John Hughes Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Fel Johnny Miss yr adnabyddid John Hughes Evans, bandfeistr Seindorf Dyffryn Nantlle, oedd hefyd yn un o brif gornedwyr y seindorf. Roedd yn chwaraewr pen...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Fel Johnny Miss yr adnabyddid John Hughes Evans, bandfeistr Seindorf Dyffryn Nantlle, oedd hefyd yn un o brif gornedwyr y seindorf. Roedd yn chwaraewr penigamp ac yn gerddor ac arweinydd pur fedrus.
Fel Johnny Miss yr adwaenid '''John Hughes Evans''', bandfeistr [[Seindorf Dyffryn Nantlle]], oedd hefyd yn un o brif gornedwyr y seindorf. Roedd yn chwaraewr penigamp ac yn gerddor ac arweinydd pur fedrus.


Ganol y 1920'au roedd Seindorf Dyffryn Nantlle yn fand o fri ac yn cystadlu yn erbyn goreuon holl wledydd Prydain yn y ''British Open Contest'' yn Belle Vue, Manceinion. Roedd llogi hyfforddwr proffesiynol o Loegr yn draul enfawr a'r arfer oedd casglu arian yn holl bentrefi'r Dyffryn a thu hwnt. Un gyda'r nos aeth y band i bentref Baladeulyn i hel ac aeth y bandfeistr, Johnny Miss, ar eu holau ar gefn ei feic, ar hyd yr hen ffordd fel yr oedd bryd hynny. Ond ni chyrhaeddodd Faladeulyn. Cafodd ddamwain angheuol ar Allt Pen-y-bryn, a thrwm oedd galar y band a'r Dyffryn cyfan.
Ganol y 1920'au roedd Seindorf [[Dyffryn Nantlle]] yn fand o fri ac yn cystadlu yn erbyn goreuon holl wledydd Prydain yn y ''British Open Contest'' yn Belle Vue, Manceinion. Roedd llogi hyfforddwr proffesiynol o Loegr yn draul enfawr a'r arfer oedd casglu arian yn holl bentrefi'r Dyffryn a thu hwnt. Un gyda'r nos aeth y band i bentref [[Baladeulyn]] i hel ac aeth y bandfeistr, Johnny Miss, ar eu holau ar gefn ei feic, ar hyd yr hen ffordd fel yr oedd bryd hynny. Ond ni chyrhaeddodd Faladeulyn. Cafodd ddamwain angheuol ar Allt Pen-y-bryn, a thrwm oedd galar y band a'r Dyffryn cyfan.


Yn groes i'r arfer, fe'i claddwyd ar ddydd Sul ym mynwent Macpela, Pen-y-groes, ynghanol galar rhyfeddol. Roedd y dyrfa ddaeth yno y fwyaf a welwyd yn Nyffryn Nantlle ers angladd y pregethwr mawr, John Jones Tal-y-sarn yn Llanllyfni, Awst 1857.
Yn groes i'r arfer, fe'i claddwyd ar ddydd Sul ym [[Mynwent Macpela]], [[Pen-y-groes]], ynghanol galar rhyfeddol. Roedd y dyrfa ddaeth yno y fwyaf a welwyd yn Nyffryn Nantlle ers angladd y pregethwr mawr, [[John Jones, Tal-y-sarn]] yn [[Llanllyfni]], Awst 1857.


Roedd Johnny Miss wedi cyfansoddi tôn er cof am aelodau o'r band a laddwyd yn y Rhyfel Mawr, ac fe chwaraeodd Seindorf Nantlle'r dôn honno o flaen ei dŷ dan arweiniad Ben Jones, cyn-arweinydd y band. ''Er Cof'' oedd enw'r dôn. Yna arweiniwyd yr elorymdaith gan y band yn chwarae'r ''Dead March'' gyda'r cannoedd yn dilyn i'r fynwent. Yno, i gyfeiliant y band, canwyd emyn David Charles, ''O fryniau Caersalem'', ar yr hen dôn Crug-y-bar, ac yna'r ''Last Post'' a'r ''Ymdeithgan Angladdol'' cyn ymadael.<ref>Cyrn y Diafol gan Geraint Jones 2004 t.112</ref>
Roedd Johnny Miss wedi cyfansoddi tôn er cof am aelodau o'r band a laddwyd yn y Rhyfel Mawr, ac fe chwaraeodd Seindorf Nantlle'r dôn honno o flaen ei dŷ dan arweiniad Ben Jones, cyn-arweinydd y band. ''Er Cof'' oedd enw'r dôn. Yna arweiniwyd yr elorymdaith gan y band yn chwarae'r ''Dead March'' gyda'r cannoedd yn dilyn i'r fynwent. Yno, i gyfeiliant y band, canwyd emyn David Charles, ''O fryniau Caersalem'', ar yr hen dôn Crug-y-bar, ac yna'r ''Last Post'' a'r ''Ymdeithgan Angladdol'' cyn ymadael.<ref>Geraint Jones, ''Cyrn y Diafol'' (2004), t.112</ref>


