Siôn Robert Lewis (John Roberts): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Sion Robert Lewis (John Roberts) i Siôn Robert Lewis (John Roberts) |
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Daeth '''Siôn Robert Lewis''', (1731-1806) yn adnabyddus fel cyhoeddwr ''Almanac Caergybi''. Bu wrth y gwaith hwn am bedair blynedd a deugain a pharhawyd i’w gyhoeddi gan ei fab, [[Robert Roberts]](1777-1836), hyd 1837. <ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig: John Roberts. Awdur Thomas Isfryn Jones.</ref> Roedd hefyd yn awdur, rhwymwr a gwerthwr llyfrau, emynydd a gwneuthurwr clociau <ref>’’Nabod Môn’’ Gol. Dewi Jones, Glyndwr Thomas, tud.465. Gwasg Carreg Gwalch. (2003).</ref> | Daeth '''Siôn Robert Lewis''', (1731-1806) yn adnabyddus fel cyhoeddwr ''Almanac Caergybi''. Bu wrth y gwaith hwn am bedair blynedd a deugain a pharhawyd i’w gyhoeddi gan ei fab, [[Robert Roberts]] (1777-1836), hyd 1837. <ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig: John Roberts. Awdur Thomas Isfryn Jones.</ref> Roedd hefyd yn awdur, rhwymwr a gwerthwr llyfrau, emynydd a gwneuthurwr clociau <ref>’’Nabod Môn’’ Gol. Dewi Jones, Glyndwr Thomas, tud.465. Gwasg Carreg Gwalch. (2003).</ref> | ||
Roedd yn enedigol o [[Llanaelhaearn|Lanaelhaearn]], yn fab i ffermwr, Robert Roberts, ac yn ystod ei ieuenctid arferai fugeilio defaid ei dad. Ond yng Nghaergybi y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. | Roedd yn enedigol o [[Llanaelhaearn|Lanaelhaearn]], yn fab i ffermwr, Robert Roberts, ac yn ystod ei ieuenctid arferai fugeilio defaid ei dad. Ond yng Nghaergybi y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. | ||
Cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Hywel Harris yn pregethu yn y gymdogaeth, fe’i dilynodd i Drefeca, y gymuned Gristnogol a sefydlwyd gan Hywel Harris, a threulio tymor yno. <ref>’’Hanes Emynwyr Cymru’’, W.A. Griffiths,(Hanes Emynwyr Cymru) tud. 81, Arg.W.Gwenlyn Evans, Swyddfa’r ’’Geninen’’ (1880?).</ref> | Cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Hywel Harris yn pregethu yn y gymdogaeth, fe’i dilynodd i Drefeca, y gymuned Gristnogol a sefydlwyd gan Hywel Harris, a threulio tymor yno.<ref>’’Hanes Emynwyr Cymru’’, W.A. Griffiths,(Hanes Emynwyr Cymru) tud. 81, Arg.W.Gwenlyn Evans, Swyddfa’r ’’Geninen’’ (1880?).</ref> Cerddodd yno bob cam. | ||
<ref> Cambrian Bibliography, Rowlands (Gwilym Lleyn) Golygwyd gan D. Silvan Evans. Llanidloes 1869.</ref> | |||
Ymgartrefodd yng Nghaergybi tua 1760 pryd y cafodd drwydded gan Esgob Bangor i agor ysgol. Yn 1766 priododd Margaret Jones, Bodedern, Môn, a ganed iddynt chwech o blant. | Ymgartrefodd yng Nghaergybi tua 1760 pryd y cafodd drwydded gan Esgob Bangor i agor ysgol. Yn 1766 priododd Margaret Jones, Bodedern, Môn, a ganed iddynt chwech o blant. | ||
Llinell 19: | Llinell 20: | ||
[[Categori:Emynwyr]] | [[Categori:Emynwyr]] | ||
[[Categori:Crefftwyr]] | [[Categori:Crefftwyr]] | ||
[[Categori:Cyhoeddwyr]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:29, 6 Tachwedd 2020
Daeth Siôn Robert Lewis, (1731-1806) yn adnabyddus fel cyhoeddwr Almanac Caergybi. Bu wrth y gwaith hwn am bedair blynedd a deugain a pharhawyd i’w gyhoeddi gan ei fab, Robert Roberts (1777-1836), hyd 1837. [1] Roedd hefyd yn awdur, rhwymwr a gwerthwr llyfrau, emynydd a gwneuthurwr clociau [2]
Roedd yn enedigol o Lanaelhaearn, yn fab i ffermwr, Robert Roberts, ac yn ystod ei ieuenctid arferai fugeilio defaid ei dad. Ond yng Nghaergybi y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.
Cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Hywel Harris yn pregethu yn y gymdogaeth, fe’i dilynodd i Drefeca, y gymuned Gristnogol a sefydlwyd gan Hywel Harris, a threulio tymor yno.[3] Cerddodd yno bob cam. [4]
Ymgartrefodd yng Nghaergybi tua 1760 pryd y cafodd drwydded gan Esgob Bangor i agor ysgol. Yn 1766 priododd Margaret Jones, Bodedern, Môn, a ganed iddynt chwech o blant.
Almanac Caergybi oedd ei waith pennaf ond ysgrifennodd nifer o lyfrau gwerthfawr hefyd, yn eu plith ceir Rhai Hymnau (1760), a ysgrifennwyd gyda chymorth Richard Jones; Yr Anedigaeth Newydd (1762), cyfieithiad o lyfryn Saesneg The New Birth; Drych y Cristion (1766), sef ailargraffiad Carwr y Cymru cyhoeddedig gan T. Gouge ac S. Hughes (1677); Hymnau a Chaniadau (1764); Rhyfyddeg neu Arithmetic (1768), y llyfr rhifyddeg cyntaf yn Gymraeg; Geirlyfr Ysgrythurol (1773), y geiriadur ysgrythurol Cymraeg cyntaf; Caniadau Preswylwyr y Llwch (1778); Yr Athrofa Rad (1788).
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig: John Roberts. Awdur Thomas Isfryn Jones.
- ↑ ’’Nabod Môn’’ Gol. Dewi Jones, Glyndwr Thomas, tud.465. Gwasg Carreg Gwalch. (2003).
- ↑ ’’Hanes Emynwyr Cymru’’, W.A. Griffiths,(Hanes Emynwyr Cymru) tud. 81, Arg.W.Gwenlyn Evans, Swyddfa’r ’’Geninen’’ (1880?).
- ↑ Cambrian Bibliography, Rowlands (Gwilym Lleyn) Golygwyd gan D. Silvan Evans. Llanidloes 1869.