Tom Sarah: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Symudodd '''Thomas Edwin Sarah''' 1855-1916) (a | Symudodd '''Thomas Edwin Sarah''' (1855-1916) (a adwaenid fel rheol fel "Tom Sarah") i [[Tal-y-sarn|Dal-y-sarn]] pan oedd yn blentyn o Gernyw ac fe weithiodd ef a’i dad fel gyrwyr injans a pheirianwyr yn y chwarel. Erbyn 1911, nodwyd yn y Cyfrifiad ei fod yn "gyriedydd peiriannau trydanol". Roedd y tad (Edwin Sarah) a'i wraig, ynghyd â'u plant, Tom, Annie a Jennie, wedi setlo yn Nhal-y-sarn ac yno y bu'r teulu ar hyd oes Tom. Roedd yn chwaraewr cornet nodedig a bu'n arweinydd [[Seindorf Arian Dyffryn Nantlle]] am bum mlynedd ar hugain. Dan ei arweiniad daeth y band yn enwog, gan berfformio o flaen y Frenhines Fictoria. | ||
Priododd Tom â Sarah Jones o [[Brynaerau|Frynaerau]], lle roedd ei thad yn godwr canu yn y capel. Roedd Sarah Jones yn gontralto nodedig a | Priododd Tom â [[Sarah Jones (Seren Aerau)|Sarah Jones]] o [[Brynaerau|Frynaerau]], lle roedd ei thad yn godwr canu yn y capel. Roedd Sarah Jones yn gontralto nodedig a berfformiai dan yr enw ''Eos Aeron''. Roedd y teulu'n fynychwyr selog [[Capel Seion (A), Tal-y-sarn]] a bu Mary King yn canu yno'n gyson. Roedd ''King'' yn enw teuluol yng Nghernyw.<ref>''Y Casglwr'', Gwanwyn 1991, t.5</ref> Cafodd Tom a Sarah Sarah bump o blant, yn cynnwys [[William T. Sarah|William T.]] (g.1876); [[John Sarah (Pencerdd Cernyw)|John Henry]] (g.1878); Julia Mary (g.1880); a [[Mary King Sarah|Mary King]], (g.1885).<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1891</ref> | ||
Ym 1911, roedd Tom, ei wraig a'i fab di-briod John Henry'n byw yn Angorfa, Tal-y-sarn. Diddorol yw sylwi, er iddo gychwyn ei fywyd yn Sais pur (neu'n hytrach yn Gernyw-wr),mai llenwi ffurflen y cyfrifiad yn y Gymraeg a wnaeth.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1911</ref> Y flwyddyn ganlynol ymfudodd pawb o'r teulu (ond am John Henry) i Wisconsin yn yr Unol Daleithiau, ac yno y bu Tom sarah'n marw ym 1916.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 20.6.1916, t.8</ref> | |||
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:44, 28 Tachwedd 2022
Symudodd Thomas Edwin Sarah (1855-1916) (a adwaenid fel rheol fel "Tom Sarah") i Dal-y-sarn pan oedd yn blentyn o Gernyw ac fe weithiodd ef a’i dad fel gyrwyr injans a pheirianwyr yn y chwarel. Erbyn 1911, nodwyd yn y Cyfrifiad ei fod yn "gyriedydd peiriannau trydanol". Roedd y tad (Edwin Sarah) a'i wraig, ynghyd â'u plant, Tom, Annie a Jennie, wedi setlo yn Nhal-y-sarn ac yno y bu'r teulu ar hyd oes Tom. Roedd yn chwaraewr cornet nodedig a bu'n arweinydd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle am bum mlynedd ar hugain. Dan ei arweiniad daeth y band yn enwog, gan berfformio o flaen y Frenhines Fictoria.
Priododd Tom â Sarah Jones o Frynaerau, lle roedd ei thad yn godwr canu yn y capel. Roedd Sarah Jones yn gontralto nodedig a berfformiai dan yr enw Eos Aeron. Roedd y teulu'n fynychwyr selog Capel Seion (A), Tal-y-sarn a bu Mary King yn canu yno'n gyson. Roedd King yn enw teuluol yng Nghernyw.[1] Cafodd Tom a Sarah Sarah bump o blant, yn cynnwys William T. (g.1876); John Henry (g.1878); Julia Mary (g.1880); a Mary King, (g.1885).[2]
Ym 1911, roedd Tom, ei wraig a'i fab di-briod John Henry'n byw yn Angorfa, Tal-y-sarn. Diddorol yw sylwi, er iddo gychwyn ei fywyd yn Sais pur (neu'n hytrach yn Gernyw-wr),mai llenwi ffurflen y cyfrifiad yn y Gymraeg a wnaeth.[3] Y flwyddyn ganlynol ymfudodd pawb o'r teulu (ond am John Henry) i Wisconsin yn yr Unol Daleithiau, ac yno y bu Tom sarah'n marw ym 1916.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma