Morgan Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Darlledwr teledu yw '''Morgan Jones'''(g1971), brodyr o Drefor.
Darlledwr teledu yw '''Morgan Jones'''(g. 1971), brodor o [[Trefor|Drefor]]. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, lle cafodd radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ac yna llunio traethawd PhD ar y beirdd o'r ail ganrif ar bymtheg, Phylipiaid Ardudwy. Daeth i amlygrwydd fel cyflwynydd teledu gyda'r rhaglen ''Sgorio'', a ddangosai uchafbwyntiau gemau pêl-droed o uwch gynghreiriau Ewrop, ynghyd â rhaglenni chwaraeon eraill. Bu'n aelod o [[Seindorf Trefor|Fand Trefor]] ers yn blentyn ifanc gan ddatblygu'n offerynnwr medrus. Mae hefyd wedi cyflwyno cystadlaethau bandiau pres ar y teledu a chystadleuaeth flynyddol Côr Cymru. Yn ogystal â'i waith darlledu mae'n gweithio fel cyfieithydd ar ei liwt ei hun. Mae hefyd wedi cyflwyno'r eitemau ar bob rhifyn o gylchgrawn sain Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, ''Utgorn Cymru'' ers ei sefydlu.
 
Mae'n fab i [[Geraint Jones]], arweinydd Band Trefor.


{{eginyn}}
{{eginyn}}


{{{Categori:pobl}}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Darlledwyr]]
[[Categori:Cerddorion]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:10, 4 Mai 2022

Darlledwr teledu yw Morgan Jones(g. 1971), brodor o Drefor. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, lle cafodd radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ac yna llunio traethawd PhD ar y beirdd o'r ail ganrif ar bymtheg, Phylipiaid Ardudwy. Daeth i amlygrwydd fel cyflwynydd teledu gyda'r rhaglen Sgorio, a ddangosai uchafbwyntiau gemau pêl-droed o uwch gynghreiriau Ewrop, ynghyd â rhaglenni chwaraeon eraill. Bu'n aelod o Fand Trefor ers yn blentyn ifanc gan ddatblygu'n offerynnwr medrus. Mae hefyd wedi cyflwyno cystadlaethau bandiau pres ar y teledu a chystadleuaeth flynyddol Côr Cymru. Yn ogystal â'i waith darlledu mae'n gweithio fel cyfieithydd ar ei liwt ei hun. Mae hefyd wedi cyflwyno'r eitemau ar bob rhifyn o gylchgrawn sain Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Utgorn Cymru ers ei sefydlu.

Mae'n fab i Geraint Jones, arweinydd Band Trefor.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma