Thomas Glynn, AS a botanegydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Thomas Glynn''' (c1600-1648) yn fab hynaf Syr William Glynn a'i wraig Jane Griffith - y plentyn hynaf o chwe brawd a phedair chwaer yn y cartref ym [[Plas Glynllifon|Mhlas Glynllifon]]. Gyda thiroedd ym Mon yn ogystal â Sir Gaernarfon, fe'i godwyd yn Uchel Siryf yn y ddwy sir, Sir Gaernarfon ym 1622 a Môn y flwyddyn ganlynol - roedd hi'n arfer y pryd hynny i gydnabod pwysigrwydd meibion hynaf y prif deuluoedd sirol cyn gynted ag y daethant i'w hetifeddiaeth ac roedd Syr William wedi marw ym 1620.
Roedd '''Thomas Glynn''' (c1596-1647) yn fab hynaf Syr William Glynn a'i wraig Jane Griffith - y plentyn hynaf o chwe brawd a phedair chwaer yn y cartref ym [[Plas Glynllifon|Mhlas Glynllifon]]. Gyda thiroedd ym Môn yn ogystal â Sir Gaernarfon, fe'i codwyd yn Uchel Siryf yn y ddwy sir, Sir Gaernarfon ym 1622 a Môn y flwyddyn ganlynol - roedd hi'n arfer y pryd hynny i gydnabod pwysigrwydd meibion hynaf y prif deuluoedd sirol cyn gynted ag y daethant i'w hetifeddiaeth ac roedd Syr William wedi marw ym 1620.


Mae'r hanesydd Yr Athro Glyn Roberts wedi ei ddisgrifio fel "dyn heb unrhyw rinweddau a safai allan",<ref>Glyn Roberts, ''The Glynnes and the Wynns of Glynllifon'', (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.28</ref> ac i raddau, yn y maes sirol a gwleidyddol yr oedd hyn yn wir. Cafodd ei ethol (oherwydd ei dras a maint ei diroedd, mae'n debyg) yn aelod seneddol ym 1624 ac eto ar gyfer y Senedd Fer (1640) a'r Senedd Hir (1640-1648). Er ei fod yn frenhinwr ar ddechrau'r ymrafael rhwng y Goron a'r Piwritaniaid, ac yn swyddog ym myddin y Brenin, gwelodd sut yr oedd y gwynt yn chwythu ac fe newidiodd ei deyrngarwch i fod yn gefnogwr llugoer o achos Plaid y Senedd yn y Rhyfel Cartref. Bu'n gwnstabl Castell Caernarfon, 1646-8. Bron na ellid dweud ei bod yn ollyngdod pan fu farw ym 1648, gan adael gweddw, mab ([[John Glynn (yr olaf)|John Glynn)]] a merch, Catherine. MI wnaeth briodi'n ddoeth, fodd bynnag, gan sicrhau estyniad sylweddol i [[Ystad Glynllifon]] trwy briodi Ellen Owen, cydaeres Bodafon-y-Glyn, Llanfwrog, Ynys Môn.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt. 58, 172-3</ref>
Mae'r hanesydd Yr Athro Glyn Roberts wedi ei ddisgrifio fel "dyn heb unrhyw rinweddau a safai allan",<ref>Glyn Roberts, ''The Glynnes and the Wynns of Glynllifon'', (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.28</ref> ac i raddau, ym maes materion sirol a gwleidyddol yr oedd hyn yn wir. Serch hynny (dichon oherwydd ei dras a maint ei diroedd) derbyniodd nifer o swyddi a swyddogaethau o bwys yn y sir. Roedd yn ddirprwy raglaw, 1620-42 ac yn ynad heddwch o 1621 hyd ei farwolaeth ym 1647, ymysg swyddogaethau eraill. Yn ystod y Rhyfel Cartref bu'n gyrnol y milisia sirol, ac yn llywodraethwr Caernarfon 1646-7. Cafodd ei ethol yn aelod seneddol ym 1624 ac eto ym 1626 trwy sicrhau cefnogaeth sgweiriaid Llŷn yn erbyn carfan a oedd yn gefnogol i deulu Gwedir. Bu hefyd yn aelod seneddol yn y Senedd Fer (1640). Er ei fod yn frenhinwr ar ddechrau'r ymrafael rhwng y Goron a'r Piwritaniaid, ac yn swyddog ym myddin y Brenin, gwelodd sut yr oedd y gwynt yn chwythu ac fe newidiodd ei deyrngarwch ym 1646 i fod yn gefnogwr llugoer i achos Plaid y Senedd yn y Rhyfel Cartref. Bu'n gwnstabl Castell Caernarfon, 1646-7.<ref>Gwefan ''The History of Parliament'', [https://www.historyofparliamentonline.org/volume/1604-1629/member/glynne-thomas-1596-1647]</ref> Bron na ellid dweud ei bod yn ollyngdod pan fu farw ar ddiwedd 1647, gan adael gweddw, mab ([[John Glynn (yr olaf)|John Glynn)]] a merch, Catherine. Mi wnaeth briodi'n ddoeth, fodd bynnag, gan sicrhau estyniad sylweddol i [[Ystad Glynllifon]] trwy briodi Ellen Owen, cyd-aeres Bodafon-y-Glyn, Llanfwrog, Ynys Môn.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt. 58, 172-3</ref>
 
Er nad oedd yn ddyn cyhoeddus wrth reddf, fe wnaeth farc sylweddol mewn maes arall, gan ei fod yn un o'r botanegwyr cynharaf y gwyddys amdanynt yng Nghymru. Mae'n bur debyg mai Thomas Glynn ddechreuodd y traddodiad o arddio ar raddfa fawr o gwmpas y plas ac yn sicr roedd yn fotanegydd brwdfrydig<ref>[https://en.wikisource.org/wiki/Page:Journal_of_botany,_British_and_foreign,_Volume_9_(1871).djvu/186 Cyfeiriad ato yn ''Journal of Botany, British and Foreign (1871)'']</ref>. Ceir cyfeiriadau ato mewn amryw o gyhoeddiadau yn ymwneud â disgyblaeth botaneg. Gellir dadlau ei fod wedi cyfrannu llawer iawn at yr astudiaeth o wahanol fathau o blanhigion, ac wedi gwneud enw iddo'i hun yn y maes.<ref>Alicia Amherst, ''A History of Gardening in England'' (1896)</ref>
 
Mor gynnar â dechrau'r 1630au, os nad cynt, roedd wedi bod yn llythyru â'r botanegydd blaengar, [[Thomas Johnson]], ac yn anfon sbesimenau ato. Dyma, medd yr hanesydd botaneg Dewi Jones, oedd y tro cyntaf y gwyddys amdano i Gymro fynd ati i hel enghreifftiau o blanhigion cynhenid. Glynn oedd y cyntaf i ddarganfod y planhigyn ''Otanthus maritimus'' neu Edafeddog y môr, a hynny ger [[Dinas Dinlle]]. Ato fo felly y trodd y botanegwr Johnson wrth gychwyn ar ei daith trwy Gymru fis Awst 1639 pan yn chwilio am rai o blanhigion prin yr ardal. Anfonodd Glynn un o'i weision i'w dywys o Rhuddlan i Fodysgallen ger Llandudno, lle 'roedd Glynn ei hun yn disgwyl amdano. Arhosodd Johnson ym Mhlas Glynllifon am rai dyddiau, ac aeth Thomas Glynn gydag ef ar ei deithiau i chwilio am blanhigion lleol Eryri.<ref>Dewi Jones, ''The Botanists and Guides of Snowdonia'' (Llanrwst, 1996), tt.16-20</ref>  


Er nad oedd yn ddyn cyhoeddus, fodd bynnag, fe wnaeth farc sylweddol mewn maes arall, gan ei fod yn un o fotanegwyr cynharaf y gwyddys amdanynt yng Nghymru. Mor gynnar â'r 1630au cynnar os nad cynt, roedd wedi bod yn llythyru â'r botanegydd blaengar, [[Thomas Johnson]], ac yn anfon sbesiminau ato. Dyma, medd yr hanesydd llysieueg Dewi Jones, yw'r tro cyntaf y gwyddys amdano i Gymro fynd ati i hel enghreifftiau o blanhigion cynhenid. Glynne oedd y person cyntaf i ddarganfod y planhigyn ''Otanthus maritimus'' neu Edafeddog y môr, a hynny ger [[Dinas Dinlle]]. Ato fo felly y trodd y botanegwr wrth gychwyn ar ei daith trwy Gymru fis Awst 1639 pan yn chwilio am rai o blanhigion prin yr ardal. Anfonodd Glynn un o'i weision i'w dywys o'r Rhuddlan i Fodesgallen ger Llandudno, lle 'roedd Glynn ei hun yn disgwyl amdano. Arhosodd Johnson ym Mhlas Glynllifon am rai dyddiau, ac aeth Thomas Glynn gydag ef ar ei deithiau i chwilio am blanhigion lleol Eryri.<ref>Dewi Jones, ''The Botanists and Guides of Snowdonia'' (Llanrwst, 1996), tt.16-20</ref> Mae'n bur debyg heddiw mai Thomas Glynn ddechreuodd y traddodiad o arddio ar raddfa fawr o gwmpas y plas.


{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:32, 18 Mehefin 2022

Roedd Thomas Glynn (c1596-1647) yn fab hynaf Syr William Glynn a'i wraig Jane Griffith - y plentyn hynaf o chwe brawd a phedair chwaer yn y cartref ym Mhlas Glynllifon. Gyda thiroedd ym Môn yn ogystal â Sir Gaernarfon, fe'i codwyd yn Uchel Siryf yn y ddwy sir, Sir Gaernarfon ym 1622 a Môn y flwyddyn ganlynol - roedd hi'n arfer y pryd hynny i gydnabod pwysigrwydd meibion hynaf y prif deuluoedd sirol cyn gynted ag y daethant i'w hetifeddiaeth ac roedd Syr William wedi marw ym 1620.

Mae'r hanesydd Yr Athro Glyn Roberts wedi ei ddisgrifio fel "dyn heb unrhyw rinweddau a safai allan",[1] ac i raddau, ym maes materion sirol a gwleidyddol yr oedd hyn yn wir. Serch hynny (dichon oherwydd ei dras a maint ei diroedd) derbyniodd nifer o swyddi a swyddogaethau o bwys yn y sir. Roedd yn ddirprwy raglaw, 1620-42 ac yn ynad heddwch o 1621 hyd ei farwolaeth ym 1647, ymysg swyddogaethau eraill. Yn ystod y Rhyfel Cartref bu'n gyrnol y milisia sirol, ac yn llywodraethwr Caernarfon 1646-7. Cafodd ei ethol yn aelod seneddol ym 1624 ac eto ym 1626 trwy sicrhau cefnogaeth sgweiriaid Llŷn yn erbyn carfan a oedd yn gefnogol i deulu Gwedir. Bu hefyd yn aelod seneddol yn y Senedd Fer (1640). Er ei fod yn frenhinwr ar ddechrau'r ymrafael rhwng y Goron a'r Piwritaniaid, ac yn swyddog ym myddin y Brenin, gwelodd sut yr oedd y gwynt yn chwythu ac fe newidiodd ei deyrngarwch ym 1646 i fod yn gefnogwr llugoer i achos Plaid y Senedd yn y Rhyfel Cartref. Bu'n gwnstabl Castell Caernarfon, 1646-7.[2] Bron na ellid dweud ei bod yn ollyngdod pan fu farw ar ddiwedd 1647, gan adael gweddw, mab (John Glynn) a merch, Catherine. Mi wnaeth briodi'n ddoeth, fodd bynnag, gan sicrhau estyniad sylweddol i Ystad Glynllifon trwy briodi Ellen Owen, cyd-aeres Bodafon-y-Glyn, Llanfwrog, Ynys Môn.[3]

Er nad oedd yn ddyn cyhoeddus wrth reddf, fe wnaeth farc sylweddol mewn maes arall, gan ei fod yn un o'r botanegwyr cynharaf y gwyddys amdanynt yng Nghymru. Mae'n bur debyg mai Thomas Glynn ddechreuodd y traddodiad o arddio ar raddfa fawr o gwmpas y plas ac yn sicr roedd yn fotanegydd brwdfrydig[4]. Ceir cyfeiriadau ato mewn amryw o gyhoeddiadau yn ymwneud â disgyblaeth botaneg. Gellir dadlau ei fod wedi cyfrannu llawer iawn at yr astudiaeth o wahanol fathau o blanhigion, ac wedi gwneud enw iddo'i hun yn y maes.[5]

Mor gynnar â dechrau'r 1630au, os nad cynt, roedd wedi bod yn llythyru â'r botanegydd blaengar, Thomas Johnson, ac yn anfon sbesimenau ato. Dyma, medd yr hanesydd botaneg Dewi Jones, oedd y tro cyntaf y gwyddys amdano i Gymro fynd ati i hel enghreifftiau o blanhigion cynhenid. Glynn oedd y cyntaf i ddarganfod y planhigyn Otanthus maritimus neu Edafeddog y môr, a hynny ger Dinas Dinlle. Ato fo felly y trodd y botanegwr Johnson wrth gychwyn ar ei daith trwy Gymru fis Awst 1639 pan yn chwilio am rai o blanhigion prin yr ardal. Anfonodd Glynn un o'i weision i'w dywys o Rhuddlan i Fodysgallen ger Llandudno, lle 'roedd Glynn ei hun yn disgwyl amdano. Arhosodd Johnson ym Mhlas Glynllifon am rai dyddiau, ac aeth Thomas Glynn gydag ef ar ei deithiau i chwilio am blanhigion lleol Eryri.[6]


Cyfeiriadau

  1. Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.28
  2. Gwefan The History of Parliament, [1]
  3. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 58, 172-3
  4. Cyfeiriad ato yn Journal of Botany, British and Foreign (1871)
  5. Alicia Amherst, A History of Gardening in England (1896)
  6. Dewi Jones, The Botanists and Guides of Snowdonia (Llanrwst, 1996), tt.16-20