Tŷ Haearn Smwddio, Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif Tŷ Haearn Smwddio (er nad dyna'i enw chwaith) yng nghanol stryd o ugain o dai ym mhentref Trefor. Enw'r stryd yw ''Lime Street'', ond yr enw gwreidd...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Saif Tŷ Haearn Smwddio (er nad dyna'i enw chwaith) yng nghanol stryd o ugain o dai ym mhentref Trefor. Enw'r stryd yw ''Lime Street'', ond yr enw gwreiddiol arni oedd ''Y Berllan''. Daeth y stryd yn adnabyddus fel ''Minafon'' y gyfres deledu boblogaidd ar S4C ym mlynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif.
Saif '''Tŷ Haearn Smwddio''' (er nad dyna'i enw chwaith) yng nghanol stryd o ugain o dai ym mhentref [[Trefor]]. Enw'r stryd yw ''Lime Street'', ond yr enw gwreiddiol arni oedd ''Y Berllan''. Daeth y stryd yn adnabyddus fel ''Minafon'' y gyfres deledu boblogaidd ar S4C ym mlynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif.

Nid oes a wnelo'r tŷ hwn, Rhif 10 Lime Street, unrhyw beth â smwddio na haearn smwddio. Fe'i gelwir ar lafar yn Dŷ Haearn Smwddio oherwydd ei siâp.

Llinell 5: Llinell 5:
Adeiladwyd y stryd mewn dwy ran oedd yn dilyn ffiniau tir Y Berllan - naw tŷ am y gogledd a deg tŷ am y de. Nid oedd y ddwy 'stryd' gyda'i gilydd yn ffurfio llinell syth, ac felly cafwyd bwlch yn y canol oedd â'i ffrynt yn llai na'i gefn ac felly'n ffurfio siâp haearn smwddio hen ffasiwn (o fath).  

Penderfynwyd codi tŷ yn y bwlch yma a chafwyd, wrth gwrs, ei fod yn llai na gweddill tai y stryd, ac yn siâp gwahanol. Mae ei gefn (gorllewin) mwy neu lai fel cefnau'r tai eraill. Dyma ran ôl yr 'haearn smwddio'. Ond pur wahanol yw ei ffrynt (dwyrain). Mae'n llawer culach na ffryntiau'r tai eraill. Mae'r tŷ felly â siâp haearn smwddio iddo. Nodir y gwahaniaeth yn amlwg gan y ffaith nad oes drws ffrynt a chyntedd (lobi) i'r tŷ, ond bod y drws yn agor yn syth i mewn i'r parlwr bach ffrynt !
Penderfynwyd codi tŷ yn y bwlch yma a chafwyd, wrth gwrs, ei fod yn llai na gweddill tai y stryd, ac yn siâp gwahanol. Mae ei gefn (gorllewin) mwy neu lai fel cefnau'r tai eraill. Dyma ran ôl yr 'haearn smwddio'. Ond pur wahanol yw ei ffrynt (dwyrain). Mae'n llawer culach na ffryntiau'r tai eraill. Mae'r tŷ felly â siâp haearn smwddio iddo. Nodir y gwahaniaeth yn amlwg gan y ffaith nad oes drws ffrynt a chyntedd (lobi) i'r tŷ, ond bod y drws yn agor yn syth i mewn i'r parlwr bach ffrynt ! Ffenestr y parlwr hwn yw ffenestr y drws ei hun.
 
{{eginyn}}
{{eginyn}}
[[Categori:Adeiladau]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 08:26, 3 Gorffennaf 2019

Saif Tŷ Haearn Smwddio (er nad dyna'i enw chwaith) yng nghanol stryd o ugain o dai ym mhentref Trefor. Enw'r stryd yw Lime Street, ond yr enw gwreiddiol arni oedd Y Berllan. Daeth y stryd yn adnabyddus fel Minafon y gyfres deledu boblogaidd ar S4C ym mlynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif.

Nid oes a wnelo'r tŷ hwn, Rhif 10 Lime Street, unrhyw beth â smwddio na haearn smwddio. Fe'i gelwir ar lafar yn Dŷ Haearn Smwddio oherwydd ei siâp.

Adeiladwyd y stryd mewn dwy ran oedd yn dilyn ffiniau tir Y Berllan - naw tŷ am y gogledd a deg tŷ am y de. Nid oedd y ddwy 'stryd' gyda'i gilydd yn ffurfio llinell syth, ac felly cafwyd bwlch yn y canol oedd â'i ffrynt yn llai na'i gefn ac felly'n ffurfio siâp haearn smwddio hen ffasiwn (o fath).

Penderfynwyd codi tŷ yn y bwlch yma a chafwyd, wrth gwrs, ei fod yn llai na gweddill tai y stryd, ac yn siâp gwahanol. Mae ei gefn (gorllewin) mwy neu lai fel cefnau'r tai eraill. Dyma ran ôl yr 'haearn smwddio'. Ond pur wahanol yw ei ffrynt (dwyrain). Mae'n llawer culach na ffryntiau'r tai eraill. Mae'r tŷ felly â siâp haearn smwddio iddo. Nodir y gwahaniaeth yn amlwg gan y ffaith nad oes drws ffrynt a chyntedd (lobi) i'r tŷ, ond bod y drws yn agor yn syth i mewn i'r parlwr bach ffrynt ! Ffenestr y parlwr hwn yw ffenestr y drws ei hun.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma