Idris Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Y Canon Idris Thomas yw'r rheithor a roddodd y gwasanaeth hiraf o ddigon, hyd y gwyddom, i blwyf Llanaelhaearn (dros 30 mlynedd). Brodor o Ddinorwig, Arfo...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Y Canon Idris Thomas yw'r rheithor a roddodd y gwasanaeth hiraf o ddigon, hyd y gwyddom, i blwyf Llanaelhaearn (dros 30 mlynedd). Brodor o Ddinorwig, Arfon, yn fab i Hugh Thomas, chwarelwr yn Chwarel Dinorwig, a'i briod, ac yn un o bump o blant - dwy chwaer a thri brawd.
Y Canon '''Idris Thomas''' yw'r rheithor a roddodd y gwasanaeth hiraf o ddigon, hyd y gwyddom, i blwyf [[Llanaelhaearn]] (dros 30 mlynedd). Brodor o Ddinorwig, Arfon, yn fab i Hugh Thomas, chwarelwr yn Chwarel Dinorwig, a'i briod, ac yn un o bump o blant - dwy chwaer a thri brawd.

Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan o 1968 hyd 1971, ac fe'i ordeiniwyd yn ddiacon ym 1971 ac yna'n offeiriad ym 1972. Bu'n Gurad Llanbeblig a'r Waun-fawr 1971-75, ac yna fe'i sefydlwyd yn Rheithor plwyf Llanaelhaearn ym 1975, a hefyd yn Ficer Clynnog Fawr o 1977.
Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan o 1968 hyd 1971, ac fe'i ordeiniwyd yn ddiacon ym 1971 ac yna'n offeiriad ym 1972. Bu'n Gurad Llanbeblig a'r Waun-fawr 1971-75, ac yna fe'i sefydlwyd yn Rheithor plwyf [[Llanaelhaearn]] ym 1975, a hefyd yn Ficer [[Clynnog Fawr]] o 1977. Yn gynnar yn ei gyfnod fel ficer Clynnog Fawr, fe sicrhaodd bod deunydd ar ffurf arwyddion ac arddangosfa ar gael yn yr eglwys i ddehongli ei hanes i ymwelwyr.

Bu'n byw am gyfnod byr yn Rheithordy Llanarmon, ond yna daeth i fyw i'r Rheithordy (newydd fel rheithordy) yn Nhrefor. Mae'n briod ag Ann, brodor o Lanbedr Pont Steffan, ac mae iddynt dri mab, Rhodri, Meilir ac Osian.
Bu'n byw am gyfnod byr yn Rheithordy Llanarmon, ond yna daeth i fyw i'r Rheithordy (newydd fel rheithordy) yn [[Trefor|Nhrefor]]. Mae'n briod ag Ann, brodor o Lanbedr Pont Steffan, ac mae iddynt dri mab, Rhodri, Meilir ac Osian.

Ar ôl ymddeol symudodd y teulu i fyw ym mro mebyd Canon Thomas ym mhentref Deiniolen.
Ar ôl ymddeol symudodd y teulu i fyw ym mro mebyd Canon Thomas ym mhentref Deiniolen.
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Offeiriaid]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:17, 7 Chwefror 2020

Y Canon Idris Thomas yw'r rheithor a roddodd y gwasanaeth hiraf o ddigon, hyd y gwyddom, i blwyf Llanaelhaearn (dros 30 mlynedd). Brodor o Ddinorwig, Arfon, yn fab i Hugh Thomas, chwarelwr yn Chwarel Dinorwig, a'i briod, ac yn un o bump o blant - dwy chwaer a thri brawd.

Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan o 1968 hyd 1971, ac fe'i ordeiniwyd yn ddiacon ym 1971 ac yna'n offeiriad ym 1972. Bu'n Gurad Llanbeblig a'r Waun-fawr 1971-75, ac yna fe'i sefydlwyd yn Rheithor plwyf Llanaelhaearn ym 1975, a hefyd yn Ficer Clynnog Fawr o 1977. Yn gynnar yn ei gyfnod fel ficer Clynnog Fawr, fe sicrhaodd bod deunydd ar ffurf arwyddion ac arddangosfa ar gael yn yr eglwys i ddehongli ei hanes i ymwelwyr.