Robert Jones, Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ganwyd '''Robert Jones''' (1806-1896) yn Nolwenith, [[Llanllyfni]], 14 Tachwedd 1806, mab hynaf John Evans, chwarelwr, a Mary ei wraig. Symudodd y teulu i Gae'rwaun yn yr ardal yn 1810, a gelwid Robert Jones ‘Yr Hen Bencae'rwaun’ gan ei gydnabod. Dysgodd ddarllen yn ysgol Sabothol y Methodistiaid Calfinaidd a chafodd flwyddyn yn yr Ysgol Genedlaethol pan oedd yn 12 oed. Ymunodd â'r Bedyddwyr tua 1831. Dechreuodd bregethu yn fuan wedyn, ac ordeiniwyd ef yn weinidog Llanllyfni yn 1836. Priododd Margaret Hughes, Ochr-y-foel, ar 23 Chwefror 1838, ac yn Ochr-y-foel, [[Mynydd Llanllyfni]], y bu yn byw am y gweddill o'i oes. Bu'n weinidog Llanllyfni, [[Pontlyfni]], a [[Llanaelhaearn]] (1836-43); Llanllyfni, y Garn, a Chapel y Beirdd (1843-55); Llanllyfni a [[Tal-y-sarn|Thalysarn]] (1855-70); Llanllyfni (1870-85); Llanllyfni a [[Pen-y-groes|Phen-y-groes]] (1885-8). Efe oedd llywydd Undeb y Bedyddwyr Cymreig yn 1880. Cyhoeddodd 12 o lyfrau. Yr oedd yn ŵr hynod yn ei ymddangosiad, ei ddull o feddwl, a'i ffordd o fynegi ei feddwl. Yr oedd yn Rhyddfrydwr selog (gweler ''Y Faner'', 2 Rhagfyr 1868), ac areithiai lawer ar bynciau gwleidyddol, crefyddol, a chymdeithasol. Bu farw 3 Mawrth 1896.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig": erthygl; gan Griffith Thomas Roberts, Llanrug.</ref>
Ganwyd '''Robert Jones''' (1806-1896) yn Nolwenith, [[Llanllyfni]], 14 Tachwedd 1806, mab hynaf John Evans, chwarelwr, a Mary ei wraig. Symudodd y teulu i Gae'rwaun yn yr ardal yn 1810, a gelwid Robert Jones ‘Yr Hen Bencae'rwaun’ gan ei gydnabod. Dysgodd ddarllen yn ysgol Sul y Methodistiaid Calfinaidd a chafodd flwyddyn yn yr Ysgol Genedlaethol pan oedd yn 12 oed. Ymunodd â'r Bedyddwyr tua 1831. Dechreuodd bregethu yn fuan wedyn, ac ordeiniwyd ef yn weinidog Llanllyfni yn 1836. Priododd Margaret Hughes, Ochr-y-foel, ar 23 Chwefror 1838, ac yn Ochr-y-foel, [[Mynydd Llanllyfni]], y bu yn byw am y gweddill o'i oes. Bu'n weinidog Llanllyfni, [[Pontlyfni]], a [[Llanaelhaearn]] (1836-43); Llanllyfni, y Garn, a Chapel y Beirdd (1843-55); Llanllyfni a [[Tal-y-sarn|Thalysarn]] (1855-70); Llanllyfni (1870-85); Llanllyfni a [[Pen-y-groes|Phen-y-groes]] (1885-8). Ef oedd llywydd Undeb y Bedyddwyr Cymreig yn 1880. Cyhoeddodd 12 o lyfrau, yn cynnwys casgliad o emynau er na fabwysiadwyd y casgliad gan y Bedyddwyr fel casgliad yr enwad, er i Robert Jones gynnig ei werthu iddynt am swm bach.<ref>T.M. Bassett ''Y Bedyddwyr Cymreig'', (Abertawe, 1977), t.271</ref> Yr oedd yn ŵr hynod yn ei ymddangosiad, ei ddull o feddwl, a'i ffordd o fynegi ei feddwl. Yr oedd yn Rhyddfrydwr selog (gweler ''Y Faner'', 2 Rhagfyr 1868), ac areithiai lawer ar bynciau gwleidyddol, crefyddol, a chymdeithasol. Bu farw 3 Mawrth 1896.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig": erthygl; gan Griffith Thomas Roberts, Llanrug.</ref>
 
Dyma un hanes nodweddiadol ohono:
 
Roedd hi’n llwyd-dywyll pan oedd Robert Jones yn dod adre gyda’r nos, a chlywodd lais dagreuol yn dod o ochor y ffordd. Safodd a gofynnodd, ‘Be ddiawl sy ‘na?’ ‘Y fi,’ meddai’r llais. ‘Pwy wyt ti?’  ‘Nel, morwyn fach y Waunisa.’ ‘Be ’di’r matar arnat ti?’ ‘Wedi cael fy nhorri allan o Seiat y Methodistiaid.’ ‘Be wnest ti?’ ‘Dim ond mynd i neithior fy chwaer.’  ‘Oedd ’na win yno?’  ‘Oedd.’  ‘Yfaist ti win?’  ‘Dim ond yfed iechyd fy chwaer.’  ‘Oedd ‘na ddawnsio yno?’  ‘Oedd.’  ‘Ddawnsiaist ti?’ ‘Fedrwn i ddim dawnsio.’  ‘Nos Fercher nesa mae’n Seiat ni, Seiat y Bedyddwyr. Tyrd yno.’
Yn y Seiat honno, fe dynnwyd sylw Robert Jones at yr eneth. Aeth i fyny ati a mynd tros yr un holi a’r ateb, ac yna dyma fo’n troi at y gynulleidfa a dweud, ‘Frodyr a Chwiorydd, mae’r eneth yma wedi cael ei thorri allan o Seiat y Methodistiaid am fynd i neithior ei chwaer.’  Yna fe drodd ei wyneb tua’r nefoedd a gofyn, fel y byddai’r hen bregethwyr, ‘Iesu annwyl, fuost ti mewn neithior erioed?  Do, yng Nghana Galilea. Oedd ’na win yno?  Oedd, wrth gwrs.  Oedd  ’na ddawnsio yno?  Oedd, debyg iawn. Wel, Iesu annwyl, rwyt ti’n lwcus ofnadwy nad wyt ti’n perthyn i Seiat y Methodistiaid neu mi fasat wedi cael dy dorri allan ers talwm.’<ref>Allan o ''Bara Brith i De'' gan T.D. Roberts;Gwasg Gwynedd,(1992)t.45</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}
Llinell 6: Llinell 12:
[[Categori:Gweinidogion]]
[[Categori:Gweinidogion]]
[[Categori:Awduron]]
[[Categori:Awduron]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:47, 6 Medi 2020

Ganwyd Robert Jones (1806-1896) yn Nolwenith, Llanllyfni, 14 Tachwedd 1806, mab hynaf John Evans, chwarelwr, a Mary ei wraig. Symudodd y teulu i Gae'rwaun yn yr ardal yn 1810, a gelwid Robert Jones ‘Yr Hen Bencae'rwaun’ gan ei gydnabod. Dysgodd ddarllen yn ysgol Sul y Methodistiaid Calfinaidd a chafodd flwyddyn yn yr Ysgol Genedlaethol pan oedd yn 12 oed. Ymunodd â'r Bedyddwyr tua 1831. Dechreuodd bregethu yn fuan wedyn, ac ordeiniwyd ef yn weinidog Llanllyfni yn 1836. Priododd Margaret Hughes, Ochr-y-foel, ar 23 Chwefror 1838, ac yn Ochr-y-foel, Mynydd Llanllyfni, y bu yn byw am y gweddill o'i oes. Bu'n weinidog Llanllyfni, Pontlyfni, a Llanaelhaearn (1836-43); Llanllyfni, y Garn, a Chapel y Beirdd (1843-55); Llanllyfni a Thalysarn (1855-70); Llanllyfni (1870-85); Llanllyfni a Phen-y-groes (1885-8). Ef oedd llywydd Undeb y Bedyddwyr Cymreig yn 1880. Cyhoeddodd 12 o lyfrau, yn cynnwys casgliad o emynau er na fabwysiadwyd y casgliad gan y Bedyddwyr fel casgliad yr enwad, er i Robert Jones gynnig ei werthu iddynt am swm bach.[1] Yr oedd yn ŵr hynod yn ei ymddangosiad, ei ddull o feddwl, a'i ffordd o fynegi ei feddwl. Yr oedd yn Rhyddfrydwr selog (gweler Y Faner, 2 Rhagfyr 1868), ac areithiai lawer ar bynciau gwleidyddol, crefyddol, a chymdeithasol. Bu farw 3 Mawrth 1896.[2]

Dyma un hanes nodweddiadol ohono:

Roedd hi’n llwyd-dywyll pan oedd Robert Jones yn dod adre gyda’r nos, a chlywodd lais dagreuol yn dod o ochor y ffordd. Safodd a gofynnodd, ‘Be ddiawl sy ‘na?’ ‘Y fi,’ meddai’r llais. ‘Pwy wyt ti?’ ‘Nel, morwyn fach y Waunisa.’ ‘Be ’di’r matar arnat ti?’ ‘Wedi cael fy nhorri allan o Seiat y Methodistiaid.’ ‘Be wnest ti?’ ‘Dim ond mynd i neithior fy chwaer.’ ‘Oedd ’na win yno?’ ‘Oedd.’ ‘Yfaist ti win?’ ‘Dim ond yfed iechyd fy chwaer.’ ‘Oedd ‘na ddawnsio yno?’ ‘Oedd.’ ‘Ddawnsiaist ti?’ ‘Fedrwn i ddim dawnsio.’ ‘Nos Fercher nesa mae’n Seiat ni, Seiat y Bedyddwyr. Tyrd yno.’

Yn y Seiat honno, fe dynnwyd sylw Robert Jones at yr eneth. Aeth i fyny ati a mynd tros yr un holi a’r ateb, ac yna dyma fo’n troi at y gynulleidfa a dweud, ‘Frodyr a Chwiorydd, mae’r eneth yma wedi cael ei thorri allan o Seiat y Methodistiaid am fynd i neithior ei chwaer.’ Yna fe drodd ei wyneb tua’r nefoedd a gofyn, fel y byddai’r hen bregethwyr, ‘Iesu annwyl, fuost ti mewn neithior erioed? Do, yng Nghana Galilea. Oedd ’na win yno? Oedd, wrth gwrs. Oedd ’na ddawnsio yno? Oedd, debyg iawn. Wel, Iesu annwyl, rwyt ti’n lwcus ofnadwy nad wyt ti’n perthyn i Seiat y Methodistiaid neu mi fasat wedi cael dy dorri allan ers talwm.’[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. T.M. Bassett Y Bedyddwyr Cymreig, (Abertawe, 1977), t.271
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig": erthygl; gan Griffith Thomas Roberts, Llanrug.
  3. Allan o Bara Brith i De gan T.D. Roberts;Gwasg Gwynedd,(1992)t.45