wnaeth o ran cyfeiriad gwleidyddol.</ref> Etholiad 1790 oedd diwedd ymwneud teulu Wynn â'r senedd am dros 35 o flynyddoedd, er gwaethaf ymdrechion ei frawd Thomas Wynn Belasyse i gael ei fabwysiadu fel yr aelod dros Fiwmares yn yr 1800au cynnar. Cafodd ei nai [[Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough]] wasanaethu am bedair blynedd fel aelod seneddol y Bwrdeistrefi o 1826-1830, ond o hynny ymlaen canolbwyntiodd y teulu ar eu pleserau, eu hystadau a materion lleol. | |||
Roedd yr ymrafael rhwng y ddau frawd wedi esgor ar achosion cyfreithiol, a wnaeth gryn dipyn i dlodi cyfoeth y teulu am hanner can mlynedd.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/''passim''.</ref> | Roedd yr ymrafael rhwng y ddau frawd wedi esgor ar achosion cyfreithiol, a wnaeth gryn dipyn i dlodi cyfoeth y teulu am hanner can mlynedd.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/''passim''.</ref> |
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:44, 13 Tachwedd 2022
Roedd y Cyrnol Glynn Wynn, AS (?1739-1793) yn frawd iau i Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough, ac yn fab i Syr John Wynn, yr 2il Farwnig. Gwasanaethodd fel aelod seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon, 1768-1781.
Ar 11 Ionawr 1766, priododd â Bridget, merch Plas Penrhyn Creuddyn ger Llandudno. Cafodd y ddau bedwar o feibion, sef John, 1766; William (William Glynn Coetmor, cyfenw a fabwysiadodd i gofnodi etifeddu eiddo teulu Plas ym Mhenrhyn, sef Coetmor); Thomas Edward Glynn (a ychwanegodd y cyfenw Belasyse wrth briodi â Charlotte, merch Iarll Fauconberg); Glynn (a briododd ag Elizabeth Hamilton); ac un ferch, Bridget (marw 1826), a briododd â John, 4ydd Iarll Egmont sef ŵyr tad-yng-nghyfraith ei hewythr - roedd gwraig ei hewythr Syr Thomas yn ferch i'r 2il Iarll.[1]
Bu Glynn Wynn yn filwr proffesiynol rhwng 1755 a 1773. O 1762 hyd ei farwolaeth daliodd swydd protonotari a chlerc y Goron ar gyfer Gogledd Cymru, swydd weinyddol a ddaeth â chyflog eithaf dda iddo. Efallai ei fod wedi ymneilltuo o wasanaeth llawn-amser yn y fyddin ers blynyddoedd cyn ei ymddeoliad, arfer cyffredin yn y 18g.
Ym 1768, 1774 a 1780 cafodd ei ethol a'i ailethol yn ddiwrthwynebiad fel aelod seneddol dros fwrdeistrefi Caernarfon (sef Caernarfon, Conwy, Cricieth, Pwllheli a Nefyn). Roedd gan ei deulu a'i gefnogwyr reolaeth dros fwyafrif y pleidleiswyr, ond hefyd nodwyd ar y pryd ei fod "yn fwy poblogaidd o lawer yn y sir na'i frawd hŷn, Arglwydd Newborough". Nid oedd ei gefnogaeth i'r naill ochr yn y senedd yn gyson, ac roedd y ddau deulu dylanwadol o Fôn, sef teuluoedd Paget (Plas Newydd) a Bulkeley (Baron Hill) yn ei gefnogi neu'n ei wrthwynebu yn ôl eu diddordebau hwy ar y pryd. Ym 1784, ni wnaeth y ddau deulu hyn ei wrthwynebu yn yr etholiad, ond fe safodd Thomas, Arglwydd Newborough - ei frawd hŷn - yn ei erbyn. Bu Glynn Wynn yn llwyddiannus, ond fe holltodd y frwydr rhwng dau frawd y gefnogaeth i'r teulu. Yn etholiad 1790, safodd Paget, sef yr Arglwydd Uxbridge, yn erbyn Glynn Wynn ac fe gollodd Wynn ei sedd. Bu farw dair blynedd yn ddiweddarach.[2] Etholiad 1790 oedd diwedd ymwneud teulu Wynn â'r senedd am dros 35 o flynyddoedd, er gwaethaf ymdrechion ei frawd Thomas Wynn Belasyse i gael ei fabwysiadu fel yr aelod dros Fiwmares yn yr 1800au cynnar. Cafodd ei nai Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough wasanaethu am bedair blynedd fel aelod seneddol y Bwrdeistrefi o 1826-1830, ond o hynny ymlaen canolbwyntiodd y teulu ar eu pleserau, eu hystadau a materion lleol.
Roedd yr ymrafael rhwng y ddau frawd wedi esgor ar achosion cyfreithiol, a wnaeth gryn dipyn i dlodi cyfoeth y teulu am hanner can mlynedd.[3]