Capel Nebo (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Codwyd '''Capel Nebo''' i wasanaethu trigolion ardal wasgaredig Mynydd Llanllyfni oedd am arddel dull a chredo'r Presbyteriaid Calfinaidd ym 1826. Cyn...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 11 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Codwyd '''Capel Nebo''' i wasanaethu trigolion ardal wasgaredig [[Mynydd Llanllyfni]] oedd am arddel dull a chredo'r Presbyteriaid Calfinaidd ym 1826. Cyn hynny, am ryw 20 mlynedd bu'r ffyddloniaid yn cadw ysgol Sul mewn amryw o ffermdai'r fro. Erbyn canol y 19g, roedd y pentref a dyfodd o amgylch y capel wedi cael ei enwi'n Nebo.
Codwyd '''Capel Nebo''' i wasanaethu trigolion ardal wasgaredig [[Mynydd Llanllyfni]] oedd am arddel dull a chredo'r Presbyteriaid Calfinaidd ym 1826. Cyn hynny, am ryw 20 mlynedd bu'r ffyddloniaid yn cadw ysgol Sul mewn amryw o ffermdai'r fro. Hyd 1843, parhodd y capel yn swyddogol fel ysgoldy yn perthyn i achos [[Capel Salem (MC), Llanllyfni]] ond y flwyddyn honno sefydlwyd eglwys Nebo fel achos Calfinaidd ar wahân. Erbyn canol y 19g, roedd y pentref a dyfodd o amgylch y capel wedi cael ei enwi'n Nebo. Codwyd capel newydd ym 1860, ei ailadeiladu a'i helaethu ym 1874 ac fe'i helaethwyd ymhellach ym 1878.


Isod gweler talfyriad o anerchiad ysgrifennydd y capel ar achlysur ei ganmlwyddiant ym 1926:
Cafwyd yr enw'n wreiddiol o'r Beibl. Mynydd Nebo oedd y mynydd (sydd erbyn hyn yng ngwlad Iorddonen) lle cafodd Moses weld gwlad yr addewid o'i gopa. Dichon mai oherwydd yr olygfeydd eang a geir o Fynydd Llanllyfni y dewiswyd yr enw.


Dywed hanes wrthym mai yn y flwyddyn 1809 y cychwynnwyd ysgol Sul cyntaf yr ardal mewn lle o’r enw Tyn y Fron. Nid oes gennym fawr o hanes am yr ysgol yno. Symudwyd oddi yno i dy un o’r enw Catrin Salmon, yn agos i Rhwngddwyafon. Cynyddodd yr Ysgol yn y lle hwn, ac fe’i cynhaliwyd mewn tri thŷ. Yr oedd yr ysgol hon yn enwog mewn dysgu’r Beibl. Y rhai oedd yn gofalu am yr ysgol , Robert Evans Cil-llidiart, Hugh Hughes y Caerau, a John Pritchard Tirionpelyn. Bu'r tri hyn yn flaenoriaid yn Llanllyfni yn 1821.
Isod gweler addasiad a thalfyriad o anerchiad ysgrifennydd y capel ar achlysur ei ganmlwyddiant ym 1926<ref>Mae'r erthygl wedi ei thalfyrru o draethawd lawn Edwin O. Roberts, ysgrifennydd y capel, ar achlysur dathlu canmlwyddiant codi'r capel cyntaf, sydd i'w gweld ar Wefan Dyffryn Nantlle, [http://www.nantlle.com/hanes-nebo-nasareth-canmlwyddiant-capel-nebo.htm]</ref>:


Pan adeiladwyd Capel Nasareth gan yr Annibynnwr, fe symudwyd yr ysgol yno, elai rhai o’r Methodistiaid i ysgol Llanllyfni. Yn y cyfnod hwn sefydlwyd ysgol uwch i fyny yn yr ardal, sef yn Maesneuadd. Symudwyd oddi yno i le o’r enw Pencraig, lle y trigai un o’r enw John Michael, gofelid am yr ysgol ganddo ef a Griffith Williams Taleithin. Hen lanc gweithgar a duwiol oedd Griffith Williams, un a brofwyd yn ddychryn i aniwioldeb. Symudwyd drachefn o Bencraig i Taldrwst, lle'r oedd un o’r enw Thomas Edwards yn byw. Gofelid am yr ysgol ganddo ef a William Roberts, Buarthyfoty, a William Roberts Cae’rengan.
==Yr ysgol Sul gychwynnol==
Dywed hanes wrthym mai yn y flwyddyn 1809 y cychwynnwyd ysgol Sul cyntaf yr ardal mewn lle o’r enw Tyn y Fron. Nid oes gennym fawr o hanes am yr ysgol yno. Symudwyd oddi yno i dy un o’r enw Catrin Salmon, yn agos i Rhwngddwyafon. Cynyddodd yr ysgol yn y lle hwn, ac fe’i cynhaliwyd mewn tri thŷ. Yr oedd yr ysgol hon yn enwog mewn dysgu’r Beibl. Y rhai oedd yn gofalu am yr ysgol , Robert Evans Cil-llidiart, Hugh Hughes y Caerau, a John Pritchard Tirionpelyn. Bu'r tri hyn yn flaenoriaid yn [[Llanllyfni]] yn 1821.


1825
Pan adeiladwyd [[Capel Nasareth (A)|Capel Nasareth]] gan yr Annibynnwyr, fe symudwyd yr ysgol yno, [ond] elai rhai o’r Methodistiaid i ysgol [Sul] Llanllyfni. Yn y cyfnod hwn sefydlwyd ysgol uwch i fyny yn yr ardal, sef ym Maesneuadd. Symudwyd oddi yno i le o’r enw Pencraig, lle y trigai un o’r enw John Michael; gofelid am yr ysgol ganddo ef a Griffith Williams Taleithin. Hen lanc gweithgar a duwiol oedd Griffith Williams, un a brofwyd yn ddychryn i annuwioldeb. Symudwyd drachefn o Bencraig i Taldrwst, lle'r oedd un o’r enw Thomas Edwards yn byw. Gofelid am yr ysgol ganddo ef a William Roberts, Buarthyfoty, a William Roberts Cae’rengan.


Yr oedd teimlad o anesmwythodd ym mhlith yr hen dadau o eisiau ysgoldy, ac i’r amcan hwnnw prynwyd tir gan Hugh Roberts Ismael, Glan y Gors, am bum gini.
Yr oedd teimlad o anesmwythodd ym mhlith yr hen dadau o eisiau ysgoldy, ac i’r amcan hwnnw prynwyd tir gan Hugh Roberts Ismael, Glan y Gors, am bum gini.


Yn 1826 Adeiladwyd Ysgoldy. William Williams Tynyfron oedd yr adeiladydd, gofelid am y gwaith gan Owen Evans Coed cae du, ac Evan Roberts Dolywenith. Llawr pridd a meinciau oedd i’r Capel cyntaf oddi mewn. Wedi gorffen y capel daeth y rhai oedd ar wasgar yn gytûn i’r un lle, sef rhai ‘r Taldrwst, rhai o Nazareth,a rhai o Lanllyfni.
==Codi'r capel cyntaf==
Yn 1826 Adeiladwyd Ysgoldy. William Williams Tynyfron oedd yr adeiladydd; gofelid am y gwaith gan Owen Evans Coed cae du, ac Evan Roberts Dolywenith. Llawr pridd a meinciau oedd i’r capel cyntaf oddi mewn. Wedi gorffen y capel daeth y rhai oedd ar wasgar yn gytûn i’r un lle, sef rhai‘r Taldrwst, rhai o Nazareth,a rhai o Lanllyfni.


