Cors y Llyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Cors y Llyn''' yn ardal o rostir a thir comin rhwng [[Nebo]] a [[Llyn Cwm Dulyn]]. Dichon fod y gords mor wlyb fel nad yw fawr o ddefnydd ar gyfer pori da byw.
Mae '''Cors y Llyn''' yn ardal o rostir a thir comin rhwng [[Nebo]] a [[Llyn Cwm Dulyn]], ac [[Afon Cwm Dulyn]] yn rhedeg trwyddi. Mae'r gors yn ymestyn o gyrion Nebo hyd at y llyn, Fron-dulyn a Hafod y llyn. Cyn newid ffiniau'r cymunedau, arferai hanner Cors y Llyn fod ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] a hanner yn [[Llanllyfni]]; erbyn hyn, mae'r cwbl yn gorwedd o fewn plwyf a chymuned Llanllyfni.


Ceir yno llawer o blanhigion diddorol a phrin y corsdiroedd, megis eurinllys y gors, llugaeron, helyg, peiswellt, tegeiriannau a chyfoeth o fwsoglau a llysiau'r iau gyda 12 rhywogaeth o figwyn. Mae'n cynnal nifer o rywogaethau o adar a thrychfilos sydd hefyd yn prinhau. Cofrestrwyd y gors fel Safle Arbennig o Ddiddordeb Gwyddonol.
Dichon fod y gors mor wlyb fel nad yw fawr o ddefnydd ar gyfer pori da byw. Ceir yno lawer o blanhigion diddorol a phrin y corstiroedd, megis eurinllys y gors, llugaeron, helyg, peiswellt, tegeirianau a chyfoeth o fwsoglau a llysiau'r iau gyda 12 rhywogaeth o figwyn. Mae'n cynnal nifer o rywogaethau o adar a thrychfilod sydd hefyd yn prinhau. Cofrestrwyd y gors fel Safle Arbennig o Ddiddordeb Gwyddonol.


Mae darn canolog y gors ym [[Parc Cenedlaethol Eryri|Mharc Cenedlaethol Eryri]], ond mae'r gweddill wedi ei gofrestru fel tir Cyngor Cymuned [[Llanllyfni]].<ref>Gwefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nebo-nasareth-cors-y-llyn.htm], cyrchwyd 2.9.2019</ref>
Mae darn canolog y gors ym [[Parc Cenedlaethol Eryri|Mharc Cenedlaethol Eryri]], ond mae'r gweddill wedi ei gofrestru fel tir comin Cyngor Cymuned [[Llanllyfni]].<ref>Gwefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nebo-nasareth-cors-y-llyn.htm], cyrchwyd 2.9.2019</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:16, 15 Mawrth 2022

Mae Cors y Llyn yn ardal o rostir a thir comin rhwng Nebo a Llyn Cwm Dulyn, ac Afon Cwm Dulyn yn rhedeg trwyddi. Mae'r gors yn ymestyn o gyrion Nebo hyd at y llyn, Fron-dulyn a Hafod y llyn. Cyn newid ffiniau'r cymunedau, arferai hanner Cors y Llyn fod ym mhlwyf Clynnog Fawr a hanner yn Llanllyfni; erbyn hyn, mae'r cwbl yn gorwedd o fewn plwyf a chymuned Llanllyfni.

Dichon fod y gors mor wlyb fel nad yw fawr o ddefnydd ar gyfer pori da byw. Ceir yno lawer o blanhigion diddorol a phrin y corstiroedd, megis eurinllys y gors, llugaeron, helyg, peiswellt, tegeirianau a chyfoeth o fwsoglau a llysiau'r iau gyda 12 rhywogaeth o figwyn. Mae'n cynnal nifer o rywogaethau o adar a thrychfilod sydd hefyd yn prinhau. Cofrestrwyd y gors fel Safle Arbennig o Ddiddordeb Gwyddonol.

Mae darn canolog y gors ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ond mae'r gweddill wedi ei gofrestru fel tir comin Cyngor Cymuned Llanllyfni.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Nantlle.com [1], cyrchwyd 2.9.2019