Croesfan Glan-rhyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Croesfan Glan-rhyd''' yn un o ddim ond tair croesfan (neu ''level crossing'') a weithid gan staff y rheilffordd ar wahân i rai gerllaw gorsafoe...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 2: Llinell 2:


[[Categori:Croesfannau Rheilffordd]]
[[Categori:Croesfannau Rheilffordd]]
[[Categori:Rheilffordd Sir Gaernarfon]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:14, 23 Tachwedd 2017

Roedd Croesfan Glan-rhyd yn un o ddim ond tair croesfan (neu level crossing) a weithid gan staff y rheilffordd ar wahân i rai gerllaw gorsafoedd ar y lein o Gaernarfon i Afon Wen ac o fewn ffiniau Uwchgwyrfai. Roedd y groesfan ar y lôn gefn sy'n arwain o'r lôn bost i gyfeiriad Rhedynog a Llandwrog. Y mae'r tŷ a godwyd ar gyfer ceidwad y groesfan yn dal i sefyll gerllaw'r groesfan o fath gwahanol lle mae Lôn Eifion yn croesi'r lôn gefn.