Syr Thomas Wynn, Barwnig 1af: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Penteulu teulu Wynniaid Boduan ym Mhen Llŷn oedd '''Thomas Wynn''' (1678-1749), a wnaed yn farwnig ym 1742. Mab ydoedd i Griffith Wynn, sgweier Boduan a...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Penteulu teulu Wynniaid Boduan ym Mhen Llŷn oedd '''Thomas Wynn''' (1678-1749), a wnaed yn farwnig ym 1742. Mab ydoedd i Griffith Wynn, sgweier Boduan  a Catharine ei wraig, merch William Vaughan, Corsygedol, Dyffryn Ardudwy. Priododd Frances, merch [[John Glynn (yr olaf)|John Glynn]] ac aeres [[Ystad Glynllifon]]. Roedd ganddo frawd, William (1678-1754), a ddaeth yn Syr William, efallai oherwydd iddo fod yn fanergludydd i fintai o bensiynwyr bonheddig. Ar farwolaeth John Glynn, etifeddodd ystad Glynllifon trwy ei wraig, gan uno ystadau Boduan a Glynllifon (er i'r ddwy ystad gael eu rhedeg r wahân i raddau helaeth am y ddwy ganrif nesaf). Yn y man, symudodd y teulu i fyw i [[Glynllifon]] gan osod plasty Boduan neu ei ddefnyddio ar gyfer aelodau iau y teulu.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt. 171-3</ref>  
Penteulu teulu Wynniaid Boduan yn Llŷn oedd '''Thomas Wynn''' (1678-1749), a wnaed yn farwnig ym 1742. Mab ydoedd i Griffith Wynn, sgweier Boduan  a Catharine ei wraig, merch William Vaughan, Corsygedol, Dyffryn Ardudwy. Priododd â Frances, merch [[John Glynn (yr olaf)|John Glynn]] ac aeres [[Ystad Glynllifon]], tua 1700. Trwy uno'r ddau deulu daeth y teulu unedig i reng flaen sgweiriaid y sir o ran eiddo, pwer a dylanwad gwleidyddol. Roedd ganddo frawd, William (1678-1754), a ddaeth yn Syr William, trwy ddylanwad ei frawd - efallai oherwydd iddo fod yn fanergludydd i fintai o bensiynwyr bonheddig ac yn gwasanaethu mab y Brenin. Ar farwolaeth John Glynn, etifeddodd Thomas ystad Glynllifon trwy ei wraig, gan uno ystadau Boduan a Glynllifon fel y dywedwyd eisoes (er i'r ddwy ystad gael eu rhedeg ar wahân i raddau helaeth am y ddwy ganrif nesaf). Yn y man, symudodd y teulu i fyw i [[Glynllifon]] gan osod plasty Boduan neu ei ddefnyddio ar gyfer aelodau iau y teulu.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt. 171-3</ref> Yn y dyddiau cynnar, roedd yn gartref i William Wynn, ei frawd iau.<ref>‘’History of Parliament’’ [https://www.historyofparliamentonline.org/volume/1715-1754/member/wynn-sir-william-1678-1754]</ref>


Roedd gan Thomas Wynn a Frances bump o blant, sef un mab, [[Syr John Wynn, 2il Farwnig|John]], Catharine, Elizabeth, (1705-?), Dorothy (1707-44), gwraig cyntaf William Thomas,Coed Helen, a Frances (1713-84) a farwodd yn ddi-briod.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 173</ref>
Roedd gan Thomas Wynn a Frances bump o blant, sef un mab, [[Syr John Wynn]], yr 2il Farwnig, Catharine, Elizabeth, (1705-?), Dorothy (1707-44), gwraig gyntaf William Thomas, Coed Helen, a Frances (1713-84) a fu farw'n ddi-briod.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 173</ref>
 
Roedd yn ddyn o ddylanwad, gan eistedd fel aelod seneddol dros frwdeistrefi'r sir o 1713 hyd ei farwolaeth ym 1749. Cyn hynny, bu'n Uchef Siryf Sir Gaernarfon ym 1712. Dywedir iddo greu llawer o fwrdeisiaid (dynion â hawliau penodol mewn tref) ym mwrdeistrefi'r sir lle roedd yn gallu dylanwadu ar y gorfforaeth fwrdeistrefol oherwydd ei fod yn berchen ar eiddo sylweddol yno. Nid oedd y bwrdeiswyr newydd hyn yn byw o anghenraid yn y dref lle roeddent wedi derbyn statws bwrdeisiaid ond roeddent yn sicr o roi eu pleidlais i Thomas Wynn mewn unrhyw etholiad a gynhelid. Rhwng 1707 a 1713, ychwanegodd 689 o fwrdeisiaid newydd at y 24 a oedd cynt yn Nefyn; ac ym Mhwllheli, cynyddodd y rhif o 36 i 210.<ref>P.G.T. Thomas, ''The Parliamentary Representation of Caernarvonshire in the Eighteenth Century'', (Trafodion Cym Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 19 (1958)), t. 44</ref> Bu'n aelod o lys y tywysog George, mab y Brenin, fel un o wastrodion (''equerries'') y tywysog, a pharhaodd yn y swyddogaeth honno wedi i hwnnw fynd yn frenin ym 1727 (heblaw am dair blynedd, 1724-7, pan weithredodd fel Cwnstabl Castell Caernarfon a Chlerc Llys y Tywysog).<ref>‘’History of Parliament’’ [https://www.historyofparliamentonline.org/volume/1690-1715/member/wynn-thomas-1677-1749]</ref> Derbyniodd y swm sylweddol o £300 y flwyddyn fel gwastrodwr ac fe ddaliodd hefyd swydd Clerc y Lliain Gwyrdd a ddaeth â £1000 y flwyddyn iddo. Roedd felly'n ddyn cefnog o ran tir ac incwm. Roedd yn cefnogi plaid y Whigiaid ac yn pleidio achos y brenin yn ddiysgog, ac am hynny fe dderbyniodd y teitl o Farwnig.<ref>Glyn Roberts, ''The Glynnes and the Wynns of Glynllifon'', (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.30</ref>
 
