Siôn Robert Lewis (John Roberts): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| (Ni ddangosir y 12 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall) | |||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Daeth '''Siôn Robert Lewis''', (1731-1806) yn adnabyddus fel cyhoeddwr ''Almanac Caergybi''. Bu wrth y gwaith hwn am bedair blynedd a deugain a pharhawyd i’w gyhoeddi gan ei fab, [[Robert Roberts]] (1777-1836), hyd 1837. <ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig: John Roberts. Awdur Thomas Isfryn Jones.</ref> Roedd hefyd yn awdur, rhwymwr a gwerthwr llyfrau, emynydd a gwneuthurwr clociau <ref>’’Nabod Môn’’ Gol. Dewi Jones, Glyndwr Thomas, tud.465. Gwasg Carreg Gwalch. (2003).</ref> | |||
Cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Hywel Harris yn pregethu yn y gymdogaeth, fe’i dilynodd i Drefeca, y gymuned Gristnogol a sefydlwyd gan Hywel Harris, a threulio tymor yno. <ref>’’Hanes Emynwyr Cymru’’, W.A. Griffiths,(Hanes Emynwyr Cymru) tud. 81, Arg.W.Gwenlyn Evans, Swyddfa’r ’’Geninen’’ (1880?).</ref> | Roedd yn enedigol o [[Llanaelhaearn|Lanaelhaearn]], yn fab i ffermwr, Robert Roberts, ac yn ystod ei ieuenctid arferai fugeilio defaid ei dad. Ond yng Nghaergybi y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. | ||
Cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Hywel Harris yn pregethu yn y gymdogaeth, fe’i dilynodd i Drefeca, y gymuned Gristnogol a sefydlwyd gan Hywel Harris, a threulio tymor yno.<ref>’’Hanes Emynwyr Cymru’’, W.A. Griffiths,(Hanes Emynwyr Cymru) tud. 81, Arg.W.Gwenlyn Evans, Swyddfa’r ’’Geninen’’ (1880?).</ref> Cerddodd yno bob cam. | |||
<ref> Cambrian Bibliography, Rowlands (Gwilym Lleyn) Golygwyd gan D. Silvan Evans. Llanidloes 1869.</ref> | |||
Ymgartrefodd yng Nghaergybi tua 1760 pryd y cafodd drwydded gan Esgob Bangor i agor ysgol. Yn 1766 priododd Margaret Jones, Bodedern, Môn, a ganed iddynt chwech o blant. | Ymgartrefodd yng Nghaergybi tua 1760 pryd y cafodd drwydded gan Esgob Bangor i agor ysgol. Yn 1766 priododd Margaret Jones, Bodedern, Môn, a ganed iddynt chwech o blant. | ||
''Almanac Caergybi'' oedd ei waith pennaf ond ysgrifennodd nifer o lyfrau gwerthfawr hefyd, yn eu plith ceir ''Rhai Hymnau'' (1760), a ysgrifennwyd gyda chymorth Richard Jones; ''Yr Anedigaeth Newydd'' (1762), cyfieithiad o lyfryn Saesneg ''The New Birth''; ''Drych y Cristion'' (1766), sef ailargraffiad ''Carwr y Cymru'' cyhoeddedig gan T. Gouge ac S. Hughes (1677); ''Hymnau a Chaniadau'' (1764); ''Rhyfyddeg neu Arithmetic'' (1768), y llyfr rhifyddeg cyntaf yn Gymraeg; ''Geirlyfr Ysgrythurol'' (1773), y geiriadur ysgrythurol Cymraeg cyntaf; ''Caniadau Preswylwyr y Llwch'' (1778); ''Yr Athrofa Rad'' (1788). | |||
== Llythyr yn ymwneud â Siôn Robert Lewis == | |||
Yn ddiweddar deuthum ar draws llythyr (mae'n ddi-ddyddiad ond credaf iddo gael ei ysgrifennu tua 1970) yn ymwneud â Siôn Robert Lewis a anfonwyd at fy mam oddi wrth y ddiweddar Meiriona Llyfnwy Williams, Llanaelhaearn, a fu'n athrawes yn [[Ysgol Trefor]] o ddechrau'r 1950au hyd ei hymddeoliad. Dyma'r llythyr fwy neu lai yn ei gyfanrwydd: | |||
