Band Deulyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'Band sblit', fel y dywedwn, oedd '''Seindorf Deulyn''' (gwyliwn rhag cymysgu â [[Seindorf Dulyn]], [[Nebo]]). Fe'i sefydlwyd ym 1905 o ganlyniad i ryw anghydfod pur ddifrifol yn hanes prif fand y dyffryn,[[Seindorf Dyffryn Nantlle]] yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]].
'Band sblit', fel y dywedwn, oedd '''Seindorf Deulyn''' (gwyliwn rhag cymysgu â [[Seindorf Dulyn]], [[Nebo]]). Fe'i sefydlwyd ym 1905 o ganlyniad i ryw anghydfod pur ddifrifol yn hanes prif fand y dyffryn, [[Seindorf Dyffryn Nantlle]] yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]].


Roedd y band newydd hwn yn llwyr dan reolaeth y gwŷr fu'n gyfrifol am ei ffurfio - teulu a adnabyddid fel 'Teulu'r Corn Mawr', teulu un o hoelion wyth Seindorf Dyffryn Nantlle, William Jones 'Corn Mawr'. Yn wir, dau arweinydd yn unig fu i'r band yn ystod ei oes fer, sef William Jones ei hun a'i fab, Richard Jones.
Roedd y band newydd hwn yn llwyr dan reolaeth y gwŷr a fu'n gyfrifol am ei ffurfio - teulu a adwaenid fel 'Teulu'r Corn Mawr', sef teulu un o hoelion wyth Seindorf Dyffryn Nantlle, William Jones 'Corn Mawr'. Yn wir, dau arweinydd yn unig fu i'r band yn ystod ei oes fer, sef William Jones ei hun a'i fab, Richard Jones.


Fe'i cawn yn cystadlu am y tro cyntaf yn Eisteddfod y Pasg 1907 yng Nghaernarfon dan fatwn arweinydd proffesiynol, John A. Greenwood o Loegr. Bu'n fuddugol, gan guro bandiau cydnabyddedig fel Llanrug, [[Band Moeltryfan|Moeltryfan]], Llanberis a Hen Golwyn. Yn ddilyniant teilwng i'w buddugoliaeth, prynasant lifrai crand, a set newydd o offerynnau, gan glirio'r draul cyn diwedd y flwyddyn. Dathlwyd dyfodiad y lifrai newydd mewn ffordd ryfeddol : ''"Ymadawsant i wersyllu i dueddau Blackpool".''
Fe'i cawn yn cystadlu am y tro cyntaf yn Eisteddfod y Pasg 1907 yng Nghaernarfon dan fatwn arweinydd proffesiynol, John A. Greenwood o Loegr. Bu'n fuddugol, gan guro bandiau cydnabyddedig fel Llanrug, [[Band Moeltryfan|Moeltryfan]], Llanberis a Hen Golwyn. Yn ddilyniant teilwng i'w buddugoliaeth, prynasant lifrai crand, a set newydd o offerynnau, gan glirio'r draul cyn diwedd y flwyddyn. Dathlwyd dyfodiad y lifrai newydd mewn ffordd ryfeddol : ''"Ymadawsant i wersyllu i dueddau Blackpool".''


Cawsant rai buddugoliaethau nodedig e.e. Eisteddfod Gwynedd dan arweiniad proffesiynol J.E.Fiddler o Lerpwl ar y darn ''Old Memories'' ; Eisteddfod Pwllheli 1913 dan arweiniad Angus Holden ar y darn ''Forest Queen'' ; ac yna ar yr ymdeithgan dan arweiniad Richard Jones ei hun ym Mhorthmadog. Rhaid cofio mai yn y dosbarth isaf y byddid yn cystadlu, ac ni ddaeth Seindorf Deulyn druan yn agos at wireddu'r breuddwyd o ddisodli Seindorf Dyffryn Nantlle fel prif fand y dyffryn.
Cawsant rai buddugoliaethau nodedig, e.e. Eisteddfod Gwynedd dan arweiniad proffesiynol J.E.Fiddler o Lerpwl ar y darn ''Old Memories'' ; Eisteddfod Pwllheli 1913 dan arweiniad Angus Holden ar y darn ''Forest Queen''; ac yna ar yr ymdeithgan dan arweiniad Richard Jones ei hun ym Mhorthmadog. Rhaid cofio mai yn y dosbarth isaf y byddid yn cystadlu, ac ni ddaeth Seindorf Deulyn druan yn agos at wireddu'r breuddwyd o ddisodli Seindorf Dyffryn Nantlle fel prif fand y dyffryn.


Chwalwyd y band ddechrau'r Rhyfel Mawr ym 1914. Pan ddaeth heddwch, ni wnaed unrhyw ymdrech i'w ailgodi.  
Chwalwyd y band ddechrau'r Rhyfel Mawr ym 1914. Pan ddaeth heddwch, ni wnaed unrhyw ymdrech i'w ail-godi, a bu rhai yn yr ardal yn pryderu am dynged yr offerynnau. Ym 1919, ymddangosodd y llythyr canlynol yn y wasg:


Ym 1920 gwerthwyd y cyrn i [[Seindorf Trefor]] am bris rhesymol.<ref>Geraint Jones, ''Cyrn y Diafol'' ( 2004) t.44</ref>
AT BWYLLGOR Y DEULYN BAND, NANTLLE.  ( Drwy Olygydd y "Dinesydd"). Syr,—Y cwestiwn ofynir ydyw a yw yr offerynau yn ddiogel wrth law pan ddaw yr alwad am danynt, neu a ydynt wedi myned ar wasgar? Os mai wedi gwasgaru y maent pwy sy'n gyfrifol am hynny prun ai y pwyllgor ynte rhywun arall? Gwyr pawb fod yr ardal wedi bod yn ddygn ac ar ei goreu i gael yr offerynau i'r Nantlle Deulyn; ond ymha le y maent yn awr, a pha olwg sydd arnynt, tvbed? Oni fyddai yn well i'r pwyllgor fyned i edrych i mewn i'r mater, y maent wedi costio gormod o arian i'w gadael yn llonydd ac i fagu rhwd arnynt.-Yr eidd och,  DEULYN.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 2.7.1919, t.2</ref>
 
Mae'n amlwg i'r offerynnau ddod i'r fei oherwydd ym 1920 gwerthwyd y cyrn i [[Seindorf Trefor]] am bris rhesymol.<ref>Geraint Jones, ''Cyrn y Diafol'' ( 2004) t.44</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:17, 24 Tachwedd 2022

'Band sblit', fel y dywedwn, oedd Seindorf Deulyn (gwyliwn rhag cymysgu â Seindorf Dulyn, Nebo). Fe'i sefydlwyd ym 1905 o ganlyniad i ryw anghydfod pur ddifrifol yn hanes prif fand y dyffryn, Seindorf Dyffryn Nantlle yn Nhal-y-sarn.

Roedd y band newydd hwn yn llwyr dan reolaeth y gwŷr a fu'n gyfrifol am ei ffurfio - teulu a adwaenid fel 'Teulu'r Corn Mawr', sef teulu un o hoelion wyth Seindorf Dyffryn Nantlle, William Jones 'Corn Mawr'. Yn wir, dau arweinydd yn unig fu i'r band yn ystod ei oes fer, sef William Jones ei hun a'i fab, Richard Jones.

Fe'i cawn yn cystadlu am y tro cyntaf yn Eisteddfod y Pasg 1907 yng Nghaernarfon dan fatwn arweinydd proffesiynol, John A. Greenwood o Loegr. Bu'n fuddugol, gan guro bandiau cydnabyddedig fel Llanrug, Moeltryfan, Llanberis a Hen Golwyn. Yn ddilyniant teilwng i'w buddugoliaeth, prynasant lifrai crand, a set newydd o offerynnau, gan glirio'r draul cyn diwedd y flwyddyn. Dathlwyd dyfodiad y lifrai newydd mewn ffordd ryfeddol : "Ymadawsant i wersyllu i dueddau Blackpool".

Cawsant rai buddugoliaethau nodedig, e.e. Eisteddfod Gwynedd dan arweiniad proffesiynol J.E.Fiddler o Lerpwl ar y darn Old Memories ; Eisteddfod Pwllheli 1913 dan arweiniad Angus Holden ar y darn Forest Queen; ac yna ar yr ymdeithgan dan arweiniad Richard Jones ei hun ym Mhorthmadog. Rhaid cofio mai yn y dosbarth isaf y byddid yn cystadlu, ac ni ddaeth Seindorf Deulyn druan yn agos at wireddu'r breuddwyd o ddisodli Seindorf Dyffryn Nantlle fel prif fand y dyffryn.

Chwalwyd y band ddechrau'r Rhyfel Mawr ym 1914. Pan ddaeth heddwch, ni wnaed unrhyw ymdrech i'w ail-godi, a bu rhai yn yr ardal yn pryderu am dynged yr offerynnau. Ym 1919, ymddangosodd y llythyr canlynol yn y wasg:

AT BWYLLGOR Y DEULYN BAND, NANTLLE.  ( Drwy Olygydd y "Dinesydd"). Syr,—Y cwestiwn ofynir ydyw a yw yr offerynau yn ddiogel wrth law pan ddaw yr alwad am danynt, neu a ydynt wedi myned ar wasgar? Os mai wedi gwasgaru y maent pwy sy'n gyfrifol am hynny prun ai y pwyllgor ynte rhywun arall? Gwyr pawb fod yr ardal wedi bod yn ddygn ac ar ei goreu i gael yr offerynau i'r Nantlle Deulyn; ond ymha le y maent yn awr, a pha olwg sydd arnynt, tvbed? Oni fyddai yn well i'r pwyllgor fyned i edrych i mewn i'r mater, y maent wedi costio gormod o arian i'w gadael yn llonydd ac i fagu rhwd arnynt.-Yr eidd och,  DEULYN.[1] 

Mae'n amlwg i'r offerynnau ddod i'r fei oherwydd ym 1920 gwerthwyd y cyrn i Seindorf Trefor am bris rhesymol.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Dinesydd Cymreig, 2.7.1919, t.2
  2. Geraint Jones, Cyrn y Diafol ( 2004) t.44