Tafarn y Railway: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Gwasanaethai '''Tafarn y Railway''' ardal [[Llanwnda]]. Un o ddwy dafarn ger [[Gorsaf reilffordd Llanwnda]] oedd y "Railway", y naill un ochr i bont y lein a'r llall yr ochr arall. Caewyd yn gynnar yn y 20g, rhwng 1900 a 1919, ac ar ôl gwasanaethu fel tŷ annedd, fe'i chwalwyd wrth chwalu pont y rheilffordd a chreu ffordd osgoi i Lanwnda, tua 1980.<ref>Mapiau Ordnans o 1888 hyd 1947; ac atgofion personol</ref>
Gwasanaethai '''Tafarn y Railway''' ardal [[Llanwnda]]. Un o ddwy dafarn ger [[Gorsaf reilffordd Llanwnda]] oedd y "Railway", y naill un ochr i bont y lein a'r llall yr ochr arall. Roedd hi wedi ei hagor erbyn 1841, pan y'i gelwir yn "Rail Road Tavern" yn nogfennau'r Cyfrifiad, pan oedd gwas fferm, William Thomas, yn ei chadw. Fe'i nodir fel "Rail Road" yng Nghyrifiad 1851, ond nid oes sicrwydd ei bod yn dal yn agored fel tŷ tafarn,. Erbyn 1881, fodd bynnag, mae'n ymddangos eto yn y Cyfrifiad, y tro hwn fel y "Railway Tavern". John Jones, tafarnwr 48 oed, oedd yn ei chadw. Roedd John Jones yn dal yno ym 1891, er iddo fod yn gweithio fel gof erbyn hynny yn ogysatl â chadw'r dafarn. Er bod map Ordnans 1900 yn dangos y lle, nid oes sôn amdani fel tafarn wedyn yn y Cyfrifiad.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1841-1911</ref>
 
Fe'i caewyd yn gynnar yn y 20g, rhwng 1900 a 1919 ac, ar ôl gwasanaethu fel tŷ annedd, fe'i dymchwelwyd yr un adeg ag y dymchwelwyd pont y rheilffordd a chreu ffordd osgoi i Lanwnda, tua 1980.<ref>Mapiau Ordnans o 1888 hyd 1947; ac atgofion personol</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:38, 16 Ionawr 2023

Gwasanaethai Tafarn y Railway ardal Llanwnda. Un o ddwy dafarn ger Gorsaf reilffordd Llanwnda oedd y "Railway", y naill un ochr i bont y lein a'r llall yr ochr arall. Roedd hi wedi ei hagor erbyn 1841, pan y'i gelwir yn "Rail Road Tavern" yn nogfennau'r Cyfrifiad, pan oedd gwas fferm, William Thomas, yn ei chadw. Fe'i nodir fel "Rail Road" yng Nghyrifiad 1851, ond nid oes sicrwydd ei bod yn dal yn agored fel tŷ tafarn,. Erbyn 1881, fodd bynnag, mae'n ymddangos eto yn y Cyfrifiad, y tro hwn fel y "Railway Tavern". John Jones, tafarnwr 48 oed, oedd yn ei chadw. Roedd John Jones yn dal yno ym 1891, er iddo fod yn gweithio fel gof erbyn hynny yn ogysatl â chadw'r dafarn. Er bod map Ordnans 1900 yn dangos y lle, nid oes sôn amdani fel tafarn wedyn yn y Cyfrifiad.[1]

Fe'i caewyd yn gynnar yn y 20g, rhwng 1900 a 1919 ac, ar ôl gwasanaethu fel tŷ annedd, fe'i dymchwelwyd yr un adeg ag y dymchwelwyd pont y rheilffordd a chreu ffordd osgoi i Lanwnda, tua 1980.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1841-1911
  2. Mapiau Ordnans o 1888 hyd 1947; ac atgofion personol