Dyma englyn a gyfansoddwyd er cof am Johnny Miss gan un o brifeirdd Dyffryn Nantlle, Gwilym R. Jones, Tal-y-sarn :
Dyma englyn a gyfansoddwyd er cof am Johnny Miss gan un o brifeirdd Dyffryn Nantlle, [[Gwilym R. Jones]], Tal-y-sarn :


''Ei fyr glod, ei fore glân, - a'i dirf hoen''
::::::''Ei fyr glod, ei fore glân, - a'i dirf hoen''   
::::::::''A derfynodd weithian ;'' 
:::::::''Gorwedd mae yn y graean,''
:::::::''Heb sŵn y cyrn, heb sain cân.''"''  


''A derfynodd weithian ;''


''Gorwedd mae yn y graean,''
{{eginyn}}


''Heb sŵn y cyrn, heb sain cân.''
==Cyfeiriadau==
 
{{eginyn}}


''
[[Categori:Cerddorion]]
[[Categori:Bandiau]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:06, 1 Mai 2022

Fel Johnny Miss yr adwaenid John Hughes Evans, bandfeistr Seindorf Dyffryn Nantlle, oedd hefyd yn un o brif gornedwyr y seindorf. Roedd yn chwaraewr penigamp ac yn gerddor ac arweinydd pur fedrus.

Ganol y 1920'au roedd Seindorf Dyffryn Nantlle yn fand o fri ac yn cystadlu yn erbyn goreuon holl wledydd Prydain yn y British Open Contest yn Belle Vue, Manceinion. Roedd llogi hyfforddwr proffesiynol o Loegr yn draul enfawr a'r arfer oedd casglu arian yn holl bentrefi'r Dyffryn a thu hwnt. Un gyda'r nos aeth y band i bentref Baladeulyn i hel ac aeth y bandfeistr, Johnny Miss, ar eu holau ar gefn ei feic, ar hyd yr hen ffordd fel yr oedd bryd hynny. Ond ni chyrhaeddodd Faladeulyn. Cafodd ddamwain angheuol ar Allt Pen-y-bryn, a thrwm oedd galar y band a'r Dyffryn cyfan.

Yn groes i'r arfer, fe'i claddwyd ar ddydd Sul ym Mynwent Macpela, Pen-y-groes, ynghanol galar rhyfeddol. Roedd y dyrfa ddaeth yno y fwyaf a welwyd yn Nyffryn Nantlle ers angladd y pregethwr mawr, John Jones, Tal-y-sarn yn Llanllyfni, Awst 1857.

Roedd Johnny Miss wedi cyfansoddi tôn er cof am aelodau o'r band a laddwyd yn y Rhyfel Mawr, ac fe chwaraeodd Seindorf Nantlle'r dôn honno o flaen ei dŷ dan arweiniad Ben Jones, cyn-arweinydd y band. Er Cof oedd enw'r dôn. Yna arweiniwyd yr elorymdaith gan y band yn chwarae'r Dead March gyda'r cannoedd yn dilyn i'r fynwent. Yno, i gyfeiliant y band, canwyd emyn David Charles, O fryniau Caersalem, ar yr hen dôn Crug-y-bar, ac yna'r Last Post a'r Ymdeithgan Angladdol cyn ymadael.[1]

Dyma englyn a gyfansoddwyd er cof am Johnny Miss gan un o brifeirdd Dyffryn Nantlle, Gwilym R. Jones, Tal-y-sarn :

Ei fyr glod, ei fore glân, - a'i dirf hoen
A derfynodd weithian ;
Gorwedd mae yn y graean,
Heb sŵn y cyrn, heb sain cân."


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, Cyrn y Diafol (2004), t.112