Bad achub Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Agorwyd gorsaf '''Bad achub Trefor''' 19 Ebrill 1883, ac fe'i | Agorwyd gorsaf '''Bad achub Trefor''' 19 Ebrill 1883, ac fe'i caewyd ym 1901. Yn swyddogol, galwyd yr orsaf yn orsaf bad achub [[Llanaelhaearn]], gan mai yn y plwyf hwnnw y lleolwyd y cwch. Fe godwyd cwt i'r bad achub ger cei [[Cwmni Ithfaen Trefor]]. Penderfynwyd bod angen bad achub rhwng Portinlläen a Llanddwyn yn dilyn llongddrylliad y ''Cyprian'', llong fawr a gollwyd ar y creigiau ger Cwmistir. | ||
Yr unig fad achub parhaol i wasanaethu yn yr orsaf oedd y ''Cyprian'', cwch modern hunan-gywirol (sef a fyddai'n | Yr unig fad achub parhaol i wasanaethu yn yr orsaf oedd y ''Cyprian'', cwch modern hunan-gywirol (sef un a fyddai'n ei unioni ei hun pe bai'n troi â'i ben i waered). Enwyd y cwch hwn ar ôl y llong a ddrylliwyd wrth Gwmistir, ac fe'i cyflwynwyd yn rhodd i Sefydliad Cenedlaethol y Badau Achub er cof am gapten y ''Cyprian'', Capten Strachan. Tawel fu hynt bad achub [[Trefor]]; roedd y cwch arferol, y ''Cyprian'', yn cael ei atgyweirio a chwch dros dro aeth allan ar yr alwad gyntaf a gafwyd, na ddigwyddodd tan 1890, pan aeth allan ddwywaith yr un diwrnod i helpu'r sgwner ''Reknown'' o Abertawe, ac wedyn y sgwner ''Ceres'' o Gaernarfon. Unig wasanaeth y ''Cyprian'' ei hun oedd ar 24 Awst 1894, pan aeth allan i gynorthwyo cwch pysgota, yr ''Annie Jones''. | ||
Arhosodd yr orsaf | Roedd cwt y bad achub yn union wrth ochr ddeuheuol yr hen gei yn harbwr Trefor.<ref>Map Ordnans 1888</ref> | ||
Arhosodd yr orsaf yn agored tan 1901 ond ni ddaeth galwad arall am wasanaeth y bad achub; erbyn hynny oedd y ''Cyprian'' yn annerbyniol o ran ei gyflwr a daethpwyd â'r orsaf i ben.<ref>Henry Parry, ''Wreck and Rescue on the Coast of Wales'', Cyf. I (Truro, 1969), t.63-68.</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Morwrol]] | [[Categori:Morwrol]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:12, 17 Ionawr 2022
Agorwyd gorsaf Bad achub Trefor 19 Ebrill 1883, ac fe'i caewyd ym 1901. Yn swyddogol, galwyd yr orsaf yn orsaf bad achub Llanaelhaearn, gan mai yn y plwyf hwnnw y lleolwyd y cwch. Fe godwyd cwt i'r bad achub ger cei Cwmni Ithfaen Trefor. Penderfynwyd bod angen bad achub rhwng Portinlläen a Llanddwyn yn dilyn llongddrylliad y Cyprian, llong fawr a gollwyd ar y creigiau ger Cwmistir.
Yr unig fad achub parhaol i wasanaethu yn yr orsaf oedd y Cyprian, cwch modern hunan-gywirol (sef un a fyddai'n ei unioni ei hun pe bai'n troi â'i ben i waered). Enwyd y cwch hwn ar ôl y llong a ddrylliwyd wrth Gwmistir, ac fe'i cyflwynwyd yn rhodd i Sefydliad Cenedlaethol y Badau Achub er cof am gapten y Cyprian, Capten Strachan. Tawel fu hynt bad achub Trefor; roedd y cwch arferol, y Cyprian, yn cael ei atgyweirio a chwch dros dro aeth allan ar yr alwad gyntaf a gafwyd, na ddigwyddodd tan 1890, pan aeth allan ddwywaith yr un diwrnod i helpu'r sgwner Reknown o Abertawe, ac wedyn y sgwner Ceres o Gaernarfon. Unig wasanaeth y Cyprian ei hun oedd ar 24 Awst 1894, pan aeth allan i gynorthwyo cwch pysgota, yr Annie Jones.
Roedd cwt y bad achub yn union wrth ochr ddeuheuol yr hen gei yn harbwr Trefor.[1]
Arhosodd yr orsaf yn agored tan 1901 ond ni ddaeth galwad arall am wasanaeth y bad achub; erbyn hynny oedd y Cyprian yn annerbyniol o ran ei gyflwr a daethpwyd â'r orsaf i ben.[2]