Y Corn Twmffat: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Corned perthynnol i Seindorf Trefor oedd '''Y Corn Twmffat'''. Cafodd ei lysenwi am reswm neilltuol. Arferid dysgu rhai bechgyn ifainc i ganu'r cyrn gan...'
 
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Corned perthynnol i Seindorf Trefor oedd '''Y Corn Twmffat'''. Cafodd ei lysenwi am reswm neilltuol.
Corned perthynnol i [[Seindorf Trefor]] oedd '''Y Corn Twmffat'''. Cafodd ei lysenwi am reswm neilltuol.

Arferid dysgu rhai bechgyn ifainc i ganu'r cyrn gan ddefnyddio'r cyrn salaf i wneud hynny. Roedd y corned arbennig yma, ''Boosey Class A'', wedi hen weld dyddiau gwell ac yn rhan o'r hen set a brynwyd ym 1897. Fe'i rhoed i fab fferm i geisio'i ganu ond fe ddefnyddiodd y bachgen direidus hwnnw'r corn i bwrpas 'amgenach' (yn ei dyb ef).  

Llinell 5: Llinell 5:
Roedd angen rhoi tanwydd ym mol y tractor un diwrnod, ond nid oedd unrhyw olwg o'r twmffat arferol yn unman. Cafodd y bachgen syniad - 'brên-wêf'. Dyma lifio 'cloch' y corn a'i defnyddio fel twmffat i lenwi tanc TVO'r tractor, ac yna ei soldro'n ei ôl â solder poeth nes yr oedd golwg ofnadwy arno. Dyna pam y'i galwyd byth ers hynny yn 'Gorn Twmffat'.  

Bu'r hen gorn yn hongian ar hoel yn yr hen Gwt Band gydol y blynyddoedd, ond pan symudodd y Seindorf i'w chartref newydd ym 1984, aeth y Corn Twmffat ar grwydr i rywle ac nis gwelwyd mwyach. Coffa da - a hwyliog - amdano !
Bu'r hen gorn yn hongian ar hoel yn yr hen Gwt Band gydol y blynyddoedd, ond pan symudodd y Seindorf i'w chartref newydd ym 1990, aeth y Corn Twmffat ar grwydr i rywle ac nis gwelwyd mwyach. Coffa da - a hwyliog - amdano!
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]
[[Categori:Bandiau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 22:39, 18 Mai 2020

Corned perthynnol i Seindorf Trefor oedd Y Corn Twmffat. Cafodd ei lysenwi am reswm neilltuol.

Arferid dysgu rhai bechgyn ifainc i ganu'r cyrn gan ddefnyddio'r cyrn salaf i wneud hynny. Roedd y corned arbennig yma, Boosey Class A, wedi hen weld dyddiau gwell ac yn rhan o'r hen set a brynwyd ym 1897. Fe'i rhoed i fab fferm i geisio'i ganu ond fe ddefnyddiodd y bachgen direidus hwnnw'r corn i bwrpas 'amgenach' (yn ei dyb ef).