Angharad Tomos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Angharad_Tomos.JPG|bawd|de|400px]] | |||
Mae | Mae '''Angharad Tomos''' (ganed 1958) yn ymgyrchydd iaith, nofelydd, awdures plant a darlunydd llyfrau. Mae'n hanu o waelodion plwyf [[Llanwnda]] er ei bod yn byw ym mhentref [[Pen-y-groes]] bellach, lle mae'n weithgar iawn gyda phrosiectau cymunedol. Hi a'i gŵr fu'n bennaf cyfrifol am achub [[Siop Griffiths]] yn y pentref a'i throi'n ganolfan ar gyfer amryw o weithgareddau ac yn gaffi cymunedol, "Yr Orsaf". | ||
Fe'i ganed ym Bangor|Mangor, a chafodd ei magu yn un o bum chwaer yn Llanwnda. Mynychodd Ysgol Gynradd Bontnewydd ac [[Ysgol Dyffryn Nantlle]]. Cychwynnodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ond bu iddi adael er mwyn gweithio i Gymdeithas yr Iaith. Cafodd radd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn ddiweddarach.<ref>Mae rhan sylweddol o'r erthygl hon wedi ei chymryd o dudalen Angharad Tomos ar Wicipedia [https://cy.wikipedia.org/wiki/Angharad_Tomos], cyrchwyd 7.6.2019</ref> | |||
Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith. Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd â'i chyfrol ''Hen Fyd Hurt'' ym 1982. | |||
Mae hi'n ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres ''Rwdlan'', a leolir yng Ngwlad y Rwla. ''Rala Rwdins'' oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, cyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1983. | |||
Ym 1985 derbyniodd wobr Yr Academi Gymreig am ei nofel ''Yma o Hyd'' sy'n ymdrin â bywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohono fel ymgyrchydd iaith. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1991 ac ym 1997, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith yn ogystal, ym 1986 ac 1994. | |||
Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad i lenyddiaeth plant yng Nghymru.<ref>Dyfyniad o'r we [url=http://www.cllc.org.uk/newyddion-news/news-detail?diablo.lang=cym&id=12136| dyddiad=24 Tachwedd 2009| cyhoeddwr=Cyngor Llyfrau Cymru| teitl=Anrhydeddu Awdur Llyfrau Plant - Tlws Mary Vaughan Jones 2009]</ref> | |||
Mae'n briod â Ben Gregory ac yn byw ym Mhen-y-groes. | |||
==Ymgyrchu== | |||
Mae Angharad Tomos yn ymgyrchydd sydd wedi cefnogi sawl achos. Yn ogystal ag ymgyrchoedd dros y Gymraeg mae wedi gweithredu dros heddwch a gwrthwynebu rhyfel<ref>http://archif.rhwyd.org/ycymro/newyddion/c/x44/i/3734/desc/cofio-hedd-nid-cledd--pererindod-heddwch-gogledd-cymru/</ref> ac yn erbyn codi cerflun Henry Morton Stanley yn Ninbych<ref>http://www.telegraph.co.uk/comment/letters/7963923/If-it-was-right-to-drop-the-bomb-on-Hiroshima-it-cant-be-immoral-to-have-Trident.html</ref>. | |||
==Llyfryddiaeth== | |||
* ''Bodlon - Byw'n Hapus ar Lai'' (Gwasg Gwynedd, 2011) | |||
* ''Sothach a Sglyfath'' (Y Lolfa, 1993) | |||
* ''Cnonyn Aflonydd'' (Gwasg Gwynedd, 2001) | |||
* ''Hen Fyd Hurt'' (Y Lolfa, 1992) | |||
* ''Hiraeth am Yfory'' (Gwasg Gomer, 2002) | |||
* ''Dysgu'r Wyddor gyda Rwdlan'' (Y Lolfa, 2005) | |||
* ''Llyfr Lliwio Gwlad y Rwla'' (Y Lolfa, 2011) | |||
* '''Dydw i Ddim Eisiau' - Stori Jona'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''Un Bach Ydwyf'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''Ar y Brig - Stori Saceus'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''I Mewn i'r Arch â Nhw'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''Paid Siglo'r Cwch'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''Rhywun i'w Garu'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''Y Wal Na Ddaeth i Lawr'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''Yn Ffau'r Llewod'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''I Mewn i'r Arch â Nhw'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001) | |||
* ''Nadolig heb Goeden'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001) | |||
* ''Nadolig heb Goeden'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999) | |||
* ''Eira'r Gaeaf'' (Y Lolfa, 2010) | |||
* ''Gwanwyn Gwlad y Rwla'' (Y Lolfa, 2010) | |||
* ''Haf Braf'' (Y Lolfa, 2010) | |||
* ''Halibalŵ Yr Hydref'' (Y Lolfa, 2010) | |||
* ''Parti Cwmwl'' (Y Lolfa, 1998) | |||
* ''Pecyn Cyfres Darllen Mewn Dim'' (Y Lolfa, 2007) | |||
* ''Rhagom'' (Gwasg Carreg Gwalch, 2004) | |||
* ''Si Hei Lwli'' (Y Lolfa, 2005) | |||
* ''Stwnsh Rwdlan'' (Y Lolfa, 1997) | |||
* ''Titrwm'' (Y Lolfa, 1994) | |||
* ''Wele'n Gwawrio'' (Y Lolfa, 2004) | |||
* ''Wrth fy Nagrau i]' (Gwasg Carreg Gwalch, 2007) | |||
* ''Yma o Hyd'' (Y Lolfa, 1985) | |||
* ''Y Llipryn Llwyd'' (Y Lolfa, 1985) | |||
==Gwobrau ac anrhydeddau== | |||
* 1982 - Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd am ''Hen Fyd Hurt'' | |||
* 1986 - Gwobr Tir na n-Og am ''Y Llipryn Llwyd'' (Cyfres Rwdlan) | |||
* 1991 - Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Yr Wyddgrug 1991 am ''Si Hei Lwli'' | |||
* 1997 - Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997 am ''Wele'n Gwawrio'' | |||
* 1994 - Gwobr Tir na n-Og am ''Sothach a Sglyfath'' (Cyfres Cled) | |||
* 2009 - Gwobr Mary Vaughan Jones | |||
Mae hefyd yn cyfrannu'n gyson i dudalennau Herald Cymraeg y ''Daily Post'', bob yn ail dydd Mercher. Mae hefyd yn cyfrannu nodiadau i'r plant ym mhapur deufisol y Wesleaid, ''Y Gwyliedydd Newydd''. Am chwarter canrif bu'n ysgrifennydd [[Capel Salem (W), Tŷ'nlôn]] nes i hwnnw gau. | |||
Mae'n wyres i'r darlithydd, y Sosialydd a'r awdur [[David Thomas]]. | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:56, 12 Ebrill 2022
Mae Angharad Tomos (ganed 1958) yn ymgyrchydd iaith, nofelydd, awdures plant a darlunydd llyfrau. Mae'n hanu o waelodion plwyf Llanwnda er ei bod yn byw ym mhentref Pen-y-groes bellach, lle mae'n weithgar iawn gyda phrosiectau cymunedol. Hi a'i gŵr fu'n bennaf cyfrifol am achub Siop Griffiths yn y pentref a'i throi'n ganolfan ar gyfer amryw o weithgareddau ac yn gaffi cymunedol, "Yr Orsaf".
Fe'i ganed ym Bangor|Mangor, a chafodd ei magu yn un o bum chwaer yn Llanwnda. Mynychodd Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Cychwynnodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ond bu iddi adael er mwyn gweithio i Gymdeithas yr Iaith. Cafodd radd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn ddiweddarach.[1]
Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith. Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd â'i chyfrol Hen Fyd Hurt ym 1982.
Mae hi'n ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a leolir yng Ngwlad y Rwla. Rala Rwdins oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, cyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1983.
Ym 1985 derbyniodd wobr Yr Academi Gymreig am ei nofel Yma o Hyd sy'n ymdrin â bywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohono fel ymgyrchydd iaith. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1991 ac ym 1997, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith yn ogystal, ym 1986 ac 1994.
Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad i lenyddiaeth plant yng Nghymru.[2]
Mae'n briod â Ben Gregory ac yn byw ym Mhen-y-groes.
Ymgyrchu
Mae Angharad Tomos yn ymgyrchydd sydd wedi cefnogi sawl achos. Yn ogystal ag ymgyrchoedd dros y Gymraeg mae wedi gweithredu dros heddwch a gwrthwynebu rhyfel[3] ac yn erbyn codi cerflun Henry Morton Stanley yn Ninbych[4].
Llyfryddiaeth
- Bodlon - Byw'n Hapus ar Lai (Gwasg Gwynedd, 2011)
- Sothach a Sglyfath (Y Lolfa, 1993)
- Cnonyn Aflonydd (Gwasg Gwynedd, 2001)
- Hen Fyd Hurt (Y Lolfa, 1992)
- Hiraeth am Yfory (Gwasg Gomer, 2002)
- Dysgu'r Wyddor gyda Rwdlan (Y Lolfa, 2005)
- Llyfr Lliwio Gwlad y Rwla (Y Lolfa, 2011)
- 'Dydw i Ddim Eisiau' - Stori Jona (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Un Bach Ydwyf (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Ar y Brig - Stori Saceus (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- I Mewn i'r Arch â Nhw (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Paid Siglo'r Cwch (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Rhywun i'w Garu (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Y Wal Na Ddaeth i Lawr (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Yn Ffau'r Llewod (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- I Mewn i'r Arch â Nhw (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001)
- Nadolig heb Goeden (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001)
- Nadolig heb Goeden (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Eira'r Gaeaf (Y Lolfa, 2010)
- Gwanwyn Gwlad y Rwla (Y Lolfa, 2010)
- Haf Braf (Y Lolfa, 2010)
- Halibalŵ Yr Hydref (Y Lolfa, 2010)
- Parti Cwmwl (Y Lolfa, 1998)
- Pecyn Cyfres Darllen Mewn Dim (Y Lolfa, 2007)
- Rhagom (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
- Si Hei Lwli (Y Lolfa, 2005)
- Stwnsh Rwdlan (Y Lolfa, 1997)
- Titrwm (Y Lolfa, 1994)
- Wele'n Gwawrio (Y Lolfa, 2004)
- Wrth fy Nagrau i]' (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
- Yma o Hyd (Y Lolfa, 1985)
- Y Llipryn Llwyd (Y Lolfa, 1985)
Gwobrau ac anrhydeddau
- 1982 - Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd am Hen Fyd Hurt
- 1986 - Gwobr Tir na n-Og am Y Llipryn Llwyd (Cyfres Rwdlan)
- 1991 - Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Yr Wyddgrug 1991 am Si Hei Lwli
- 1997 - Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997 am Wele'n Gwawrio
- 1994 - Gwobr Tir na n-Og am Sothach a Sglyfath (Cyfres Cled)
- 2009 - Gwobr Mary Vaughan Jones
Mae hefyd yn cyfrannu'n gyson i dudalennau Herald Cymraeg y Daily Post, bob yn ail dydd Mercher. Mae hefyd yn cyfrannu nodiadau i'r plant ym mhapur deufisol y Wesleaid, Y Gwyliedydd Newydd. Am chwarter canrif bu'n ysgrifennydd Capel Salem (W), Tŷ'nlôn nes i hwnnw gau.
Mae'n wyres i'r darlithydd, y Sosialydd a'r awdur David Thomas.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Mae rhan sylweddol o'r erthygl hon wedi ei chymryd o dudalen Angharad Tomos ar Wicipedia [1], cyrchwyd 7.6.2019
- ↑ Dyfyniad o'r we [url=http://www.cllc.org.uk/newyddion-news/news-detail?diablo.lang=cym&id=12136%7C dyddiad=24 Tachwedd 2009| cyhoeddwr=Cyngor Llyfrau Cymru| teitl=Anrhydeddu Awdur Llyfrau Plant - Tlws Mary Vaughan Jones 2009]
- ↑ http://archif.rhwyd.org/ycymro/newyddion/c/x44/i/3734/desc/cofio-hedd-nid-cledd--pererindod-heddwch-gogledd-cymru/
- ↑ http://www.telegraph.co.uk/comment/letters/7963923/If-it-was-right-to-drop-the-bomb-on-Hiroshima-it-cant-be-immoral-to-have-Trident.html