Yr Arolygydd cyntaf ydoedd Daniel Williams Bryntirion, wedi hynny Richard Griffith Penyryrfa. Ond mae gan Asiedydd nodiad yn y "Gymru" mai Ellis Roberts Pantyrarian oedd yr Arolygwr cyntaf. Holwyr cyntaf yr ysgol oeddynt John L. Williams Maes neuadd, a William Evans, Talymaes.
Mae’n debyg yn ôl yr hanes mai John Williams, Llecheiddior a bregethodd gyntaf yn y capel newydd ar brynhawn Sul Ionawr 1827. Ymhen ysbaid ar ôl cael pregeth ar y Sul fe geid cyfarfod Eglwysig ar brydiau dan arweiniad un neu ddau o flaenoriaid Llanllyfni.


Mae’n debyg yn ôl yr hanes mai John Williams Llecheiddior a bregethodd gyntaf yn y Capel newydd ar brydnawn Sul Ionawr 1827. Ymhen ysbaid ar ôl cael pregeth ar y Sul fe geid cyfarfod Eglwysig ar brydiau dan arweiniad un neu ddau o flaenoriaid Llanllyfni.
1828
  Rhif yr Ysgol yn 28ain


1828
1835
Trefnwyd Mynydd Llanllyfni yn daith gyda Thalysarn


Rhif yr Ysgol yn 28ain
==Sefydlu eglwys ar wahân==
1842
Awydd Ysgoldy’r Mynydd i sefydlu Eglwys. Gwrthwynebiad yn Llanllyfni gan fod y ddyled yno yn £700.00


1835
1843
Sefydlu Eglwys yn Nebo. A gosodwyd y ddyled o £60.00 oedd yn aros ar yr ysgoldy i’w thalu gan yr Eglwys yma. Rhif yr Eglwys ar ei sefydliad 36. Cawn restr hefyd yn y llyfr Hobley o’r rhai a ymadawodd o Lanllyfni i ffurfio Eglwys yn Nebo, sef 47 o enwau: Meibion 22 Merched 25.


Trefnwyd Mynydd Llanllyfni yn daith gyda Thalysarn
1844
Dewiswyd Richard Roberts Bodychain a Richard Griffiths Penyryrfa yn flaenoriaid. Dyma’r blaenoriaid cyntaf yn Eglwys Nebo.


1842
==Codi capel newydd, helaethu hwnnw wedyn, ac atgyweirio==
1860
Caniatâd oddi wrth y Cyfarfod Misol wedi brwydr fawr, i adeiladu Capel newydd ( yn mesur 13 llath wrth 8 llath). Dyled eisoes ar yr hen Gapel yn £50.00. Wedi codi'r Capel newydd y ddyled yn £340.00 Yn cael ei agor Mehefin 25 ain 1861.


Awydd Ysgoldy’r Mynydd i sefydlu Eglwys. Gwrthwynebiad yn Llanllyfni gan fod y ddyled yno yn £700.00
1862
Cafodd yr Eglwys ei Bugail cyntaf y Parch William Jones, yr un pryd ac y daeth i Lanllyfni. Y pregethwr cyntaf a godwyd yma ydoedd John Jones, Bryntrallwm, gŵr ieuanc a llawer o hynodrwydd ynddo. Yr oedd gydag [[Eben Fardd]] yn yr ysgol pan fu farw yn 22ain oed Ionawr 7fed.


1843
1870
  Dechreuodd y Parch Robert Thomas ar ei waith [yn Nebo] fel Bugail. Yn yr un flwyddyn y dechreuodd y Parch William Ll. Griffith, Llanbedr, bregethu.


Sefydlu Eglwys yn Nebo. A gosodwyd y ddyled o £60.00 oedd yn aros ar yr ysgoldy i’w thalu gan yr Eglwys yma. Rhif yr Eglwys ar ei sefydliad 36. Yn Llanllyfni yr oeddynt yn talu eu casgliad mis hyd 1846.
1873
[Yn ystod] y flwyddyn hon helaethwyd y Capel. Yr oedd y ddyled eisoes yn £207.00 ac yn niwedd 1874 yr oedd y ddyled yn £980.00.


Trefniant ydoedd hwn ar gyfer y Weinidogaeth. Yma cawr restr o’r rhai mwyaf blaenllaw yn yr Ysgol ar sefydliad yr Eglwys. Brodyr yn unig: Robert Williams Tŷ Capel, Hugh Jones Blaenyfoel, John Pritchard Penpelyn, John Williams Pant Pistyll, Ellis Roberts Pantyrarian,, William Pritchard Tŷ Cerrig, Hugh Robert Ishmael Glanygors, William Williams Tynyfron, gwr a’i ffyddlondeb yn ddiarhebol. Thomas Jones Glangors, Robert Williams Penmynydd, Robert Griffith Brynperson, Morgan Jones Talymaes, Owen Morris, Owen Ellis Nasareth, David Griffith Tŷ Capel, - efe a laddwyd yn y chwarel. William Roberts, Nantynoddfa, - Ymfudodd i’r America. Ellis Roberts Pantyrarian yn cyfarfod a’i ddiwedd yng Nghloddfa’r Lon 1839.
1878
Gorfu atgywiro y Capel o fewn pedair blynedd ar ôl helaethu fu arno yn 1874 [ac yr oedd] hyn yn brofedigaeth fawr i’r Eglwys . Y ddyled yn 1877 yn £669.00, yn 1879 yn £1,539.00. Rhif yr Eglwys yn 165.


Dywedir am Hugh Robert Ismael nis gallai ddarllen ond cafai y fath bleser yn ei henaint wrth weled a chlywed eraill yn gwneud fel y byddai bob amser yn bresennol.
==Blynyddoedd llewyrchus yr achos==
1893
  Yr eglwys yn rhoi galwad i’r Parch J.M. Jones i’w bugeilio.


Rhif yr Ysgol yn 64 o leiaf.
1898
  Nebo a Saron ([Tal-y-sarn]) yn ymwahanu fel taith Sabbothol.


Cawn restr hefyd yn y llyfr Hobley o’r rhai a ymadawodd o Lanllyfni i ffurfio Eglwys yn Nebo, sef 47 o enwau. Meibion 22 Merched 25.
1900
Rhif yr aelodau y flwyddyn hon yn 187. Swm y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn yn £410.8.3.  


Y mae nodiad i Moses Jones, Llwyn pregethu yma, derbyniodd ddau swllt am ei lafur. Bu yma drachefn a dderbyniodd bum swllt.
1901
Yr oedd y set fawr yn Nebo yn fawr mewn mwy nag un ystyr y pryd hwn. Yr oedd ynddi gewri o ddynion yn swyddogion. Yr oedd eu dylanwad adre ac oddi adre. Yr oedd y cyfarfod misol yn gwybod amdanynt. Yr oeddynt yn flaenoriaid mewn gwirionedd. Yr oedd yma saith ohonynt: David Griffith, Post Office; Hugh Williams, Glanygors; William Roberts, Tyddyn hen; Griffith William Jones, Post Office Nasareth; Evan Jones, Brynperson; John Hughes, Brynffynnon; TA Griffith, Post Office.


1844
Yr oedd caniadaeth y cysegr yn bur uchel yn y cyfnod hwn. Dyma'r adeg [y cafwyd] offeryn perthynol i’r Eglwys, pryd y gwasanaethwyd arni gan Mr. Morris R. Roberts, Tyddyn hen a Morris R. Roberts, Ty'n y ffridd.


Dewiswyd Richard Roberts Bodychain a Richard Griffiths Penyryrfa yn flaenoriaid. Dyma’r blaenoriaid cyntaf yn Eglwys Nebo.
1903
Rhif yr Eglwys yn 200. Erbyn diwedd y flwyddyn yn 210. Y ddyled yn £174.15.09. Gwerth y Gymdeithas di-log yn £639.11. Yr oedd yr Eglwys y flwyddyn hon wedi ei llanw a sêl brwdfrydig iawn, a phenderfynwyd dwyn gwelliantau ynglŷn â’r adeiladau a dewiswyd pwyllgor i’r amcanion. Yr oedd yr amgylchiadau yn bur ffafriol. Holl gasgliadau yr Eglwys yn ganmoliadwy iawn. Penderfynwyd tynnu i lawr yr hen Tŷ Capel, [gan] adeiladu ystafell y Festri, a thŷ Capel newydd, ac adgyweirio'r Capel. Gosodwyd y gwaith i Robert A. Williams o [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] a chafwyd adeiladau gwych a theilwng. Tra roedd y gwaith yn mynd ymlaen cynhaliwyd y gwasanaethau yn yr Ysgoldy.


1846
1904
  Wedi gorffen yr adeiladau newydd yr oedd y ddyled Rhagfyr 1904 yn £954.2.8, tra oedd yn llaw y trysorydd Mr. David Griffith £105.4.4.


Bu farw Jane Griffith Bryngwyn hen wraig dduwiol a llawer o hynodrwydd crefyddol yn perthyn iddi. Hefyd David Griffiths yr Ysgoldy. Ta dy diweddar David Griffith Bryn Llyfnwy, neu’r Post Office. Genedigol o Garreg y Llam yn Lleyn . Hoff o’i ddosbarth yn yr Ysgol. Yn ddychryn i aniwioldeb. Gweddïwr hynod. Cyfarfu a’i ddiwedd yn y chwarel.
  Blwyddyn rhyfedd iawn ydoedd hon, blwyddyn "Diwygiad Mawr 1904". Nos Iau, Rhagfyr. 22 ain, noson Seiat yn Nebo y torrodd y diwygiad allan yn yr ardal hon. Cynhaliwyd Seiat fel arfer a dim byd neilltuol i’w deimlo, ond wedyn cafwyd cyfarfod gweddi, ac yn hwnnw cafwyd tywalltiad helaeth o’r Ysbryd Glân.


Dyna diwedd yr ugain mlynedd gyntaf o hanes y Capel.
1905
Codi'r Parch Evan Lloyd Jones yn bregethwr. Yr oedd wedi dechrau fel athro yn [[Ysgol Gynradd Nebo|Ysgol elfennol Nebo]], ond clywodd yn y Diwygiad lais yn ei alw i wasanaeth uwch ac ufuddhaodd yntau.  


1850
1922
Y Parch R. W. Roberts B.A.B.D. yn dechrau ar ei waith fel bugail.


Codi Robert Williams Carreg Lwyd yn flaenor.
Bu i’r Eglwys yn ystod y can mlynedd bedwar o weinidogion, codwyd saith o bregethwyr yn yr eglwys, a bu saith ar hugain o flaenoriaid yn gwasanaethu yn ystod y cyfnod.


1856
Edwin O. Roberts, Ysgrifennydd. (''Talfyrrwyd'').


Codi William Jones , Nazareth yn flaenor.
==Hanes diweddarach==
 
Gyda'r edwino cyffredinol ar achosion crefyddol a ddechreuodd gyda dadrithiad llawer yn sgîl hanesion arswydus y Rhyfel Byd Cyntaf, ac a gyflymodd ar hyd y ganrif, gwaniodd yr achos. Ffactor arall, efallai, oedd y mewnlifiad o rai di-Gymraeg a fantesiodd ar brisiau isel y tai sâl yn yr ardal. Fe'i gaewyd cyn 1998. Erbyn hynny roedd y capel wedi cael ei droi'n dŷ annedd.<ref>Gwefan Coflein [https://www.coflein.gov.uk/en/site/7008/details/nebo-chapel-calvinistic-methodist-nebo], cyrchwyd 16.3.2020</ref>
1859
 
Blwyddyn y diwygiad mawr. Dewiswyd William Griffith Bryn Bugeiliaid yn flaenor.
 
1860
 
Caniatâd oddi wrth y Cyfarfod Misol wedi brwydr fawr, i adeiladu Capel newydd ( yn mesur 13 llath wrth 8 llath).
 
Dyled eisoes ar yr hen Gapel yn £50.00. Wedi codi'r Capel newydd y ddyled yn £340.00 Yn cael ei agor Mehefin 25 ain 1861. Pregethwyd gan y Parchedigion David Davis Corwen, William Prytherch,a William O. Williams Pwllheli.
 
1862
 
Cafodd yr Eglwys ei Bugail cyntaf y Parch William Jones, Yr un pryd ac y daeth i Lanllyfni. Y pregethwr cyntaf a godwyd yma ydoedd John Jones bryntrallwm gwr ieuanc a llawer o hynodrwydd ynddo. Yr oedd gydag Eben Fardd yn yr ysgol pan fu farw yn 22ain oed Ionawr 7fed.
 
1863
 
Nid oes dim yn ychwaneg i ddywedyd am yr ail ugain mlynedd o hanes y Capel a’r Eglwys.
 
1869
 
Codi Griffith Owen yn bregethwr yn 22 oed. Bu farw yn 27 oed pan yn efrydwr yn y Bala. Yr oedd ei dad Thomas Griffith yn arweinydd y canu.
 
1870
 
Dechreuodd y Parch Robert Thomas ar ei waith yma fel Bugail. Yn yr un flwyddyn y dechreuodd y Parch William Ll. Griffith, Llanbedr, bregethu. Eto dewiswyd Griffith Jones Talymignedd yn flaenor.
 
1871
 
Bu farw Hugh John Blaenyfoel wedi gwasanaethu yn y swydd o ysgrifennydd yr Eglwys am ugain mlynedd yn ffyddlon, manwl a gofalus. Gadawodd y swm o £20.00 yn gymynrodd tuag at y ddyled, Yn absenoldeb y blaenoriaid gweithredai fel blaenor.
 
1873
 
Codi'r Parch John M. Jones yn bregethwr. Y flwyddyn hon helaethwyd y Capel. Yr oedd y ddyled eisoes yn £207.00 ac yn niwedd 1874 yr oedd y ddyled yn £980.00.
 
Dyma’r flwyddyn codwyd yn flaenoriaid. David Griffith, Post Office. Hugh Williams Glanygors. William Roberts Tyddyn hen.
 
1874
 
Codi'r diweddar Barch Robert Williams yn bregethwr.
 
1878
 
Gorfu atgywiro y Capel o fewn pedair blynedd ar ôl helaethu fu arno yn 1874 yr hyn fu yn brofedigaeth fawr i’r Eglwys . Y ddyled yn 1877 yn £669.00 yn 1879 yn £1,539.00. Rhif yr Eglwys yn 165.
 
1883
 
Dewiswyd yn flaenoriaid Griffith W. Jones Nazareth, a David Roberts, Maesneuadd.
 
Griffith W. Jones, Post Nasareth
 
Llun: Griffith W. Jones, Post Nasareth.
 
1889
 
Codi John Edwards yn flaenor
 
1893
 
Eglwys yn rhoddi galwad i’r Parch J.M. Jones i’w Bugeilio.
 
1898
 
Nebo a Saron yn ymwahanu fel taith Sabbothol.
 
1900
 
Dewiswyd yn flaenoriaid. Th. H. Griffith Post Office, John Hughes Brynffynnon, Evan Jones Brynperson. Rhif yr aelodau y flwyddyn hon yn 187.
 
Swm y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn yn £410.8.3. Yn mae nodiad yn ôl llyfr Hobley yn anghywir. yn ol hwnnw £91.00 ydyw.
 
1901
 
Yr oedd y set fawr yn Nebo yn fawr mewn mwy nag un ystyr y pryd hwn. Yr oedd ynddi gewri o ddynion yn swyddogion. Yr oedd eu dylanwad adre ac oddi adre. Yr oedd y cyfarfod misol yn gwybod amdanynt. Yr oeddynt yn flaenoriaid mewn gwirionedd. Yr oedd yma saith ohonynt: David Griffith Post Office, Hugh Williams Glanygors, William Roberts Tyddyn hen, Griffith William Jones Post Office Nazareth, Evan Jones Brynperson, John Hughes Bryn ffynnon, TA Griffith Post Office.
 
Yr oedd David Roberts wedi symud yn ddiweddar i Garegwen, Penygroes, ac wedi ymaelodi yn Bethel. Nid oes ond un ohonynt yn aros heddiw, sef Mr. T.H. Griffith, ac y mae yn dal sêl a thraddodiad y tadau i fyny. Efe ydyw Trysorydd yr Eglwys am y 13 mlynedd diwethaf.
 
Yr oedd caniadaeth y cysegr yn bur uchel yn y cyfnod hwn. Dyma yr adeg a gawsom offeryn perthynol i’r Eglwys, pryd y gwasanaethwyd arni gan Mr. Morris R. Roberts Tyddyn hen a Morris R. Roberts Tyn y ffridd. Blaenoriaid y canu oeddynt Evan Jones Bryn Person, a Richard Thomas Hafod Esgob. Ymneilltuodd Evan Jones y flwyddyn hon a dewiswyd gan yr Eglwys at Richard Thomas, David D. Griffith Post Office a Robert Rowlands Bryn Mawr.
 
1902
 
Codi Griffith E. Jones yn Bregethwr. Cynrychiolid y cyfarfod misol gan y Parch James D. Evans, a Mr. Robert Williams Brynaerau. Ar ddiwedd y flwyddyn yr oedd y ddyled yn £258.13.01. yr oedd ym meddiant y gymdeithas di-log £577.11.
 
1903
 
Rhif yr Eglwys yn 200. Erbyn diwedd y flwyddyn yn 210. Y ddyled yn £174.15.09. Gwerth y Gymdeithas di-log yn £639.11.
 
Yr oedd yr Eglwys y flwyddyn hon wedi ei llanw a sel brwdfrydig iawn, a phenderfynwyd dwyn gwelliantau ynglŷn â’r adeiladau a dewiswyd pwyllgor i’r amcanwn. Yr oedd yr amgylchiadau yn bur ffafriol. Holl gasgliadau yr Eglwys yn ganmoliadwy iawn.
 
Y gwelliantau. Penderfynwyd tynnu i lawr yr hen Tŷ Capel. Adeiladu Vestry room, a thŷ Capel newydd ag adgyweirio y Capel.
 
Gosodwyd y gwaith i Robert A. Williams o Benygroes a chafwyd adeiladau gwych a theilwng. Tra roedd y gwaith yn mynd ymlaen cynhaliwyd y gwasanaethau yn yr Ysgoldy.
 
1904
 
Wele i flwyddyn hon yn dod i mewn ar eglwys yn llawn gwaith yn atgyweirio tŷ yr Arglwydd gelwn ddywedyd ein bod fel Solomon gynt wedi rhoddi ei fryd ar adeiladu " Ty i Enw yr Arglwydd".
Diddorol ydyw edrych ar waith y tadau yn y flwyddyn hon. Mae taflu golwg tros fantolen y Weinidogaeth a’r ddyled yn llawenydd mawr. Gweld sut yr oedd yr arian yn dod i mewn a’r modd yr oeddynt yn cael eu defnyddio. Wedi gorffen yr adeiladau newydd yr oedd y ddyled Rhag. 1904 yn £954.2.8. tra roedd yn llaw y trysorydd Mr. David Griffith £105.4.4.
 
Gorffennaf 24ain - Cyfarfod pregethu, ar agoriad y Capel. Pregethwyd gan y Parch David Ll Jones Llandinam ag Owen Hughes Llangaffo.
 
Blwyddyn rhyfedd iawn ydoedd hon, blwyddyn y "diwygiad Mawr 1904" Wedi gorffen adeiladu Ty yr Arglwydd yr ydym yn cael hanes am Solomon yn bendithio Duw, ac yn gweddïo wrth gysegru y Deml, ond yma ni a gawsom un mwy na Solomon, i Meistr Mawr ei hunan yn ein plith i ail gysegru’r Deml. Y pryd hwnw gwelsom lawer o galonnau yn cael eu troi yn Demlau iddo ef.
" Ti dy hunan yno’n frenin,
Ti dy hunan yno’n Dduw
Deiriau D’hunan yno’n uchaf,
Deiriau Gwerthfawrocaf yw,
Ti wnei felly, bydew du yn deml lan"
Dyna brofiad llawer un yn y pryd hwnw.
 
Rhag. 22 ain - Ar nos Iau, noson Seiat yn Nebo y pryd hwnw y torrodd y diwygiad allan yn yr ardal hon. Cynhaliwyd Seiat fel arfer dim byd neilltuol i’w deimlo, ond ar ol cafwyd cyfarfod gweddi: ac yn hwnw cafwyd tywalltiad helaeth o’r Ysbryd Glan. Ar y pryd yr oedd yr Emyn hwnw yn cael ei ganu.
Fy Nuw fy Nhad fy Iesu,
Boed clod i’th Enw byth,
Doed dynion i dy addoli,
Fel rhif y bore wlith
O na bai gwellt y ddaear,
Ol yn delynau aur,
I ganu i'r hwn a anwyd,
Ym Methem gynt o Fair.
 
Yr oedd tan ysbrydol yn parhau i ynau ar ddymuniadau yn dyfnhau yn angerddol.
 
"Na ddelo gair o’m genau,
Yn ddirgel nag ar goedd,
Ond am fod Iesu annwyl,
Yn wastad wrth fy modd."
 
Gallwn ddweud fod dylanwad y cyfarfod hwnnw yn aros hyd heddiw. Gorffennwyd y flwyddyn dan gawodydd trymion o’r Nefoedd.
 
1905
 
Codi'r Parch Evan Lloyd Jones yn bregethwr. Yr oedd wedi dechrau fel athro yn Ysgol elfennol Nebo, ond clywodd yn y Diwygiad llais yn ei alw i wasanaeth uwch ac ufuddhaodd yntau. Hefyd bu farw Robert Rowlands Bryn Mawr gwr caredig iawn oedd Robert Rowlands. Bu yn ffyddlon dros ben i achos Iesu Grist yn Nebo. Bu yn arweinydd canu am 5 mlynedd diwethaf ei oes.
 
Yn y cyfnod hwn dewiswyd John Ph. Jones yn arweinydd canu, gwnaeth waith mawr gyda chaniadaeth y Cysegr. Gweithiodd yn egniol iawn gyda’r plant yn y cyfarfodydd canu a’r Band of Hope.
 
Dyma’r flwyddyn y collodd yr Eglwys un o’i phlant mwyaf gweithgar, sef Mr. David D. Griffiths Post Office, trwy ei ymadawid at ei ewyrth Richard Roberts Utica America. Dewiswyd ef yn arweinydd canu gan yr Eglwys yn 1901 . Gwnaeth gwaith mawr yn ei gylch. Bu ei ymadawiad yn golled fawr i ni, ond yn ennill i Gymry Americanaidd.
 
1906
 
Hen frodyr ac y mae gennym goffadwriaeth i’w enw ydyw Robert Jones Fron Dulyn a Robert Edwards Tŷ Mawr.
 
1908
 
David Roberts Tal y Maes, neu Maes Neuadd a hunodd yn yr Iesu, wedi llanw’r swydd o flaenor am flynyddoedd lawer. Yr oedd yn meddu ar allu mawr. Yr oed yn ddarllenwyr a diwinydd gwych. Yn siaradwr coeth, ac yn wir etifeddol o ras Duw, a byddai yn cael arweiniad yr ysbryd mewn gwirionedd.
 
Collodd yr Eglwys weddïwr mawr ac un o’i chymwynaswyr pennaf. Hugh Parry Penyryrfa hefyd athro gwych yn athrofa’r Sul, dosbarth mawr bob amser dan ei ofal yn hoff o’i arweiniad. Williams Thomas Fronhaul. Bu ef a’i deulu yn gofalu ac yn byw yn Tŷ Capel am gyfnod. Bu yn ofalus ei waith yn y cylch hwnnw a llanwodd ymddiriedolaeth yr Eglwys.
 
1909
 
Yn y flwyddyn hon bu farw William Roberts Tyddynhen, codwyd ef yn flaenor yn y flwyddyn 1873. Gwasanaethodd y swydd am 36 o flynyddoedd gyda ffyddlondeb di-ball. Yr oedd lliaws o rinweddau rhagorol yn ei gymeriad fel dyn. Yr oedd yn ddyn caredig iawn, ac yn hoffus o bawb, Byddai wrth ei fodd yn dywedyd yn dda am Iesu Grist fel gwaredwr a iachawdwr phechaduriaid, yr oedd yn feddiannol a’r ysbryd aruchel. Yr oedd i’w edmygu yn dod i’r seiat ganol yr wythnos, byddai yn barod bob amser i godi a siaradai yn dda. Yr oedd yn meddu ar brofiadau uchel. Byddai i’w hoffi fel arweinydd seiat.
 
Cafodd yr Eglwys golled fawr yn farwolaeth William Roberts. Yr oedd ei gladdedigaeth yn profi ei fod yn ddyn cymeradwy iawn. Nid yn Nebo yn unig, ond yn yr holl ardaloedd. Daeth dyrfa fawr i dalu'r gymwynas olaf iddo. Un o'r angladdau mwyaf welodd yr ardal erioed, ymhlith amryw o weinidogion pa rai a roddasant deyrnged uchel i’w goffadwriaeth. Yr oedd yn golofn gadarn i’r achos yn Nebo, cyfrannodd lawer a byddai amgylchiadau'r Eglwys yn cael ei sylw pennaf.
 
1910
 
Dyma flwyddyn y collodd yr Eglwys dau o’i swyddogion drachefn, sef y diweddar Hugh Williams Glan-y-gors, ac Evan Jones Bryn Person. Hugh Williams a godwyd yn flaenor yn y flwyddyn 1873. Gwasanaethodd yn y swydd am 37 o flynyddoedd gyda ffyddlondeb mawr, nid yn yr Eglwys adref yn unig, ond yn y chwarel ymysg ei gydweithwyr hefyd. Bu yn arweinydd y canu am flynyddoedd lawer, yr oedd yn gerddor da yn ei ddydd. Bu yn ddiwyd gyda’r plant, yn wir yr oedd yn cael ei gyfrif yn Apostol y plant. Byddai pob amser ar bwyllgor y Band of Hope. Pwy bynnag fyddai'r pwyllgor byddai Hugh Williams yno, yr oedd yn ddiwinydd da, ac athraw medrus. Magodd lliaws o ddynion ieuanc rhagorol yn ei ddosbarth. Yr oedd ganddo feddwl uchel o’r ysgol Sabbothol, fel magwrfa cymeriadau da i’r eglwys. Bu yn llywydd cyfarfod gweddi’r bobol ieuanc am flynyddoedd maith yr hwn a fu o wasanaeth mawr i godi gweddiwyr cyhoeddus, a chadw dynion ieuanc i feddwl am wasanaethu'r eglwys mewn llawer cylch.
 
Evan Jones "Ieuan Nebo" Ydoedd y blaenor arall am gadawodd y flwyddyn hon. Dyn trymaf yr eglwys yn ddiamheuol, yrroedd yn cael ei gydnabod fell lleor, bardd a cherddor, ac yn ddiwinydd o radd uchel, ac yn llawn o wasanaeth bob amser. Bu yn arweinydd y cnau am gyfnod maith, ac yn 1900 codwyd ef yn flaenor gan yr eglwys. Gwasanaethodd y swydd hyd y diwedd, am y cyfnod o ddeng mlynedd. Yr oed yn fedrus fel siaradwr cyhoeddus, nod oedd arwain seiat ond peth naturiol iddo, a hynny gyda’r ysbryd gore bob amser, Cawsom wledd llawer noswaith pan fyddai gyda’r gwaith, gwnaeth lawer gyda’r ieuenctid trwy'r ysgol Sabbothol. Dyn efengylaidd iawn ydoedd Evan Jones. Gweddïwr mawr ddyn ysbrydol mewn gwirionedd.
 
Enoc Jones, cymeriad diddorol iawn ydoedd yntau. Llanwodd ei gylch yn ffyddlon yn ôl ei allu, yr oedd yn weddïwr hynod, yr oedd trysorau gras Duw yn ei feddiant, ac yr oedd yn feddiannol ar brofiadau ysbrydol da yn y seiat. Cof amdano yn y seiat un tro, a’r hen flaenor David Griffith yn y llawr,"
 
Wel Enoc Jones beth sydd gen ti heno?" Meddai David Griffith "O" meddai Enoc Jones "mi rydw i yn gawr garw heno". "Weli di welais i mohonot ti erioed ond felly" meddai David Griffith "beth sy’n pery i ti deimlo felly heno?" meddai’r hen flaenor. "O" meddai yntau "mi roeddwn yn mynd i fyny am Taleithin y bore yn y car, ac fe ddaeth gwr bonheddig i fyny ataf i - Yr hen ddiafol - a dywed wrtha’i mai gwell oedd imi beidio dŵad i'r seiat heno, ac mae o wedi fy mhoeni trwy’r dydd, ond dyma fi wedi gorchfygu. Bendigedig" meddai Enoc Jones. Dyma’r pennill ddaeth i'r seiat y noson.
 
    Cof am y cyfiawn Iesu, Y person mwyaf hardd,
    A’r noson drom anesmwyth bu’n chwysu yn yr ardd.
 
Evan Williams Pennant ydoedd dyn rhagorol. Dyn tawel o gymeriad cryf ffyddlon a selog, gyda’r ysgol Sabbothol. Meddu ar gymwysterau rhagorol i fod yn athro.
 
1911
 
Bu farw Laura Roberts Bryn Coch, chwaer grefyddol iawn ydoedd Laura Roberts wedi cystudd byr, hunodd yn yr Iesu. Yr oedd ei phrofiad yn felys y noswaith olaf iddi fod yn y seiat.
 
1913
 
Blwyddyn arbennig ydoedd hon yn hanes yr eglwys yn Nebo pryd y collwyd wyth o aelodau'r eglwys, ac yn eu plith y golofn gadarnaf welodd yr eglwys erioed sef David Griffith Post Office. Ymollyngodd o’i waith ar y ddaear, ac aeth i’r nefoedd at ei wobr. Codwyd ef yn flaenor yn y flwyddyn 1873. Gwasanaethodd y swydd am ddeugain mlynedd a bu yn drysorydd yr eglwys am flynyddoedd lawer, a bu yn arweinydd fel Moses am ddeugain mlynedd. Fel arweiniodd Moses y genedl, felly arweiniodd yntau'r Eglwys aml dro i gael golwg ar y wlad. Ni chafodd gystudd hir, daliodd ei afael ym mhethau'r Deyrnas hyd y diwedd. Yr oedd David Griffith yn ddyn anghyffredin. Nid oedd yn meddu ar alluoedd mawrion, ond yr oedd ei fywyd wedi ennill iddo ddylanwad mawr. Yr oedd yn frenin y gymdogaeth, yr oedd gan y byd tu allan i’r eglwys barch iddo. Caffai ddywedyd rhyw beth wrth yr eglwys ac ni ddigiai neb wrtho. Yr oedd yn meddu ar ddull naturiol o siarad, medrai dynnu drwy bobl fel y mynnai, a chai dynion i weithio heb anhawster. Clywid ef un waith mewn cyfarfod athrawon, wrth godi i arolygu’r dyn ieuanc yn dywedyd nas gallai wneud y gwaith, yn hen William, meddai David Griffith, sut y gwyddost ti dwyt erioed wedi trio. Mi gei roi gore iddi os methi di. Does dim amheuaeth na fu hwnnw yn un o’r rhai gore am ddwy flynedd yn arolygwr. Byddai ganddo bob amser dosbarth o ddynion ieuanc. Yr oedd ei ffyddlondeb o Sabboth i Sabboth yn brawf o feddwl uchel a pharch o’i athraw. Yr oedd yn rhagorol yn y seiat, pan elai i lawr caffai rhywbeth gan bawb. Yr oedd wrth ei fodd yn son am Iesu Grist. Byddai pawb yn hoff ohono wrth orsedd Gras. Byddai yn cael gafael ar gortynnau’r nefoedd ar ei union, nes byddai ei ddagrau yn ffrydio ei ruddiau, fel y dywedai " Tosturia mewn anialwch rwyf yn byw". Byddai wrth ei fodd yn y Seiat ar Nos Sabboth yn canmol pregethwyr ieuanc, a pharodd hynny galondid mawr i amryw o dro i dro. Efe oedd y cyhoeddwr ac yn meddu ar ddull arbennig iawn at y gwaith. Clywais ef un nos Sabboth yn cyhoeddi fel hyn - "Does yma ddim seiat nos Iau, y mae y Seiat wedi marw" meddai " ond mi ddown i yma i gyd er mwyn ei chladdu yn anrhydeddus" ac yna eisteddodd i lawr. Yr wythnos ddilynol, yr oedd bron pawb yn y seiat, ag un rhagorol gafwyd.
 
Nid adref yn unig yr oedd David Griffiths yn cael ei gydnabod ond yn Cylch Cyfarfod Misol hefyd, a bu yn aelod o’i brif bwyllgorau, a byddai yr Eglwys adre yn ei mantais o hynny. Lletyodd llawer o bregethwyr a Gweinidogion ar aelwyd y Post Office, bu ei garedigrwydd ef a’i briod Mrs. Margaret Griffith yn gymorth mawr i’r Eglwys yn Nebo.
 
Ei Farwolaeth. Yr oedd colli David Griffith yn golled fwyaf a welodd Eglwys Nebo mewn hanes. Taflwyd yr Egwlys trwy ei brofedigaeth i dristwch a galar, fel dywedodd yr hen flaenor Griffith W. Jones Nazareth y dydd hwnw, " Yr unig lecyn golau welaf i ydyw addewid Iesu Grist, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Teimlai y swyddogion eu bod wedi colli tad yn y swyddogaeth.
 
Ei Gladdedigaeth. Diwrnod mawr ydoedd hwn yn ardal Nebo. Fel yr oedd y prydawn yn agoshau, gwelwyd y gweithwyr yn dod adref o’r chwareli, a thyrfaoedd o ddieithriaid yn ymlwybro tua Nebo, o bob parth, a cherbydau lawer, ac yn eu plith y tlawd a’r cyfoethog. Cynhaliwyd y gwasanaeth yn y Capel yr hwn oedd yn orlawn cyn amser dechrau. Yr oedd amryw o Weinidogion, a blaenoriaid y Cyfarfod Misol yn bresennol. Darllenwyd rhan o air Duw gan y Parch. G. Ellis Jones, Abergynolwyn. Y pryd hwnnw arweiniwyd mewn gweddi gan y diweddar Parch John Jones Hyfrydle. Siaradwyd gan amryw o Weinidogion am nodweddau a rhinweddau oedd yn perthyn iddo, ac ar ran yr Eglwys gan Griffith W. Jones, Nazareth. Cymerwyd yr arweiniad gan y Diweddar Barch G.C. Roberts, Llanllyfni, yr hwn a draddodwyd y bregeth angladdol iddo y Sabboth dilynol.
 
1914
 
Ar ddechrau’r flwyddyn hon codwyd Mr. H.H. Griffith yn drysorydd yr Eglwys.
 
Ebrill 29 - Codwyd yn flaenoriaid Owen Morris Ty Capel ac Edwin O. Roberts Nant y Gwyddil. Bu farw William Pritchard Neuadd –ddu, wedi bod yn arweinydd y canu am ysbaid.
 
1918
 
Bu farw Owen Morris Tŷ Capel. Codwyd Owen Morris yn flaenor yn y flwyddyn 1914, er mai pedair blynedd gafodd yn y swydd llanwodd ei gylch gydag anrhydedd. Bu yn ffyddlon iawn. Yr oedd ganddo fantais i hynny yr oedd yn byw yn Tŷ Capel. Collodd ei dad yn ieuanc iawn, fel na chafodd lawer o fanteision bore oes. Clywais ef yn dywedyd mewn cyfarfod misol yng Ngharmel, pan yn cael
ei dderbyn, fod ei dad wedi gadael iddo lyfrgell pur dda, a’i fod wedi gwneud y defnydd gorau ohonynt. Yr oedd yn meddu ar gryn wybodaeth. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, gweithiodd yn egniol gyda’r achos am flynyddoedd lawer, ei amcan bob amser fyddai creu brwdfrydedd gyda’r gwaith. Yr oedd yn ddyn llawn i gyfarfod a phob gwaith yn yr Eglwys, a byddai yn barod pob amser i’w gyflawni. Siaradai yn wych yn y Seiat, a hynny gyda diddordeb.
 
1920
 
Bu farw Griffith W. Jones Nazareth y blaenor hynaf erbyn hyn yn 64 mlwydd oed. Codwyd ef yn flaenor yn y flwyddyn 1883. Bu yn blaenori am 37 o flynyddoedd. Bu’n ddyn rhagorol, ffyddlon a gweithgar. Yn ŵr llawn o rinweddau a thalentog. Yn meddu cymwysterau crefyddol priodol i fod yn arweinydd crefyddol. Dyn ysbrydol ydoedd Griffith Jones, yn meddu profiadau uchel bob amser. Dyn pwyllog yn meddu barn dda. Diwinydd, ac athro yn yr Ysgol Saboth o radd flaenaf, ac yn weddïwr mawr. Bu yn ysgrifennydd yr Eglwys am 35 o flynyddoedd. Cymrodd ei gladdedigaeth le ym mynwent Tai Duon Pant Glas. Yr oedd yn bresennol y Parch diweddar William Williams Talysarn, Owen Ffoulkes Abergele, Griffith E. Jones Abergynolwyn ( gynt ) Morris Williams Baladeulyn a’r diweddar John Jones Hyfrydle. Siaradwyd yn uchel ganddynt am gymeriad gloyw a disglair Griffith Jones. Treuliodd yr Eglwys ran o dair seiat mewn coffhad amdano. Datganodd yr Eglwys mewn teimladau dwys ei cholled am un oedd wedi ei gwasanaethu am dymor mor faith a ffyddlon.
Cafwyd pregeth angladdol ar y geiriau "Bendigedig yw y gwr a ymddiriedo yn yr Arglwydd, ac y byddo yr Arglwydd yn hyder iddo."
 
1920
 
Codwyd Edwin Roberts yn ysgrifennydd yr Eglwys. Hefyd codwyd yn flaenoriaid - John E. Jones Rhydlydan, a Hugh Jones Bryn mawr. Yn y flwyddyn 1919 rhoddodd Evan Thomas Bron y Foel ei ymddiswyddiad fel arweinydd canu. Ymgymerodd Evan Thomas ar y gwaith y blynyddoedd diwethaf am fod y bechgyn ieuanc yn y rhyfel, a’i addewid i’r Eglwys oedd y byddai iddo wasanaethu nes y byddai i’r dynion ieuanc ddod adre. Gwasanaethodd gyda sel a ffyddlondeb.
 
Codi Elias Thomas Post Office a Richard Thomas Bryniau Cochion yn arweinwyr canu.
 
1922
 
Y Parch R. W. Roberts B.A.B.D. yn dechrau ar ei waith fel bugail yn eu plith.
 
1923
 
Bu fawr John Hughes Brynffynnon. Un o flaenoriaid yr Eglwys. Codwyd ef yn y flwyddyn 1900. Gwasanaethodd yn y swydd am dair mlynedd ar hugain. Yr oedd yn naturiol grefyddol, ac yn ddyn duwiol diamheuol. Yr oedd ganddo feddwl mawr o’r Beibl fel llyfr Duw mewn gwirionedd. Rhoddodd llawer ohonno yn y seiat, a bu yn athraw selog a ffyddlon, ac yn hynod brydlon ym mhob moddion. Yr oedd yn ddyn o ddifrif gyda phob rhan o’r gwaith. Yr oedd yn weddïwr mawr a chanddo ffydd ddiysgog yn ei Waredwr. Yr oedd yn etifeddol o brofiad ysbrydol bob amser. Yr oedd ganddo ffordd faith i’r Capel, ac nid oes amheuaeth nad oedd wedi ei chysegru a gweddïau a myfyrdodau, fel dywedodd un llanc unwaith, fod arno ofn pechu ar lwybr John Hughes. Yr oedd ganddo grefydd gywir, yr hon ai daliodd yn ei gystudd maith, hyd y diwedd. Un o’i eiriau olaf " Dos dithau hyd y diwedd, canys gorffwysi a sefi yn dy ran, yn niwedd y dyddiau."
 
Claddwyd John Hughes ym mynwent Gorffwysfa Llanllyfni, dan arweiniad y Gweinidog y Parch. Morris Williams Baladeulyn, y diweddar John Jones Hyfrydle, W.J. Davies Nazareth. Siaradwyd yn uchel amdano fel cymeriad pur a da. Fel y dywedodd y Parch Morris Williams, nad oedd John Hughes yn ofni mynd i wlad arall, am fod wedi ymgydnabyddu a Llywydd y wlad honno, tra yma yn byw.
Traddodai y Gweinidog Parch R.W. Roberts B.A.B.D. y bregeth angladdol i’n diweddar annwyl frawd ar y geiriau hynny " Bydd y gŵr marw a fydd efe byw drachefn".
 
Yn y flwyddyn hon codwyd yn flaenoriaid Henry Jones Pant Gog, John Pyrs Thomas Tal y maes, a Robert Roberts Frondirion gynt.
 
1926
 
Yr ydym wedi dyfod at y flwyddyn olaf o hanes yr Egwlys, a’i phrif gymeriadau yn ystod y can mlynedd yn Nebo.
 
Blwyddyn hynod o lafurus ydoedd hon. Ar ddechrau y flwyddyn gwelodd yr Eglwys ei chyfle i ddathlu ei chanmlwyddiant a chael hwyl hwnw yn jubilee, a phenderfynodd ymaflyd ynddo gyda phob egni, a chafwyd undeb a chydweithrediad hollol o’r holl aelodau, nes cyrraedd buddugoliaeth na fu yn hanes yr Eglwys ei debyg erioed.
 
Ar ddechrau y flwyddyn yr oedd yn ddyled ar yr Eglwys y swm o £380.00 ar gyfer y swm yna cafwyd Bazzaar, a bu hynny yn llwyddiant hollol, erbyn heddiw yr ydym wedi clirio y ddyled yn llwyr. A mawr yw ein llawenydd.
 
Gadewch i ni ddywedyd fel Solomon gynt " Yr Arglwydd ein Duw fyddo gyda ni fel bu gynt a’n tadau, na wrthoded ni, ac na’n gadawed ni".
 
NODIADAU YCHWANEGOL
 
Bu i’r Eglwys yn ystod y can mlynedd
1. Bugeiliaid – Pedwar
2. Codwyd o Bregethwyr – Saith
3. Blaenoriaid – Dau ar hugain
 
Edwin O. Roberts, Ysgrifennydd.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:54, 1 Hydref 2021

Codwyd Capel Nebo i wasanaethu trigolion ardal wasgaredig Mynydd Llanllyfni oedd am arddel dull a chredo'r Presbyteriaid Calfinaidd ym 1826. Cyn hynny, am ryw 20 mlynedd bu'r ffyddloniaid yn cadw ysgol Sul mewn amryw o ffermdai'r fro. Hyd 1843, parhodd y capel yn swyddogol fel ysgoldy yn perthyn i achos Capel Salem (MC), Llanllyfni ond y flwyddyn honno sefydlwyd eglwys Nebo fel achos Calfinaidd ar wahân. Erbyn canol y 19g, roedd y pentref a dyfodd o amgylch y capel wedi cael ei enwi'n Nebo. Codwyd capel newydd ym 1860, ei ailadeiladu a'i helaethu ym 1874 ac fe'i helaethwyd ymhellach ym 1878.

Cafwyd yr enw'n wreiddiol o'r Beibl. Mynydd Nebo oedd y mynydd (sydd erbyn hyn yng ngwlad Iorddonen) lle cafodd Moses weld gwlad yr addewid o'i gopa. Dichon mai oherwydd yr olygfeydd eang a geir o Fynydd Llanllyfni y dewiswyd yr enw.

Isod gweler addasiad a thalfyriad o anerchiad ysgrifennydd y capel ar achlysur ei ganmlwyddiant ym 1926[1]:

Yr ysgol Sul gychwynnol

Dywed hanes wrthym mai yn y flwyddyn 1809 y cychwynnwyd ysgol Sul cyntaf yr ardal mewn lle o’r enw Tyn y Fron. Nid oes gennym fawr o hanes am yr ysgol yno. Symudwyd oddi yno i dy un o’r enw Catrin Salmon, yn agos i Rhwngddwyafon. Cynyddodd yr ysgol yn y lle hwn, ac fe’i cynhaliwyd mewn tri thŷ. Yr oedd yr ysgol hon yn enwog mewn dysgu’r Beibl. Y rhai oedd yn gofalu am yr ysgol , Robert Evans Cil-llidiart, Hugh Hughes y Caerau, a John Pritchard Tirionpelyn. Bu'r tri hyn yn flaenoriaid yn Llanllyfni yn 1821.
Pan adeiladwyd Capel Nasareth gan yr Annibynnwyr, fe symudwyd yr ysgol yno, [ond] elai rhai o’r Methodistiaid i ysgol [Sul] Llanllyfni. Yn y cyfnod hwn sefydlwyd ysgol uwch i fyny yn yr ardal, sef ym Maesneuadd. Symudwyd oddi yno i le o’r enw Pencraig, lle y trigai un o’r enw John Michael; gofelid am yr ysgol ganddo ef a Griffith Williams Taleithin. Hen lanc gweithgar a duwiol oedd Griffith Williams, un a brofwyd yn ddychryn i annuwioldeb. Symudwyd drachefn o Bencraig i Taldrwst, lle'r oedd un o’r enw Thomas Edwards yn byw. Gofelid am yr ysgol ganddo ef a William Roberts, Buarthyfoty, a William Roberts Cae’rengan.
Yr oedd teimlad o anesmwythodd ym mhlith yr hen dadau o eisiau ysgoldy, ac i’r amcan hwnnw prynwyd tir gan Hugh Roberts Ismael, Glan y Gors, am bum gini.

Codi'r capel cyntaf

Yn 1826 Adeiladwyd Ysgoldy. William Williams Tynyfron oedd yr adeiladydd; gofelid am y gwaith gan Owen Evans Coed cae du, ac Evan Roberts Dolywenith. Llawr pridd a meinciau oedd i’r capel cyntaf oddi mewn. Wedi gorffen y capel daeth y rhai oedd ar wasgar yn gytûn i’r un lle, sef rhai‘r Taldrwst, rhai o Nazareth,a rhai o Lanllyfni.
Mae’n debyg yn ôl yr hanes mai John Williams, Llecheiddior a bregethodd gyntaf yn y capel newydd ar brynhawn Sul Ionawr 1827. Ymhen ysbaid ar ôl cael pregeth ar y Sul fe geid cyfarfod Eglwysig ar brydiau dan arweiniad un neu ddau o flaenoriaid Llanllyfni.
1828
 Rhif yr Ysgol yn 28ain
1835
Trefnwyd Mynydd Llanllyfni yn daith gyda Thalysarn

Sefydlu eglwys ar wahân

1842
Awydd Ysgoldy’r Mynydd i sefydlu Eglwys. Gwrthwynebiad yn Llanllyfni gan fod y ddyled yno yn £700.00
1843
Sefydlu Eglwys yn Nebo. A gosodwyd y ddyled o £60.00 oedd yn aros ar yr ysgoldy i’w thalu gan yr Eglwys yma. Rhif yr Eglwys ar ei sefydliad 36. Cawn restr hefyd yn y llyfr Hobley o’r rhai a ymadawodd o Lanllyfni i ffurfio Eglwys yn Nebo, sef 47 o enwau: Meibion 22 Merched 25.
1844
Dewiswyd Richard Roberts Bodychain a Richard Griffiths Penyryrfa yn flaenoriaid. Dyma’r blaenoriaid cyntaf yn Eglwys Nebo.

Codi capel newydd, helaethu hwnnw wedyn, ac atgyweirio

1860
Caniatâd oddi wrth y Cyfarfod Misol wedi brwydr fawr, i adeiladu Capel newydd ( yn mesur 13 llath wrth 8 llath). Dyled eisoes ar yr hen Gapel yn £50.00. Wedi codi'r Capel newydd y ddyled yn £340.00 Yn cael ei agor Mehefin 25 ain 1861. 
1862
Cafodd yr Eglwys ei Bugail cyntaf y Parch William Jones, yr un pryd ac y daeth i Lanllyfni. Y pregethwr cyntaf a godwyd yma ydoedd John Jones, Bryntrallwm, gŵr ieuanc a llawer o hynodrwydd ynddo. Yr oedd gydag Eben Fardd yn yr ysgol pan fu farw yn 22ain oed Ionawr 7fed.
1870
 Dechreuodd y Parch Robert Thomas ar ei waith [yn Nebo] fel Bugail. Yn yr un flwyddyn y dechreuodd y Parch William Ll. Griffith, Llanbedr, bregethu.
1873
[Yn ystod] y flwyddyn hon helaethwyd y Capel. Yr oedd y ddyled eisoes yn £207.00 ac yn niwedd 1874 yr oedd y ddyled yn £980.00.
1878
Gorfu atgywiro y Capel o fewn pedair blynedd ar ôl helaethu fu arno yn 1874 [ac yr oedd] hyn yn brofedigaeth fawr i’r Eglwys . Y ddyled yn 1877 yn £669.00, yn 1879 yn £1,539.00. Rhif yr Eglwys yn 165.

Blynyddoedd llewyrchus yr achos

1893
 Yr eglwys yn rhoi galwad i’r Parch J.M. Jones i’w bugeilio.
1898
 Nebo a Saron ([Tal-y-sarn]) yn ymwahanu fel taith Sabbothol.
1900
Rhif yr aelodau y flwyddyn hon yn 187. Swm y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn yn £410.8.3. 
1901
Yr oedd y set fawr yn Nebo yn fawr mewn mwy nag un ystyr y pryd hwn. Yr oedd ynddi gewri o ddynion yn swyddogion. Yr oedd eu dylanwad adre ac oddi adre. Yr oedd y cyfarfod misol yn gwybod amdanynt. Yr oeddynt yn flaenoriaid mewn gwirionedd. Yr oedd yma saith ohonynt: David Griffith, Post Office; Hugh Williams, Glanygors; William Roberts, Tyddyn hen; Griffith William Jones, Post Office Nasareth; Evan Jones, Brynperson; John Hughes, Brynffynnon; TA Griffith, Post Office.
Yr oedd caniadaeth y cysegr yn bur uchel yn y cyfnod hwn. Dyma'r adeg [y cafwyd] offeryn perthynol i’r Eglwys, pryd y gwasanaethwyd arni gan Mr. Morris R. Roberts, Tyddyn hen a Morris R. Roberts, Ty'n y ffridd. 
1903
Rhif yr Eglwys yn 200. Erbyn diwedd y flwyddyn yn 210. Y ddyled yn £174.15.09. Gwerth y Gymdeithas di-log yn £639.11. Yr oedd yr Eglwys y flwyddyn hon wedi ei llanw a sêl brwdfrydig iawn, a phenderfynwyd dwyn gwelliantau ynglŷn â’r adeiladau a dewiswyd pwyllgor i’r amcanion. Yr oedd yr amgylchiadau yn bur ffafriol. Holl gasgliadau yr Eglwys yn ganmoliadwy iawn. Penderfynwyd tynnu i lawr yr hen Tŷ Capel, [gan] adeiladu ystafell y Festri, a thŷ Capel newydd, ac adgyweirio'r Capel. Gosodwyd y gwaith i Robert A. Williams o Ben-y-groes a chafwyd adeiladau gwych a theilwng. Tra roedd y gwaith yn mynd ymlaen cynhaliwyd y gwasanaethau yn yr Ysgoldy.
1904
 Wedi gorffen yr adeiladau newydd yr oedd y ddyled Rhagfyr 1904 yn £954.2.8, tra oedd yn llaw y trysorydd Mr. David Griffith £105.4.4.
 Blwyddyn rhyfedd iawn ydoedd hon, blwyddyn "Diwygiad Mawr 1904". Nos Iau, Rhagfyr. 22 ain, noson Seiat yn Nebo y torrodd y diwygiad allan yn yr ardal hon. Cynhaliwyd Seiat fel arfer a dim byd neilltuol i’w deimlo, ond wedyn cafwyd cyfarfod gweddi, ac yn hwnnw cafwyd tywalltiad helaeth o’r Ysbryd Glân.
1905
Codi'r Parch Evan Lloyd Jones yn bregethwr. Yr oedd wedi dechrau fel athro yn Ysgol elfennol Nebo, ond clywodd yn y Diwygiad lais yn ei alw i wasanaeth uwch ac ufuddhaodd yntau. 
1922
Y Parch R. W. Roberts B.A.B.D. yn dechrau ar ei waith fel bugail.
Bu i’r Eglwys yn ystod y can mlynedd bedwar o weinidogion, codwyd saith o bregethwyr yn yr eglwys, a bu saith ar hugain o flaenoriaid yn gwasanaethu yn ystod y cyfnod.
Edwin O. Roberts, Ysgrifennydd. (Talfyrrwyd).

Hanes diweddarach

Gyda'r edwino cyffredinol ar achosion crefyddol a ddechreuodd gyda dadrithiad llawer yn sgîl hanesion arswydus y Rhyfel Byd Cyntaf, ac a gyflymodd ar hyd y ganrif, gwaniodd yr achos. Ffactor arall, efallai, oedd y mewnlifiad o rai di-Gymraeg a fantesiodd ar brisiau isel y tai sâl yn yr ardal. Fe'i gaewyd cyn 1998. Erbyn hynny roedd y capel wedi cael ei droi'n dŷ annedd.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Mae'r erthygl wedi ei thalfyrru o draethawd lawn Edwin O. Roberts, ysgrifennydd y capel, ar achlysur dathlu canmlwyddiant codi'r capel cyntaf, sydd i'w gweld ar Wefan Dyffryn Nantlle, [1]
  2. Gwefan Coflein [2], cyrchwyd 16.3.2020