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Tirfeddianwyr]]
[[Categori:Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori:Gwleidyddion]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:59, 18 Mehefin 2022

Penteulu teulu Wynniaid Boduan yn Llŷn oedd Thomas Wynn (1678-1749), a wnaed yn farwnig ym 1742. Mab ydoedd i Griffith Wynn, sgweier Boduan a Catharine ei wraig, merch William Vaughan, Corsygedol, Dyffryn Ardudwy. Priododd â Frances, merch John Glynn ac aeres Ystad Glynllifon, tua 1700. Trwy uno'r ddau deulu daeth y teulu unedig i reng flaen sgweiriaid y sir o ran eiddo, pwer a dylanwad gwleidyddol. Roedd ganddo frawd, William (1678-1754), a ddaeth yn Syr William, trwy ddylanwad ei frawd - efallai oherwydd iddo fod yn fanergludydd i fintai o bensiynwyr bonheddig ac yn gwasanaethu mab y Brenin. Ar farwolaeth John Glynn, etifeddodd Thomas ystad Glynllifon trwy ei wraig, gan uno ystadau Boduan a Glynllifon fel y dywedwyd eisoes (er i'r ddwy ystad gael eu rhedeg ar wahân i raddau helaeth am y ddwy ganrif nesaf). Yn y man, symudodd y teulu i fyw i Glynllifon gan osod plasty Boduan neu ei ddefnyddio ar gyfer aelodau iau y teulu.[1] Yn y dyddiau cynnar, roedd yn gartref i William Wynn, ei frawd iau.[2]

Roedd gan Thomas Wynn a Frances bump o blant, sef un mab, Syr John Wynn, yr 2il Farwnig, Catharine, Elizabeth, (1705-?), Dorothy (1707-44), gwraig gyntaf William Thomas, Coed Helen, a Frances (1713-84) a fu farw'n ddi-briod.[3]

Roedd yn ddyn o ddylanwad, gan eistedd fel aelod seneddol dros frwdeistrefi'r sir o 1713 hyd ei farwolaeth ym 1749. Cyn hynny, bu'n Uchef Siryf Sir Gaernarfon ym 1712. Dywedir iddo greu llawer o fwrdeisiaid (dynion â hawliau penodol mewn tref) ym mwrdeistrefi'r sir lle roedd yn gallu dylanwadu ar y gorfforaeth fwrdeistrefol oherwydd ei fod yn berchen ar eiddo sylweddol yno. Nid oedd y bwrdeiswyr newydd hyn yn byw o anghenraid yn y dref lle roeddent wedi derbyn statws bwrdeisiaid ond roeddent yn sicr o roi eu pleidlais i Thomas Wynn mewn unrhyw etholiad a gynhelid. Rhwng 1707 a 1713, ychwanegodd 689 o fwrdeisiaid newydd at y 24 a oedd cynt yn Nefyn; ac ym Mhwllheli, cynyddodd y rhif o 36 i 210.[4] Bu'n aelod o lys y tywysog George, mab y Brenin, fel un o wastrodion (equerries) y tywysog, a pharhaodd yn y swyddogaeth honno wedi i hwnnw fynd yn frenin ym 1727 (heblaw am dair blynedd, 1724-7, pan weithredodd fel Cwnstabl Castell Caernarfon a Chlerc Llys y Tywysog).[5] Derbyniodd y swm sylweddol o £300 y flwyddyn fel gwastrodwr ac fe ddaliodd hefyd swydd Clerc y Lliain Gwyrdd a ddaeth â £1000 y flwyddyn iddo. Roedd felly'n ddyn cefnog o ran tir ac incwm. Roedd yn cefnogi plaid y Whigiaid ac yn pleidio achos y brenin yn ddiysgog, ac am hynny fe dderbyniodd y teitl o Farwnig.[6]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 171-3
  2. ‘’History of Parliament’’ [1]
  3. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 173
  4. P.G.T. Thomas, The Parliamentary Representation of Caernarvonshire in the Eighteenth Century, (Trafodion Cym Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 19 (1958)), t. 44
  5. ‘’History of Parliament’’ [2]
  6. Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.30