'... bûm yn holi Huw'r Crydd ynghylch Siôn Robert Lewis, a dyma'r hanes. Yr oedd yn byw mewn tŷ bychan uwchben Maes Cwm, mae wedi dadfeilio ers blynyddoedd. Pan ddechreuodd wneud yr Almanaciau yr oedd yn torri'r gyfraith rhywfodd, a bu raid iddo ddianc i Iwerddon. Pan ddaeth yn ôl yr oedd wedi newid ei enw, a galwai ei hun yn Robert Roberts. Mae Huw Crydd yn un o'i ddisgynyddion meddai ef. Teulu'r Seffras y gelwid hwy. Mae Huw yn credu fod Almanac gyntaf Robert Roberts gan Robin Tan Ceiri, ynghyd â'r stôl yr eisteddai arni i'w gwneud. Yr oeddynt yn deulu lluosog, yn cynnwys yr un a ddechreuodd y Cafe Lyons yn Llundain. ... Y pryd hwnnw yr oedd llawer o dai bach yng Nghwmcoryn, gan eu bod yn gweithio'r manganese yno, ac yn ei gario i'w lwytho i'r llongau a ddoi i'r cei bach yn ymyl Terfyn, Tyddyn Hywel. Y teulu yma a ddechreuodd y capel cyntaf yng Nghwmcoryn. Ym Mryn Gadfa Bach y byddent yn addoli cynt, ar wahân i'r Eglwys yn Llanaelhaearn wrth gwrs. | |||
Bu Huw'r Crydd y cyfeirir ato yn y llythyr yn gweithio mewn gweithdy bychan ar gyrion [[Llanaelhaearn]] am flynyddoedd. Roedd ymhlith yr olaf o grefftwyr gwlad o'r fath. Ffermdy ar y llethrau yn ardal [[Cwm Coryn]] uwchlaw Llanaelhaearn yw Maes Cwm ac mae nifer o adfeilion bythynnodd a thyddynnod yn y gymdogaeth. Mae'n debyg fod y cyfeiriad at ddianc i Iwerddon yn ymwneud â'r ffaith i lawer o almanaciau Cymraeg gael eu hargraffu yn Nulyn ar un cyfnod er mwyn osgoi'r dreth a godid arnynt yng Nghymru a Lloegr. Roedd Robin Tan Ceiri y cyfeirir ato yn hen lanc a thipyn o gymeriad a oedd yn ffermio fferm fynyddig Tan Ceiri a lethrau'r [[Yr Eifl|Eifl]] - bu farw tua diwedd y 1970au. Tybed a ŵyr unrhyw un am hynt a helynt yr Almanac gyntaf a'r stôl a hefyd daflu goleuni ar y cyfeiriad at i un o'r teulu ddechrau cadwyn Cafe Lyons yn Llundain? | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
| Llinell 15: | Llinell 26: | ||
[[Categori:Diwylliant]] | [[Categori:Diwylliant]] | ||
[[Categori:Awduron]] | [[Categori:Awduron]] | ||
[[Categori:Emynwyr]] | |||
[[Categori:Crefftwyr]] | |||
[[Categori:Cyhoeddwyr]] | |||
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:53, 14 Hydref 2025
Daeth Siôn Robert Lewis, (1731-1806) yn adnabyddus fel cyhoeddwr Almanac Caergybi. Bu wrth y gwaith hwn am bedair blynedd a deugain a pharhawyd i’w gyhoeddi gan ei fab, Robert Roberts (1777-1836), hyd 1837. [1] Roedd hefyd yn awdur, rhwymwr a gwerthwr llyfrau, emynydd a gwneuthurwr clociau [2]
Roedd yn enedigol o Lanaelhaearn, yn fab i ffermwr, Robert Roberts, ac yn ystod ei ieuenctid arferai fugeilio defaid ei dad. Ond yng Nghaergybi y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.
Cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Hywel Harris yn pregethu yn y gymdogaeth, fe’i dilynodd i Drefeca, y gymuned Gristnogol a sefydlwyd gan Hywel Harris, a threulio tymor yno.[3] Cerddodd yno bob cam. [4]
Ymgartrefodd yng Nghaergybi tua 1760 pryd y cafodd drwydded gan Esgob Bangor i agor ysgol. Yn 1766 priododd Margaret Jones, Bodedern, Môn, a ganed iddynt chwech o blant.
Almanac Caergybi oedd ei waith pennaf ond ysgrifennodd nifer o lyfrau gwerthfawr hefyd, yn eu plith ceir Rhai Hymnau (1760), a ysgrifennwyd gyda chymorth Richard Jones; Yr Anedigaeth Newydd (1762), cyfieithiad o lyfryn Saesneg The New Birth; Drych y Cristion (1766), sef ailargraffiad Carwr y Cymru cyhoeddedig gan T. Gouge ac S. Hughes (1677); Hymnau a Chaniadau (1764); Rhyfyddeg neu Arithmetic (1768), y llyfr rhifyddeg cyntaf yn Gymraeg; Geirlyfr Ysgrythurol (1773), y geiriadur ysgrythurol Cymraeg cyntaf; Caniadau Preswylwyr y Llwch (1778); Yr Athrofa Rad (1788).
Llythyr yn ymwneud â Siôn Robert Lewis
Yn ddiweddar deuthum ar draws llythyr (mae'n ddi-ddyddiad ond credaf iddo gael ei ysgrifennu tua 1970) yn ymwneud â Siôn Robert Lewis a anfonwyd at fy mam oddi wrth y ddiweddar Meiriona Llyfnwy Williams, Llanaelhaearn, a fu'n athrawes yn Ysgol Trefor o ddechrau'r 1950au hyd ei hymddeoliad. Dyma'r llythyr fwy neu lai yn ei gyfanrwydd:
'... bûm yn holi Huw'r Crydd ynghylch Siôn Robert Lewis, a dyma'r hanes. Yr oedd yn byw mewn tŷ bychan uwchben Maes Cwm, mae wedi dadfeilio ers blynyddoedd. Pan ddechreuodd wneud yr Almanaciau yr oedd yn torri'r gyfraith rhywfodd, a bu raid iddo ddianc i Iwerddon. Pan ddaeth yn ôl yr oedd wedi newid ei enw, a galwai ei hun yn Robert Roberts. Mae Huw Crydd yn un o'i ddisgynyddion meddai ef. Teulu'r Seffras y gelwid hwy. Mae Huw yn credu fod Almanac gyntaf Robert Roberts gan Robin Tan Ceiri, ynghyd â'r stôl yr eisteddai arni i'w gwneud. Yr oeddynt yn deulu lluosog, yn cynnwys yr un a ddechreuodd y Cafe Lyons yn Llundain. ... Y pryd hwnnw yr oedd llawer o dai bach yng Nghwmcoryn, gan eu bod yn gweithio'r manganese yno, ac yn ei gario i'w lwytho i'r llongau a ddoi i'r cei bach yn ymyl Terfyn, Tyddyn Hywel. Y teulu yma a ddechreuodd y capel cyntaf yng Nghwmcoryn. Ym Mryn Gadfa Bach y byddent yn addoli cynt, ar wahân i'r Eglwys yn Llanaelhaearn wrth gwrs.
Bu Huw'r Crydd y cyfeirir ato yn y llythyr yn gweithio mewn gweithdy bychan ar gyrion Llanaelhaearn am flynyddoedd. Roedd ymhlith yr olaf o grefftwyr gwlad o'r fath. Ffermdy ar y llethrau yn ardal Cwm Coryn uwchlaw Llanaelhaearn yw Maes Cwm ac mae nifer o adfeilion bythynnodd a thyddynnod yn y gymdogaeth. Mae'n debyg fod y cyfeiriad at ddianc i Iwerddon yn ymwneud â'r ffaith i lawer o almanaciau Cymraeg gael eu hargraffu yn Nulyn ar un cyfnod er mwyn osgoi'r dreth a godid arnynt yng Nghymru a Lloegr. Roedd Robin Tan Ceiri y cyfeirir ato yn hen lanc a thipyn o gymeriad a oedd yn ffermio fferm fynyddig Tan Ceiri a lethrau'r Eifl - bu farw tua diwedd y 1970au. Tybed a ŵyr unrhyw un am hynt a helynt yr Almanac gyntaf a'r stôl a hefyd daflu goleuni ar y cyfeiriad at i un o'r teulu ddechrau cadwyn Cafe Lyons yn Llundain?
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig: John Roberts. Awdur Thomas Isfryn Jones.
- ↑ ’’Nabod Môn’’ Gol. Dewi Jones, Glyndwr Thomas, tud.465. Gwasg Carreg Gwalch. (2003).
- ↑ ’’Hanes Emynwyr Cymru’’, W.A. Griffiths,(Hanes Emynwyr Cymru) tud. 81, Arg.W.Gwenlyn Evans, Swyddfa’r ’’Geninen’’ (1880?).
- ↑ Cambrian Bibliography, Rowlands (Gwilym Lleyn) Golygwyd gan D. Silvan Evans. Llanidloes 1869.