R. Bonner Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Bardd oedd 'Bonar', sef '''R. Bonner Thomas''', (1881-1907), a fagwyd ym Mryn Awen, [[Trefor]]. Collodd ei dad yn ifanc ac yn yr ''Herald Cymraeg'' 22 Ionawr 1907 fe ddywedir : ''yn yr argyfwng hwn neidiodd i'r adwy i fod yn gysgod ac yn amddiffyn i'w deulu. Drysodd hyn yrfa ei fywyd a bu rhaid iddo aros, yn groes i'w ewyllys, i hollti cerrig yn Chwarel yr Eifl. Trodd lawr y chwarel yn bulpud a phregethodd yn ei fywyd.''
Bardd oedd 'Bonar', sef '''R. Bonner Thomas''', (1881-1907), a fagwyd ym Mryn Awen, [[Trefor]]. Collodd ei dad yn ifanc ac yn yr ''Herald Cymraeg'' 22 Ionawr 1907 fe ddywedir : ''yn yr argyfwng hwn neidiodd i'r adwy i fod yn gysgod ac yn amddiffyn i'w deulu. Drysodd hyn yrfa ei fywyd a bu rhaid iddo aros, yn groes i'w ewyllys, i hollti cerrig yn [[Chwarel yr Eifl]]. Trodd lawr y chwarel yn bulpud a phregethodd yn ei fywyd.''


Bu farw'n ifanc o'r tyciâu (darfodedigaeth - TB). Bu farw tri brawd arall iddo o'r un afiechyd ac o fewn yr un cyfnod o ryw 6-7 mlynedd. Ar ei farwolaeth fe'i disgrifir fel hyn yng ngholofnau'r ''Herald Cymraeg'' :
Bu farw'n ifanc o'r tyciâu (darfodedigaeth - TB). Bu farw tri brawd arall iddo o'r un afiechyd ac o fewn yr un cyfnod o ryw 6-7 mlynedd. Ar ei farwolaeth fe'i disgrifir fel hyn yng ngholofnau'r ''Herald Cymraeg'' :

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:13, 25 Chwefror 2020

Bardd oedd 'Bonar', sef R. Bonner Thomas, (1881-1907), a fagwyd ym Mryn Awen, Trefor. Collodd ei dad yn ifanc ac yn yr Herald Cymraeg 22 Ionawr 1907 fe ddywedir : yn yr argyfwng hwn neidiodd i'r adwy i fod yn gysgod ac yn amddiffyn i'w deulu. Drysodd hyn yrfa ei fywyd a bu rhaid iddo aros, yn groes i'w ewyllys, i hollti cerrig yn Chwarel yr Eifl. Trodd lawr y chwarel yn bulpud a phregethodd yn ei fywyd.

Bu farw'n ifanc o'r tyciâu (darfodedigaeth - TB). Bu farw tri brawd arall iddo o'r un afiechyd ac o fewn yr un cyfnod o ryw 6-7 mlynedd. Ar ei farwolaeth fe'i disgrifir fel hyn yng ngholofnau'r Herald Cymraeg :

  Byddai yn byw bob amser dan gysgodion y cymylau gan droi dalennau duon Rhagluniaeth o ddydd i ddydd a cherdded yn bendrist ar hyd corsydd anobaith nes yr oedd wedi blino a diffygio ar y daith ... nid yn hawdd y gellir mynd i dŷ yn Nhrefor nag y mae gweithiau barddonol ein cyfaill ieuanc i'w gweld ar y parwydydd yn tywallt deigryn cydymdeimlad ei awen ar ôl anwyliaid.

Roedd Bonar yn aelod ffyddlon yng nghapel Gosen (MC) ac yn aelod brwd o Fyddin y Rhuban Glas a'r Temlwyr Da, dau fudiad dirwest. Yn wir, dirwest yw ei brif destun fel bardd. Roedd hefyd yn weithgar gyda'r Gobeithlu ac yn athro Ysgol Sul ac yn sefydlydd a Llywydd Cymdeithas Ymdrech Grefyddol Gosen. Dywedid hefyd ei fod yn weddïwr mawr.

Mae ganddo farddoniaeth yn y cylchgrawn Y Gymraes, Ionawr 1905, y cylchgrawn arbennig hwnnw dan olygyddiaeth Ceridwen Peris, gwraig William Jones, gweinidog Ebeneser (MC), Y Ffôr, oedd yn amlwg iawn yn y mudiad dirwest ganrif a rhagor yn ôl. Enw'r darn i'w adrodd yw BLWYDDYN NEWYDD WEN..

Ar ôl priodi aeth i fyw i Langaffo, Sir Fôn. Yno y'i claddwyd. Gadawodd weddw ac un plentyn bychan.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma