Edmund Price: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Edmund Price''' (neu weithiau, Edmwnd Prys)<ref>"Edmund Price" oedd ei ddull ei hun o lofnodi ei enw ar ei ewyllys</ref> yn ficer [[Clynnog Fawr]], (?1662-1719).  Fe'i benodwyd i'r fywoliaeth 10 Mai 1692 neu 1693, gan aros yno weddill ei oes.<ref>Arthur Ivor Pryce, ''The Diocese of Bangor During Three Centuries'', (Caerdydd, 1929), t.13</ref> Mab ydoedd i Edward Price, ac mae'n bosibl mai ficer Llanrhyddlad ac wedyn Llanfaethlu oedd hwnnw; os felly, dichon i Edmund gael ei ddwyn i fyny ar Ynys Môn. Fodd bynnag, dadleuai Joseph Foster (yn ei ''Index Ecclesiasticus'') mai mab ydoedd i Edward Price, Llanbedr, Meirionydd, ac iddo ymaelodi (fel ‘pauper’) ym Mhrifysgol Rhydychen (o Goleg Iesu) 7 Ebrill 1682, yn 20 oed, graddio'n B.A. yn 1685, a chymryd yr M.A. (o S. Alban Hall) yn 1688.<ref>''Y Bywgrafafiadur Ar-lein,erthygl am yr Archddiacon Edmwnd Prys, [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PRYS-EDM-1544?&query=morys%20clynnog&lang[]=en&lang[]=cy&lang[]=en&sort=sort_name&order=asc&rows=12&page=12#?c=0&m=0&s=0&cv=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4670462%2Fmanifest.json&xywh=-679%2C0%2C2421%2C1954]</ref> Gwraig Edmund oedd Ann Savage (bu farw 19 Mawrth 1720). Roeddent wedi priodi rywbryd ychydig cyn 1695, ac yr oedd ganddynt 5 o ferched a 2 fab, yn cynnwys y Parch. Edward Price, rheithor Llanfairpwll, Sir Fôn. Bu farw Price 10 Chwefror 1719. Roedd yn or-ŵyr i'r Archddiacon Edmwnd Prys, y bardd a'r prydydd, o Dyddyn Du, Maentwrog, a'i ail wraig Gwen.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.361.</ref>).
Roedd '''Edmund Price''' (neu weithiau, Edmwnd Prys)<ref>"Edmund Price" oedd ei ddull ei hun o lofnodi ei enw ar ei ewyllys</ref> yn ficer [[Clynnog Fawr]], (?1662-1719).  Fe'i penodwyd i'r fywoliaeth 10 Mai 1692 neu 1693, gan aros yno weddill ei oes.<ref>Arthur Ivor Pryce, ''The Diocese of Bangor During Three Centuries'', (Caerdydd, 1929), t.13</ref> Mab ydoedd i Edward Price, ac mae'n bosibl mai ficer Llanrhyddlad ac wedyn Llanfaethlu oedd hwnnw; os felly, dichon i Edmund gael ei ddwyn i fyny ar Ynys Môn. Fodd bynnag, dadleuai Joseph Foster (yn ei ''Index Ecclesiasticus'') mai mab ydoedd i Edward Price, Llanbedr, Meirionydd, ac iddo ymaelodi (fel ‘pauper’) ym Mhrifysgol Rhydychen (o Goleg Iesu) 7 Ebrill 1682, yn 20 oed, graddio'n B.A. yn 1685, a chymryd yr M.A. (o S. Alban Hall) yn 1688.<ref>''Y Bywgrafafiadur Ar-lein, erthygl am yr Archddiacon Edmwnd Prys, [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PRYS-EDM-1544?&query=morys%20clynnog&lang[]=en&lang[]=cy&lang[]=en&sort=sort_name&order=asc&rows=12&page=12#?c=0&m=0&s=0&cv=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4670462%2Fmanifest.json&xywh=-679%2C0%2C2421%2C1954]</ref> Gwraig Edmund oedd Ann Savage (bu farw 19 Mawrth 1720). Roeddent wedi priodi rywbryd ychydig cyn 1695, ac roedd ganddynt 5 o ferched a 2 fab, yn cynnwys y Parch. Edward Price, rheithor Llanfairpwll, Sir Fôn. Bu farw Price 10 Chwefror 1719. Roedd yn or-ŵyr i'r Archddiacon Edmwnd Prys, y bardd a'r prydydd, o Dyddyn Du, Maentwrog, a'i ail wraig Gwen.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.361.</ref>).


Yn ei ewyllys gadawodd gymynroddion ariannol i'w plant, a swllt yr un i'r deuddeg person mwyaf tlawd ym mhlwyf Clynnog.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ewyllysiau, B/1718/36.</ref>
Yn ei ewyllys gadawodd gymynroddion ariannol i'w blant, a swllt yr un i'r deuddeg person tlotaf ym mhlwyf Clynnog.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ewyllysiau, B/1718/36.</ref>


Yn y Llyfrgell Genedlaethol y mae copi o ''Foxe's Ecclesiasticall Historie'' oedd yn eiddo i Edmund Price, cyn iddo basio i ddwylo teulu Anwyl.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg 4458E</ref>   
Yn y Llyfrgell Genedlaethol y mae copi o ''Foxe's Ecclesiasticall Historie'' a oedd yn eiddo i Edmund Price, cyn iddo basio i ddwylo teulu Anwyl.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg 4458E</ref>   


Canwyd marwnad iddo gan Siôn Prichard Prys (marw 1724) ar ffurf ymgom rhwng y bardd a'r eglwys yn ei phrofedigaeth.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg Peniarth 196, t.20</ref> Fe'i atgynhyrchir isod, wedi ei gopïo o'r gwreiddiol gan y Parch, Ddr, Dafydd Wyn Wiliam, Bodedern.<ref>Dafydd Wyn Wiliam, Traethawd Ph.D, (Bangor, 1983), ''Traddodiad Barddol Môn yn y XVII ganrif''. Mae Cof y Cwmwd yn ddiolchgar i'r Dr Wiliam am hwyluso'r erthygl hon.</ref>
Canwyd marwnad iddo gan [[Siôn Prichard Prys]] (marw 1724) ar ffurf ymgom rhwng y bardd a'r eglwys yn ei phrofedigaeth.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg Peniarth 196, t.20</ref> Fe'i hatgynhyrchir isod, wedi ei chopïo o'r gwreiddiol gan y Parch. Ddr. Dafydd Wyn Wiliam, Bodedern.<ref>Dafydd Wyn Wiliam, Traethawd Ph.D, (Bangor, 1983), ''Traddodiad Barddol Môn yn y XVII ganrif''. Mae Cof y Cwmwd yn ddiolchgar i'r Dr Wiliam am hwyluso'r erthygl hon.</ref>


Pan gyhoeddodd Ellis Wynne o'r Lasynys ei gyfrol ''Rheol Buchedd Sanctaidd'' (sef cyfieithiad o'r gwaith Saesneg ''Holy Living and Holy Dying'' gan Jeremy Taylor) ceir chwe englyn ar ddechrau'r gyfrol gan "Edm. Prys Ficar Clynnog Fawr yn Arfon" wedi eu cyfeirio "At Gyfieithydd Rheol Buchedd Sanctaidd" yn canmol y gwaith a llafur y cyfieithydd.<sup>[9]</sup>




  Prydydd
  ''Prydydd''
     Y tŷ gweddi teg addas,
     Y tŷ gweddi teg addas,
   Ganllaw iawn gred, gwinllan gras,
   Ganllaw iawn gred, gwinllan gras,
Llinell 27: Llinell 28:
   Dramawr boen, mor drwm beunydd,  
   Dramawr boen, mor drwm beunydd,  
   A'th beraidd glych fal nych nâd  
   A'th beraidd glych fal nych nâd  
   Mwyna' 'dwaenwn.mewn dwnad.
   Mwyna' 'dwaenwn mewn dwnad.
   Du chwerw iawn y'm dychrynwyd,
   Du chwerw iawn y'm dychrynwyd,
   Y glyn gwâr, os Clynnog wyd.
   Y glyn gwâr, os Clynnog wyd.


  Eglwys Clynnog
  ''Eglwys Clynnog''
     Och Clynnog wyf, ddi-nwyf nod,
     Och Clynnog wyf, ddi-nwyf nod,
   Bannau hen Beuno hynod.  
   Bannau hen Beuno hynod.  
Llinell 61: Llinell 62:
   Anniddan iawn ddydd a nos.
   Anniddan iawn ddydd a nos.


Prydydd
''Prydydd''
Och newydd awch anniwair,
  Och newydd awch anniwair,
Tramawr gwymp, on'd trwm yw'r gair?
  Tramawr gwymp, on'd trwm yw'r gair?
   A thrablin y'm cythryblwyd,   
   A thrablin y'm cythryblwyd,   
   Fall oer waith, os felly 'rwyd.
   Fall oer waith, os felly 'rwyd.
A dorrwyd pen nenbren iaith
  A dorrwyd pen nenbren iaith
Bur ddeunydd. a barddoniaeth?
  Bur ddeunydd. a barddoniaeth?
A roed mewn arch yng ngwarchae
  A roed mewn arch yng ngwarchae
Ddefnyddiaeth llywaeth o’i lle?
  Ddefnyddiaeth llywaeth o’i lle?
A droed yr iaith, gwirfaith gof.
  A droed yr iaith, gwirfaith gof.
Du oer ing i dir angof?
  Du oer ing i dir angof?
Ai’r bedd yw etifeddiaeth
  Ai’r bedd yw etifeddiaeth
Gŵr hoff rwydd â geiriau ffraeth?
  Gŵr hoff rwydd â geiriau ffraeth?
A roed gwreiddyn doethineb,
  A roed gwreiddyn doethineb,
 chlwyf nych na chlywo neb
  Â chlwyf nych na chlywo neb
(llinellau 63-76 i’w hychwanegu eto)
  ''(llinellau 63-76 i’w hychwanegu eto)''
Tra diwall fryd, drwy’i holl fro
  Tra diwall fryd, drwy’i holl fro
Rhodd addysg, rhyw oedd iddo.
  Rhodd addysg, rhyw oedd iddo.
Gorwyr er gras urddas Iôn
  Gorwyr er gras urddas Iôn
Wych hygar i’r Arch’iagon,
  Wych hygar i’r Arch’iagon,
A drôi’r Salmau, hymnau hedd,
  A drôi’r Salmau, hymnau hedd,
Eng hynod ar gynghanedd.
  Eng hynod ar gynghanedd.
Mawl a fydd i’w gyf’’rwyddyd
  Mawl a fydd i’w gyf’’rwyddyd
Trwy bur wir barch tra bo’r byd.
  Trwy bur wir barch tra bo’r byd.
O'i' henw a'i lin, hwn 'n ail oedd;  
  O'i henw a'i lin, hwn 'n ail oedd;  
O wybodaeth mab ydoedd. ,
  O wybodaeth mab ydoedd.  
Iddo ran ei gyfraniad  
  Iddo ran ei gyfraniad  
Mae'n dasg rhodd mewn dysg a rhad.  
  Mae'n dasg rhodd mewn dysg a rhad.  
Gorau rhai o garwyr hedd
  Gorau rhai o garwyr hedd
Hil iawn fwyn haelion fonedd,  
  Hil iawn fwyn haelion fonedd,  
Rhyw addas, a rhai oeddynt  
  Rhyw addas, a rhai oeddynt  
Hedd Molwynog enwog gynt,
  Hedd Molwynog enwog gynt,
Benwyn erchwyn o Farchudd  
  Benwyn erchwyn o Farchudd  
Ac Einiawn a gawn heb gudd,  
  Ac Einiawn a gawn heb gudd,  
Yn brif dadau gorau gwedd     
  Yn brif dadau gorau gwedd     
Llên rhadol llawn anrhydedd.  
  Llên rhadol llawn anrhydedd.  
Rhai o gynnydd rhyw gannaid  
  Rhai o gynnydd rhyw gannaid  
Llywelyn, hil Bleddyn blaid.
  Llywelyn, hil Bleddyn blaid.
Hil Iestyn deg mynegir,  
  Hil Iestyn deg mynegir,  
Gawr gain hen, ap Gwrgan hir.
  Gawr gain hen, ap Gwrgan hir.
Gwegi fai henwi hannar  
  Gwegi fai henwi hannar  
Ei hynafiad gwiwrad gŵar.
  Ei hynafiad gwiwrad gŵar.


