Cylch yr Eifl, Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Cymdeithas ddiwylliannol yw Cylch yr Eifl sy'n cyfarfod yng Nghanolfan pentref Trefor yn fisol yn ystod y gaeaf.
Cymdeithas ddiwylliannol oedd '''Cylch yr Eifl''' a oedd yn cyfarfod yn Y Ganolfan yn [[Trefor|Nhrefor]] yn fisol yn ystod y gaeaf.
 
Sefydlwyd '''Cylch yr Eifl''' dros ugain mlynedd yn ôl a'i ddiben pennaf oedd hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg a'r diwylliant Cymreig ym mhentref Trefor, yn ogystal ag addysgu a difyrru ei aelodau. Y prif ysgogydd a fu'n gyfrifol am sefydlu'r Cylch oedd y ddiweddar Margaret Williams, Glanfa, Trefor, a thros y blynyddoedd bu nifer o aelodau eraill yn gweithredu fel llywyddion, ysgrifenyddion a thrysoryddion.
 
Arferai'r Cylch gyfarfod ar brynhawniau Iau yn Y Ganolfan a thros y blynyddoedd ymwelodd dwsinau lawer o siaradwyr â'r gymdeithas gan ymdrin ag ystod eang o feysydd, yn hanes, cerddoriaeth, llenyddiaeth, llên, gwerin, atgofion ac yn y blaen. Hefyd byddai'r aelodau'n mwynhau gwibdeithiau difyr bob haf.
 
Bu Cylch yr Eifl yn rhan bwysig o ddiwylliant pentref Trefor am oddeutu dau ddegawd ond, fel yn achos llawer cymdeithas o'i bath, roedd nifer yr aelodau'n prinhau ac yn heneiddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd y rhesymau hynny daeth i ben ysywaeth yn nechrau 2020.
 
== Cyfeiriadau ==
 
Gwybodaeth bersonol
 
{{eginyn}}
 
[[Categori:Cymdeithasau]]
[[Categori:Diwylliant]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:22, 17 Tachwedd 2020

Cymdeithas ddiwylliannol oedd Cylch yr Eifl a oedd yn cyfarfod yn Y Ganolfan yn Nhrefor yn fisol yn ystod y gaeaf.

Sefydlwyd Cylch yr Eifl dros ugain mlynedd yn ôl a'i ddiben pennaf oedd hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg a'r diwylliant Cymreig ym mhentref Trefor, yn ogystal ag addysgu a difyrru ei aelodau. Y prif ysgogydd a fu'n gyfrifol am sefydlu'r Cylch oedd y ddiweddar Margaret Williams, Glanfa, Trefor, a thros y blynyddoedd bu nifer o aelodau eraill yn gweithredu fel llywyddion, ysgrifenyddion a thrysoryddion.

Arferai'r Cylch gyfarfod ar brynhawniau Iau yn Y Ganolfan a thros y blynyddoedd ymwelodd dwsinau lawer o siaradwyr â'r gymdeithas gan ymdrin ag ystod eang o feysydd, yn hanes, cerddoriaeth, llenyddiaeth, llên, gwerin, atgofion ac yn y blaen. Hefyd byddai'r aelodau'n mwynhau gwibdeithiau difyr bob haf.

Bu Cylch yr Eifl yn rhan bwysig o ddiwylliant pentref Trefor am oddeutu dau ddegawd ond, fel yn achos llawer cymdeithas o'i bath, roedd nifer yr aelodau'n prinhau ac yn heneiddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd y rhesymau hynny daeth i ben ysywaeth yn nechrau 2020.

Cyfeiriadau

Gwybodaeth bersonol

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma