Plas Dolydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Plas Dolydd''' yw'r adeilad mwyaf ym mhentrefan y [[Dolydd]], ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Mae'n hen adeilad, ac mae carreg lechen amrwd yn wal hen feudy ar ochr y lôn ar fuarth Plas Dolydd yn cofnodi iddo gael ei godi ym 1785. Cyn yr adeg honno, roedd yn dafarn hefyd, ac mae yna le i gredu fod yno danerdy yn ogystal. | '''Plas Dolydd''' yw'r adeilad mwyaf ym mhentrefan y [[Dolydd]], ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Mae'n hen adeilad, ac mae carreg lechen amrwd yn wal hen feudy ar ochr y lôn ar fuarth Plas Dolydd yn cofnodi iddo gael ei godi ym 1785. Cyn yr adeg honno, roedd yn dafarn hefyd, ac mae yna le i gredu fod yno danerdy yn ogystal. Mae Cofrestr Plwyf Llandwrog am 1800 yn nodi claddu "Mr John Jones, Tanner of Dolydd byrion'' a dichon mai ym Mhlas Dolydd oedd y gwaith trin lledr hefyd. Sylwer ar y teitl Mr - pawb arall yn y gofrestr wedi ei nodi wrth eu henwau'n unig heb "handlen"!<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1800</ref> | ||
Yn ôl yr hanes yn llyfr [[William Hobley]], tua 1770 fe arferid cynnal cyfarfodydd misol ac ati yn | Yn ôl yr hanes yn llyfr [[William Hobley]], tua 1770 fe arferid cynnal cyfarfodydd misol ac ati yn nhafarn Plas Dolydd, fel y man lleol addas gyda lle a lluniaeth ar gael. Roedd hynny cyn i'r achos gael ei sefydlu'n ffurfiol, ond ar un achlysur neilltuol fe gafwyd gwrthwynebiad dan esgus amddiffyn yr Eglwys Sefydledig, gyda thorf wrthwynebus yn taro drymiau ac ati. Aeth y rhai a oedd yn y cyfarfod oddi yno a cheisio cynnal cyfarfod yn [[Rhostryfan]], ond er clywed y drymiau'n agosáu at y fan honno aeth y cyfarfod ymlaen. Honnwyd fod y prif ddrymiwr wedi ei daro gan y cryndod, fel nad oedd modd iddo barhau.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150</ref> | ||
Ym 1776, roedd dyn o'r enw Samuel Williams, "Dolydd Byrion", yn un o dri a oedd yn cael eu trwyddedu i werthu diod ym mhlwyf Llandwrog, a dichon felly mai ym Mhlas Dolydd y gwnaed hynny.<ref>W.Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), t.33</ref> | |||
Yn ystod ail hanner y 19g, bu [[Evan Jones, Plas Dolydd|Evan Jones]], contractor adeiladu sylweddol yn byw yno, a dyna'r lle cychwynnodd ei fusnes. | Erbyn 1840, dim ond ychydig dros 5 acer, sef pum darn bach o dir, oedd gyda Plas Dolydd. Dim ond un o'r caeau hynny oedd dros acer o ran maint, sy'n awgrymu nad oedd y lle yn fferm erbyn hynny. Roedd yn rhan o ystad [[Tryfan Mawr]], yn eiddo i Owen Griffith.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map degwm Llandwrog.</ref> | ||
Yn ystod ail hanner y 19g, bu [[Evan Jones, Plas Dolydd|Evan Jones]], contractor adeiladu sylweddol, yn byw yno, a dyna'r lle cychwynnodd ei fusnes. | |||
Erbyn heddiw, ffermdy'n unig yw Plas Dolydd. | Erbyn heddiw, ffermdy'n unig yw Plas Dolydd. | ||
Y tu ôl i'r prif adeilad mae hen fwthyn a godwyd, fe | Y tu ôl i'r prif adeilad mae hen fwthyn a godwyd, fe gredir, yn y 18g, ac a addaswyd i'w ddefnyddio fel annedd i'r gweision fferm - tybed ai tua'r amser y codwyd y beudai o'r newydd ym 1785 y gwnaed hynny? Mae tyllau nythu ar gyfer colomennod yn nhalcen yr adeilad, a grisiau ar y tu allan. Mae wedi ei gofrestru'n Radd II.<ref>Gwefan 'British Listed Buildings', [https://britishlistedbuildings.co.uk/300022432-disused-cottage-at-plas-dolydd-llandwrog], cyrchwyd 7.7,2019</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]] | [[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]] | ||
[[Categori:Tafarndai]] | [[Categori:Tafarndai]] | ||
[[Categori:Tai nodedig]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:27, 28 Ionawr 2023
Plas Dolydd yw'r adeilad mwyaf ym mhentrefan y Dolydd, ym mhlwyf Llandwrog. Mae'n hen adeilad, ac mae carreg lechen amrwd yn wal hen feudy ar ochr y lôn ar fuarth Plas Dolydd yn cofnodi iddo gael ei godi ym 1785. Cyn yr adeg honno, roedd yn dafarn hefyd, ac mae yna le i gredu fod yno danerdy yn ogystal. Mae Cofrestr Plwyf Llandwrog am 1800 yn nodi claddu "Mr John Jones, Tanner of Dolydd byrion a dichon mai ym Mhlas Dolydd oedd y gwaith trin lledr hefyd. Sylwer ar y teitl Mr - pawb arall yn y gofrestr wedi ei nodi wrth eu henwau'n unig heb "handlen"![1]
Yn ôl yr hanes yn llyfr William Hobley, tua 1770 fe arferid cynnal cyfarfodydd misol ac ati yn nhafarn Plas Dolydd, fel y man lleol addas gyda lle a lluniaeth ar gael. Roedd hynny cyn i'r achos gael ei sefydlu'n ffurfiol, ond ar un achlysur neilltuol fe gafwyd gwrthwynebiad dan esgus amddiffyn yr Eglwys Sefydledig, gyda thorf wrthwynebus yn taro drymiau ac ati. Aeth y rhai a oedd yn y cyfarfod oddi yno a cheisio cynnal cyfarfod yn Rhostryfan, ond er clywed y drymiau'n agosáu at y fan honno aeth y cyfarfod ymlaen. Honnwyd fod y prif ddrymiwr wedi ei daro gan y cryndod, fel nad oedd modd iddo barhau.[2]
Ym 1776, roedd dyn o'r enw Samuel Williams, "Dolydd Byrion", yn un o dri a oedd yn cael eu trwyddedu i werthu diod ym mhlwyf Llandwrog, a dichon felly mai ym Mhlas Dolydd y gwnaed hynny.[3]
Erbyn 1840, dim ond ychydig dros 5 acer, sef pum darn bach o dir, oedd gyda Plas Dolydd. Dim ond un o'r caeau hynny oedd dros acer o ran maint, sy'n awgrymu nad oedd y lle yn fferm erbyn hynny. Roedd yn rhan o ystad Tryfan Mawr, yn eiddo i Owen Griffith.[4]
Yn ystod ail hanner y 19g, bu Evan Jones, contractor adeiladu sylweddol, yn byw yno, a dyna'r lle cychwynnodd ei fusnes.
Erbyn heddiw, ffermdy'n unig yw Plas Dolydd.
Y tu ôl i'r prif adeilad mae hen fwthyn a godwyd, fe gredir, yn y 18g, ac a addaswyd i'w ddefnyddio fel annedd i'r gweision fferm - tybed ai tua'r amser y codwyd y beudai o'r newydd ym 1785 y gwnaed hynny? Mae tyllau nythu ar gyfer colomennod yn nhalcen yr adeilad, a grisiau ar y tu allan. Mae wedi ei gofrestru'n Radd II.[5]
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1800
- ↑ W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150
- ↑ W.Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Pen-y-groes, 1983), t.33
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map degwm Llandwrog.
- ↑ Gwefan 'British Listed Buildings', [1], cyrchwyd 7.7,2019