Llyfni Huws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ganwyd William Llyfni Huws ar yr ail o Fehefin 1889 yn Llys y Delyn, Pen-y-groes, yn fab i William Hughes (a anwyd yn Llanllechid), a Jane ei wraig (o ardal Llangwnnadl yng ngwlad Llŷn a pherthynas i Dic Aberdaron). Ganwyd y ddau riant ym mlwyddyn y Llyfrau Gleision, 1847. Mab arall i William a Jane oedd y bardd Llyfnwy. Roedd yr aelwyd yn 30 Stryd y Bedyddwyr ym Mhen-y-groes yn un ddiwylliedig iawn mae'n amlwg. Roedd William Hughes y tad yn gryn englynwr a dysgodd ei grefft farddonol trwy gyfrwng llyfr cynganeddion a fenthycodd oddi wrth Urias Stephens, gwdeithiwr yng ngorsaf rheilffordd Pen-y-groes.
Ganwyd '''William Llyfni Huws''' (1889-1962) ar yr ail o Fehefin 1889 yn Llys y Delyn, [[Pen-y-groes]]], yn gyw melyn olaf chwe phlentyn William Hughes (a anwyd yn Llanllechid), a Jane ei wraig (o ardal Llangwnnadl yng ngwlad Llŷn, a pherthynas, fe ddywedid, i Dic Aberdaron). Ganwyd y ddau riant ym mlwyddyn y Llyfrau Gleision, 1847. Mab arall i William a Jane oedd y bardd Llyfnwy.  
Daeth Llyfni i sylw'r genedl gyfan pan enillodd ar yr unawd canu penillion dean 18 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym 1906. Gyda chymorth y Cymro enwog hwnnw, Syr O.M.Edwards, cafodd fyn ast Gwenynen Gwent i Lanofer am gyfnod i weithio a chael gwersi ar ganu'r delyn deires.


Ar 23 o Fawrth 1923, yng Nghapel Pen-dref, Llanfyllin, priododd Llyfni Huws â merch o'r enw Matilda (Mallt) Jane Owen (1898-1987) o Lanwnnog yn Sir Drefaldwyn. Roedd hi yn ferch gerddorol iawn ac fe'i galwai ei hun yn Gerddores Eryri. Fe'i hurddwyd yn Eisteddfod Corwen ym 1919.
Roedd yr aelwyd yn 30 Stryd y Bedyddwyr ym Mhen-y-groes yn un ddiwylliedig iawn mae'n amlwg. Gwyddom fod William Hughes y tad yn gryn englynwr a dysgodd ei grefft farddonol trwy gyfrwng llyfr cynganeddion a fenthycodd oddi wrth Urias Stephens, gweithiwr yng ngorsaf rheilffordd Pen-y-groes.


Dilynodd Llyfni ei dad i'r chwarel ac yno y bu'n gweithio hyd ddydd ei briodas. Yna daeth yn argraffydd ac yn siopwr bach, gan ei anfarwoli ei hun fel bardd a cherddor, yn ganwr penillion a thelynor hyfedr.
Daeth Llyfni i sylw'r genedl gyfan pan enillodd ar yr unawd canu penillion dan 18 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym 1906 (''Annus Mirabilis'' [[Mary King Sarah]]). Gyda chymorth y Cymro enwog hwnnw, Syr O.M. Edwards, cafodd y llanc talentog fynd at Gwenynen Gwent i Lanofer am gyfnod i weithio a chael gwersi yno ar ganu'r delyn deires.


Bu farw at y 4ydd o Ebrill 1962 ac fe'i claddwyd ym mynwent Macpela, Pen-y-groes.
Ar 23 o Fawrth 1923, yng Nghapel Pen-dref, Llanfyllin, priododd Llyfni Huws â merch o'r enw Matilda (Mallt) Jane Owen (1898-1987) o Lanwnnog yn Sir Drefaldwyn. Roedd hi yn ferch gerddorol iawn ac fe'i galwai ei hun yn ddiweddarach yn ''Gerddores Eryri''. Fe'i hurddwyd yn Eisteddfod Corwen ym 1919.
 
Dilynodd Llyfni ei dad i'r chwarel ac yno y bu'n gweithio hyd ddydd ei briodas. Yna daeth yn argraffydd ac yn siopwr bach, gan ei anfarwoli ei hun fel bardd a cherddor, yn ganwr penillion o fri cenedlaethol ac yn delynor hyfedr.
 
Bu farw ar y 4ydd o Ebrill 1962, ac fe'i claddwyd ym [[Mynwent Macpela]], Pen-y-groes. Yn fuan wedi ei gladdu canfu ei weddw, Mallt, englyn a gyfansoddodd Llyfni i'w roi ar ei garreg fedd ei hun. A dyna'n wir a wnaed. Dyma'r englyn :
 
          ''Carodd Dduw, do, carodd ddyn, - carodd lên,''
                ''Carodd lunio englyn ;''
              ''Carodd wau â'r tannau tyn''
              ''Iaith ei dylwyth a'i delyn.''
 
Cyhoeddodd Llyfni (a Mallt) bum llyfr cerdd pwysig :
 
''1930 : Aelwyd y Delyn Rhan 1''
 
''1934 : Llyfr Penillion Telyn''
 
''1944 : Aelwyd y Delyn Rhan 2''
 
''1951 : Aelwyd y Delyn Rhan 3''
 
''1952 : Aelwyd y Delyn Rhan 4''
 
Ym 1968 cyhoeddodd Mallt Huws gyfrol goffa i'w gŵr dan y teitl ''Cyfrol Goffa Llyfni Huws'', a'i chyflwyno i'w dwy ferch, Llinos Llyfni a Heulwen Mai.
 
[[Categori:Cerddorion]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Beirdd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:45, 3 Mai 2022

Ganwyd William Llyfni Huws (1889-1962) ar yr ail o Fehefin 1889 yn Llys y Delyn, Pen-y-groes], yn gyw melyn olaf chwe phlentyn William Hughes (a anwyd yn Llanllechid), a Jane ei wraig (o ardal Llangwnnadl yng ngwlad Llŷn, a pherthynas, fe ddywedid, i Dic Aberdaron). Ganwyd y ddau riant ym mlwyddyn y Llyfrau Gleision, 1847. Mab arall i William a Jane oedd y bardd Llyfnwy.

Roedd yr aelwyd yn 30 Stryd y Bedyddwyr ym Mhen-y-groes yn un ddiwylliedig iawn mae'n amlwg. Gwyddom fod William Hughes y tad yn gryn englynwr a dysgodd ei grefft farddonol trwy gyfrwng llyfr cynganeddion a fenthycodd oddi wrth Urias Stephens, gweithiwr yng ngorsaf rheilffordd Pen-y-groes.

Daeth Llyfni i sylw'r genedl gyfan pan enillodd ar yr unawd canu penillion dan 18 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym 1906 (Annus Mirabilis Mary King Sarah). Gyda chymorth y Cymro enwog hwnnw, Syr O.M. Edwards, cafodd y llanc talentog fynd at Gwenynen Gwent i Lanofer am gyfnod i weithio a chael gwersi yno ar ganu'r delyn deires.

Ar 23 o Fawrth 1923, yng Nghapel Pen-dref, Llanfyllin, priododd Llyfni Huws â merch o'r enw Matilda (Mallt) Jane Owen (1898-1987) o Lanwnnog yn Sir Drefaldwyn. Roedd hi yn ferch gerddorol iawn ac fe'i galwai ei hun yn ddiweddarach yn Gerddores Eryri. Fe'i hurddwyd yn Eisteddfod Corwen ym 1919.

Dilynodd Llyfni ei dad i'r chwarel ac yno y bu'n gweithio hyd ddydd ei briodas. Yna daeth yn argraffydd ac yn siopwr bach, gan ei anfarwoli ei hun fel bardd a cherddor, yn ganwr penillion o fri cenedlaethol ac yn delynor hyfedr.

Bu farw ar y 4ydd o Ebrill 1962, ac fe'i claddwyd ym Mynwent Macpela, Pen-y-groes. Yn fuan wedi ei gladdu canfu ei weddw, Mallt, englyn a gyfansoddodd Llyfni i'w roi ar ei garreg fedd ei hun. A dyna'n wir a wnaed. Dyma'r englyn :

         Carodd Dduw, do, carodd ddyn, - carodd lên,
               Carodd lunio englyn ;
             Carodd wau â'r tannau tyn
             Iaith ei dylwyth a'i delyn.

Cyhoeddodd Llyfni (a Mallt) bum llyfr cerdd pwysig :

1930 : Aelwyd y Delyn Rhan 1

1934 : Llyfr Penillion Telyn

1944 : Aelwyd y Delyn Rhan 2

1951 : Aelwyd y Delyn Rhan 3

1952 : Aelwyd y Delyn Rhan 4

Ym 1968 cyhoeddodd Mallt Huws gyfrol goffa i'w gŵr dan y teitl Cyfrol Goffa Llyfni Huws, a'i chyflwyno i'w dwy ferch, Llinos Llyfni a Heulwen Mai.