Llanwnda (pentref): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Eginyn newydd
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 14 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''pentref Llanwnda''', yn wahanol i'r pentrefi eraill yn y cwmwd sy'n defnyddio enw'r plwyf, tua milltir i ffwrdd o eglwys y plwyf. Mae honno yn sefyll mewn cymuned a elwir heddiw yn [[Dinas]].
[[Delwedd:20180514 144901.jpg|bawd|300px|de|Pentref Llanwnda]]
 
Mae '''pentref Llanwnda''', yn wahanol i'r pentrefi eraill yn y cwmwd sy'n rhannu eu henw gyda'r plwyf, tua milltir i ffwrdd o eglwys y plwyf o'r un enw. Mae'r eglwys honno yn sefyll mewn cymuned arall yn y plwyf a elwir heddiw yn [[Dinas]]. Gweler yr erthygl ar y plwyf, sef [[Llanwnda]] am fanylion eraill.
 
Hen enw y dreflan oedd yno'n wreiddiol cyn i'r rheilfordd fawr gyrraedd oedd [[Tan-y-cefn]], enw sydd bellach ar un res o dai'n unig. Serch yr enw modern, dichon ei fod wedi cael ei fabwysiadu oherwydd dyna enw'r orsaf, a alwyd yn y lle cyntaf yn "[[Gorsaf reilffordd Pwllheli Road|Pwllheli Road]]". Ymddengys fodd bynnag mai'r enw gwreiddiol ar y casgliad bach o dai yn y lleoliad yma oedd "Graeanfryn".<ref>John Jones (Pwllheli), ''Cofiant John Jones, Brynrodyn'' (Caernarfon, 1903), t.57</ref>
 
Tyfodd gasgliad o dai ar ochr lôn Pwllheli gyferbyn â'r orsaf a enwyd yn [[Gorsaf reilffordd Llanwnda|'Llanwnda']] yn niwedd y 19g, ac 'roedd Swyddfa Bost a iard lo yn agored tan ychydig flynyddoedd yn ôl. Bu tafarn boblogaidd iawn yno hefyd, sef [[Tafarn y Goat (Llanwnda)|''Y Goat'']] tan yn bur ddiweddar. Tua 200 lath ar ochr Caernarfon i'r pentref roedd [[Ysgoldy Graeanfryn (MC)]] a godwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd ym 1872<ref>W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t.346</ref>. Chwalwyd yr adeilad wrth ledu'r ffordd ac mae plac sy'n dynodi'r lle wedi ei osod ar y wal wrth y gylchfan.
 
Prif res o dai pentref Llanwnda yw Rhes Gwelfor. Cyn i'r rheiny gael eu codi, safai hen fythynnod digon sâl ar y safle,ar gyfer tlodion anghenus a dderbyniai gymorth y plwyf; Stryd y Glem oedd enw'r ardal ar y rhes honno.<ref>W. Gilbert Williams. ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), t.152</ref>
 
Arferai fod dwy dafarn yn y pentref tan ddechrau'r 20g. Yn ogystal â'r Goat, roedd [[Tafarn y Railway]] yr ochr arall i bont y lein yn gwasanaethu'r ardal.
 
==Cyfarwyddiadur Llanwnda, 1889-90<ref>''Sutton's Directory of North Wales, 1889-90''</ref>==
 
Mae cyfarwyddiaduron masnach y 19g yn rhoi llawer o ffeirthiau am fasnach yn ein pentrefi a threfi, er i'r rhai cynnar dueddu i ganolbwyntio ar y trefi, gan beidio â rhestru ond y busnesau pwysicaf yn y wlad o'u cwmpas. Mae Cyfarwyddiadur Sutton am 1889-90, fodd bynnag, yn rhoi manylion fesul pentref neu blwyf. Y masnachwyr a restrir yn y llyfr hwnnw ar gyfer pentref Llanwnda yw'r canlynol:
 
William Griffiths, gwerthwr glo a thafarnwr y ''Goat Hotel''
John Jones, tafarnwr y ''Railway Inn''
R Williams a'i fab, depo gwagenni rheilffordd
 
Hefyd fe restrir y canlynol yng ngwaelodion plwyf Llanwnda, er nad yw;r cyfarwyddiadur yn nodi ym mha le yr oedd y busnesau canlynol:
 
Ellis Davies, groser
Evan Evans, siopwr
Jane Jones, siopwr
ac mae'n bur sicr yr oedd o leiaf un o siopydd y rhai hyn yn Llanwnda gerllaw'r orsaf.
 
{{eginyn}}
 
==Cyfeiriadau==
 
{{cyfeiriadau}}
 
 


[[Categori: Pentrefi a threflannau]]
[[Categori: Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:54, 28 Awst 2024

Pentref Llanwnda

Mae pentref Llanwnda, yn wahanol i'r pentrefi eraill yn y cwmwd sy'n rhannu eu henw gyda'r plwyf, tua milltir i ffwrdd o eglwys y plwyf o'r un enw. Mae'r eglwys honno yn sefyll mewn cymuned arall yn y plwyf a elwir heddiw yn Dinas. Gweler yr erthygl ar y plwyf, sef Llanwnda am fanylion eraill.

Hen enw y dreflan oedd yno'n wreiddiol cyn i'r rheilfordd fawr gyrraedd oedd Tan-y-cefn, enw sydd bellach ar un res o dai'n unig. Serch yr enw modern, dichon ei fod wedi cael ei fabwysiadu oherwydd dyna enw'r orsaf, a alwyd yn y lle cyntaf yn "Pwllheli Road". Ymddengys fodd bynnag mai'r enw gwreiddiol ar y casgliad bach o dai yn y lleoliad yma oedd "Graeanfryn".[1]

Tyfodd gasgliad o dai ar ochr lôn Pwllheli gyferbyn â'r orsaf a enwyd yn 'Llanwnda' yn niwedd y 19g, ac 'roedd Swyddfa Bost a iard lo yn agored tan ychydig flynyddoedd yn ôl. Bu tafarn boblogaidd iawn yno hefyd, sef Y Goat tan yn bur ddiweddar. Tua 200 lath ar ochr Caernarfon i'r pentref roedd Ysgoldy Graeanfryn (MC) a godwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd ym 1872[2]. Chwalwyd yr adeilad wrth ledu'r ffordd ac mae plac sy'n dynodi'r lle wedi ei osod ar y wal wrth y gylchfan.

Prif res o dai pentref Llanwnda yw Rhes Gwelfor. Cyn i'r rheiny gael eu codi, safai hen fythynnod digon sâl ar y safle,ar gyfer tlodion anghenus a dderbyniai gymorth y plwyf; Stryd y Glem oedd enw'r ardal ar y rhes honno.[3]

Arferai fod dwy dafarn yn y pentref tan ddechrau'r 20g. Yn ogystal â'r Goat, roedd Tafarn y Railway yr ochr arall i bont y lein yn gwasanaethu'r ardal.

Cyfarwyddiadur Llanwnda, 1889-90[4]

Mae cyfarwyddiaduron masnach y 19g yn rhoi llawer o ffeirthiau am fasnach yn ein pentrefi a threfi, er i'r rhai cynnar dueddu i ganolbwyntio ar y trefi, gan beidio â rhestru ond y busnesau pwysicaf yn y wlad o'u cwmpas. Mae Cyfarwyddiadur Sutton am 1889-90, fodd bynnag, yn rhoi manylion fesul pentref neu blwyf. Y masnachwyr a restrir yn y llyfr hwnnw ar gyfer pentref Llanwnda yw'r canlynol:

William Griffiths, gwerthwr glo a thafarnwr y Goat Hotel
John Jones, tafarnwr y Railway Inn
R Williams a'i fab, depo gwagenni rheilffordd

Hefyd fe restrir y canlynol yng ngwaelodion plwyf Llanwnda, er nad yw;r cyfarwyddiadur yn nodi ym mha le yr oedd y busnesau canlynol:

Ellis Davies, groser
Evan Evans, siopwr
Jane Jones, siopwr

ac mae'n bur sicr yr oedd o leiaf un o siopydd y rhai hyn yn Llanwnda gerllaw'r orsaf.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. John Jones (Pwllheli), Cofiant John Jones, Brynrodyn (Caernarfon, 1903), t.57
  2. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t.346
  3. W. Gilbert Williams. Moel Tryfan i'r Traeth, (Pen-y-groes, 1983), t.152
  4. Sutton's Directory of North Wales, 1889-90