Bad achub Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Agorwyd gorsaf '''Bad achub Trefor''' 19 Ebrill 1883, ac fe'i gaewyd ym 1901. Yn swyddogol, galwyd yr orsaf yn orsaf bad achub [[Llanaelhaearn]], gan mai yn y plwyf hwnnw y lleolwyd y cwch. fe godwyd cwt i'r bad achub ger cei [[Cwmni Ithfaen Trefor]]. Penderfynwyd bod angen bad achub rhwng Portinlläen a Llanddwyn yn sgil llongddrylliad y ''Cyprian'', llong fawr a gollwyd ar y creigiau ger Cwmhistir.  
Agorwyd gorsaf '''Bad achub Trefor''' 19 Ebrill 1883, ac fe'i caewyd ym 1901. Yn swyddogol, galwyd yr orsaf yn orsaf bad achub [[Llanaelhaearn]], gan mai yn y plwyf hwnnw y lleolwyd y cwch. Fe godwyd cwt i'r bad achub ger cei [[Cwmni Ithfaen Trefor]]. Penderfynwyd bod angen bad achub rhwng Portinlläen a Llanddwyn yn dilyn llongddrylliad y ''Cyprian'', llong fawr a gollwyd ar y creigiau ger Cwmistir.  


Yr unig fad achub parhaol i wasanaethu yn yr orsaf oedd y ''Cyprian'', cwch modern hunan-gywirol (sef a fyddai'n troi ben chwith i fyny pe bai'r tonnau yn ei droi ben chwith i lawr). Enwyd y cwch hwn ar ôl y llong a ddrylliwyd wrth Gwmhistir, ac fe'i gyflwynwyd yn rhodd i Sefydliad Cenedlaethol y Badau Achub er cof am gapten y ''Cyprian'', Capten Strachan. Tawel fu hynt bad achub [[Trefor]]; roedd y cwch sefydlog, y ''Cyprian'', yn cael ei atgyweirio a chwch dros dro aeth allan ar yr alwad cyntaf, na ddigwyddodd tan 1890, pan aeth allan ddwywaith yr un diwrnod i helpu'r sgwner ''Reknown'' o Abertawe, ac wedyn y sgwner ''Ceres'' o Gaernarfon. Unig wasanaeth y ''Cyprian'' ei hun oedd ar 24 Awst 1894, pan aeth allan i gynorthwyocwch pysgota, yr ''Annie Jones''.
Yr unig fad achub parhaol i wasanaethu yn yr orsaf oedd y ''Cyprian'', cwch modern hunan-gywirol (sef un a fyddai'n ei unioni ei hun pe bai'n troi â'i ben i waered). Enwyd y cwch hwn ar ôl y llong a ddrylliwyd wrth Gwmistir, ac fe'i cyflwynwyd yn rhodd i Sefydliad Cenedlaethol y Badau Achub er cof am gapten y ''Cyprian'', Capten Strachan. Tawel fu hynt bad achub [[Trefor]]; roedd y cwch arferol, y ''Cyprian'', yn cael ei atgyweirio a chwch dros dro aeth allan ar yr alwad gyntaf a gafwyd, na ddigwyddodd tan 1890, pan aeth allan ddwywaith yr un diwrnod i helpu'r sgwner ''Reknown'' o Abertawe, ac wedyn y sgwner ''Ceres'' o Gaernarfon. Unig wasanaeth y ''Cyprian'' ei hun oedd ar 24 Awst 1894, pan aeth allan i gynorthwyo cwch pysgota, yr ''Annie Jones''.


Arhosodd yr orsaf ar agor tan 1901 ond ni ddaeth alwad arall am wasanaeth y bad achub; erbyn hynny oedd y ''Cyprian'' yn annerbyniol o ran ei gyflwr a ddaethpwyd yr orsaf i ben.<ref>Henry Parry, ''Wreck and Rescue on the Coast of Wales'', t.63-68. </ref>
Roedd cwt y bad achub yn union wrth ochr ddeuheuol yr hen gei yn harbwr Trefor.<ref>Map Ordnans 1888</ref>
 
Arhosodd yr orsaf yn agored tan 1901 ond ni ddaeth galwad arall am wasanaeth y bad achub; erbyn hynny oedd y ''Cyprian'' yn annerbyniol o ran ei gyflwr a daethpwyd â'r orsaf i ben.<ref>Henry Parry, ''Wreck and Rescue on the Coast of Wales'', Cyf. I (Truro, 1969), t.63-68.</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Morwrol]]
[[Categori:Morwrol]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:12, 17 Ionawr 2022

Agorwyd gorsaf Bad achub Trefor 19 Ebrill 1883, ac fe'i caewyd ym 1901. Yn swyddogol, galwyd yr orsaf yn orsaf bad achub Llanaelhaearn, gan mai yn y plwyf hwnnw y lleolwyd y cwch. Fe godwyd cwt i'r bad achub ger cei Cwmni Ithfaen Trefor. Penderfynwyd bod angen bad achub rhwng Portinlläen a Llanddwyn yn dilyn llongddrylliad y Cyprian, llong fawr a gollwyd ar y creigiau ger Cwmistir.

Yr unig fad achub parhaol i wasanaethu yn yr orsaf oedd y Cyprian, cwch modern hunan-gywirol (sef un a fyddai'n ei unioni ei hun pe bai'n troi â'i ben i waered). Enwyd y cwch hwn ar ôl y llong a ddrylliwyd wrth Gwmistir, ac fe'i cyflwynwyd yn rhodd i Sefydliad Cenedlaethol y Badau Achub er cof am gapten y Cyprian, Capten Strachan. Tawel fu hynt bad achub Trefor; roedd y cwch arferol, y Cyprian, yn cael ei atgyweirio a chwch dros dro aeth allan ar yr alwad gyntaf a gafwyd, na ddigwyddodd tan 1890, pan aeth allan ddwywaith yr un diwrnod i helpu'r sgwner Reknown o Abertawe, ac wedyn y sgwner Ceres o Gaernarfon. Unig wasanaeth y Cyprian ei hun oedd ar 24 Awst 1894, pan aeth allan i gynorthwyo cwch pysgota, yr Annie Jones.

Roedd cwt y bad achub yn union wrth ochr ddeuheuol yr hen gei yn harbwr Trefor.[1]

Arhosodd yr orsaf yn agored tan 1901 ond ni ddaeth galwad arall am wasanaeth y bad achub; erbyn hynny oedd y Cyprian yn annerbyniol o ran ei gyflwr a daethpwyd â'r orsaf i ben.[2]

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans 1888
  2. Henry Parry, Wreck and Rescue on the Coast of Wales, Cyf. I (Truro, 1969), t.63-68.