Gorsaf reilffordd Llanwnda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Carlmorris y dudalen Llanwnda i Gorsaf reilffordd Llanwnda
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 12 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Enw gwreiddiol '''Gorsaf Llanwnda''' oedd [[Gorsaf reilffordd Pwllheli Road|Pwllheli Road]]. Enw ar arhosfan ar Reilffordd Nantlle oedd Pwllheli Road, a safai gerllaw safle diweddarach Gorsaf reilffordd Llanwnda. Fe'i hagorwyd ym 1856 pan ddechreuodd [[Rheilffordd Nantlle]] gludo teithwyr mewn wagenni a dynnid gan geffylau.  Roedd cyn lleied o dai yn yr ardal fel mai prif bwrpas yr orsaf oedd gwasanaethu'r tir isel ger y môr sy'n ymestyn o [[Llanwnda|Lanwnda]] i [[Clynnog Fawr|Glynnog Fawr]] a [[Trefor|Threfor]]  - a hyd yn oed Pwllheli (cofier na fyddai rheilffordd yn cyrraedd y dref honno tan 1866) gan nad oedd gorsaf agosach i'r mannau hynny. Er bod [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes (Rheilffordd Nantlle)]] lawn agosed, roedd y tramiau'n symud mor araf fel y byddai'n gynt wrth adael y trên yma yn hytrach na theithio ymlaen hyd Pen-y-groes.


[[Categori:Gorsafoedd Rheilffordd]]
Fe agorwyd gorsaf wedyn gan [[Rheilffordd Sir Gaernarfon|Reilffordd Sir Gaernarfon]] ym 1867 ar safle hen orsaf lein Nantlle, ac fe'i caewyd gan Reilffyrdd Prydeinig ym 1964. Nid oedd yno ond un platfform ac un seidin a ddefnyddid ar gyfer wagenni glo fel rheol. <ref>''LMS Branch Lines in North Wales'', W.G.Rear, Wild Swan Publns., (1986) </ref>
 
Yn ystod y 1930au, William Jones (Wil) Llwyn Forwyn, Llangybi, oedd yn gweithio yno fel portar. Fe'i laddwyd yn ddyn ifanc prin ddeg ar hugain oed mewn damwain moto beic. Roedd ar ei ffordd i'w waith yn y stesion pan aeth yn erbyn buwch ar y lôn ac fe'i taflwyd oddi ar y beic ac yn erbyn clawdd cerrig. Bu ei wraig wedyn yn cadw [[Siop Gurn Goch]].<ref>Gwybodaeth gan olygydd arall (Cyfaill Eben)</ref>
 
Mae'r safle bellach yn faes parcio ar gyfer Lôn Eifion, gyferbyn â thafarn (gaeëdig) y [[Tafarn y Goat (Llanwnda)|Goat]]. Roedd yn 900 llath o [[Gorsaf reilffordd Dinas|orsaf Dinas]] ar y naill ochr, ac ychydig dros filltir o [[Gorsaf reilffordd Y Groeslon|orsaf Y Groeslon]] ar y llall.
 
Tua diwedd y 19eg ganrif, roedd gwaith trwsio wagenni y tu ôl i resdai Gwêl-y-môr. Yng nghyfeiriadur Sutton am 1889-90, dangosir manylion y cwmni bach hwn, sef R Williams a'i fab, oedd â depo gwagenni rheilffordd.<ref>''Sutton's Directory of North Wales, 1889-90''</ref> Roedd seidin ar gyfer y gwaith hwn yn arwain oddi ar y brif lein i'r darn tir sydd ar ochr [[Lôn Eifion]] i'r de o erddi cefn Rhes Gwelfor.<ref>Gwaith maes</ref>
{{eginyn}}
 
==Cyfeiriadau==
 
{{cyfeiriadau}}
 
 
 
 
[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]
[[Categori:Rheilffordd Sir Gaernarfon]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:47, 18 Ionawr 2022

Enw gwreiddiol Gorsaf Llanwnda oedd Pwllheli Road. Enw ar arhosfan ar Reilffordd Nantlle oedd Pwllheli Road, a safai gerllaw safle diweddarach Gorsaf reilffordd Llanwnda. Fe'i hagorwyd ym 1856 pan ddechreuodd Rheilffordd Nantlle gludo teithwyr mewn wagenni a dynnid gan geffylau. Roedd cyn lleied o dai yn yr ardal fel mai prif bwrpas yr orsaf oedd gwasanaethu'r tir isel ger y môr sy'n ymestyn o Lanwnda i Glynnog Fawr a Threfor - a hyd yn oed Pwllheli (cofier na fyddai rheilffordd yn cyrraedd y dref honno tan 1866) gan nad oedd gorsaf agosach i'r mannau hynny. Er bod Gorsaf reilffordd Pen-y-groes (Rheilffordd Nantlle) lawn agosed, roedd y tramiau'n symud mor araf fel y byddai'n gynt wrth adael y trên yma yn hytrach na theithio ymlaen hyd Pen-y-groes.

Fe agorwyd gorsaf wedyn gan Reilffordd Sir Gaernarfon ym 1867 ar safle hen orsaf lein Nantlle, ac fe'i caewyd gan Reilffyrdd Prydeinig ym 1964. Nid oedd yno ond un platfform ac un seidin a ddefnyddid ar gyfer wagenni glo fel rheol. [1]

Yn ystod y 1930au, William Jones (Wil) Llwyn Forwyn, Llangybi, oedd yn gweithio yno fel portar. Fe'i laddwyd yn ddyn ifanc prin ddeg ar hugain oed mewn damwain moto beic. Roedd ar ei ffordd i'w waith yn y stesion pan aeth yn erbyn buwch ar y lôn ac fe'i taflwyd oddi ar y beic ac yn erbyn clawdd cerrig. Bu ei wraig wedyn yn cadw Siop Gurn Goch.[2]

Mae'r safle bellach yn faes parcio ar gyfer Lôn Eifion, gyferbyn â thafarn (gaeëdig) y Goat. Roedd yn 900 llath o orsaf Dinas ar y naill ochr, ac ychydig dros filltir o orsaf Y Groeslon ar y llall.

Tua diwedd y 19eg ganrif, roedd gwaith trwsio wagenni y tu ôl i resdai Gwêl-y-môr. Yng nghyfeiriadur Sutton am 1889-90, dangosir manylion y cwmni bach hwn, sef R Williams a'i fab, oedd â depo gwagenni rheilffordd.[3] Roedd seidin ar gyfer y gwaith hwn yn arwain oddi ar y brif lein i'r darn tir sydd ar ochr Lôn Eifion i'r de o erddi cefn Rhes Gwelfor.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. LMS Branch Lines in North Wales, W.G.Rear, Wild Swan Publns., (1986)
  2. Gwybodaeth gan olygydd arall (Cyfaill Eben)
  3. Sutton's Directory of North Wales, 1889-90
  4. Gwaith maes