Byddwn gall a deallwn
  Byddwn gall a deallwn
Noddfa hedd gyneddfau hwn,
  Noddfa hedd gyneddfau hwn,
A'i fuchedd mewn rhinwedd rhad,  
  A'i fuchedd mewn rhinwedd rhad,  
Dda wych ryw, ei ddechreuad.  
  Dda wych ryw, ei ddechreuad.  
Byw mewn deddfol ysgolion,
  Byw mewn deddfol ysgolion,
Dirion iawn sail y deyrnas hon,  
  Dirion iawn sail y deyrnas hon,  
A'i faeth yn rhain nes ei fod,  
  A'i faeth yn rhain nes ei fod,  
Iawn reolau'n, wir aelod,  
  Iawn reolau'n, wir aelod,  
Mewn oedran diddan a doeth  
  Mewn oedran diddan a doeth  
Dewr union di-air-annoeth.  
  Dewr union di-air-annoeth.  
Pwy er gwellhad pechadur  
  Pwy er gwellhad pechadur  
Â'i athrawiaeth berffaith mor bur,
  Â'i athrawiaeth berffaith mor bur,
Mor gynnes er lles i'r Llan,  
  Mor gynnes er lles i'r Llan,  
Etholaidd araith wiwlan,
  Etholaidd araith wiwlan,
Mor glaearaidd lariaidd lên  
  Mor glaearaidd lariaidd lên  
Cannaid rhag magu cynnen,  
  Cannaid rhag magu cynnen,  
   Mor astud gwiwfryd ac iach,  
   Mor astud gwiwfryd ac iach,  
   Poen ddyfal, pan oedd afiach?
   Poen ddyfal, pan oedd afiach?
Llinell 126: Llinell 127:
   Pwnc lyfn glo, pen colofn gwlad,  
   Pwnc lyfn glo, pen colofn gwlad,  
   Brig athro, ei bregethiad.
   Brig athro, ei bregethiad.
Gair Duw tra fu fyw, trwy fawl
  Gair Duw tra fu fyw, trwy fawl
   Groyw iawn fodd, yn grefyddawl.
   Groyw iawn fodd, yn grefyddawl.
   Llais gwiwlan, nid llusg waeledd,
   Llais gwiwlan, nid llusg waeledd,
Llinell 151: Llinell 152:
   I'w briod fawrglod hyd fedd.
   I'w briod fawrglod hyd fedd.


Ac ni fu, gwiw un o fawl,  
  Ac ni fu, gwiw un o fawl,  
Ufudd ddoniau'n feddiannawl,
  Ufudd ddoniau'n feddiannawl,
Gan blant hynod eu codiad,  
  Gan blant hynod eu codiad,  
Haelwych dwr, anwylach dad.  
  Haelwych dwr, anwylach dad.  
Gŵr ag urddas i' r gwirdduw  
  Gŵr ag urddas i' r gwirdduw  
I fyny'n eu dwyn 'n ofn Duw.
  I fyny'n eu dwyn 'n ofn Duw.
Ac er haeddu cyrhaeddyd
  Ac er haeddu cyrhaeddyd
Mawr iawn barch ym marn y byd,  
  Mawr iawn barch ym marn y byd,  
Pur iawn lwydd, pa rai'n y wlad
  Pur iawn lwydd, pa rai'n y wlad
Mor wedd deg, mor dda'u dygiad
  Mor wedd deg, mor dda'u dygiad
Yn llywydd ar cyn lleied?
  Yn llywydd ar cyn lleied?
Mor ddiddan, mor dda'i addysg,  
  Mor ddiddan, mor dda'i addysg,  
Foddion mawl, fyddai'n eu mysg!  
  Foddion mawl, fyddai'n eu mysg!  
Y llynedd, mor llawenwych  
  Y llynedd, mor llawenwych  
Er clwyfus anafus nych;  
  Er clwyfus anafus nych;  
‘Leni mae'n frad safadwy,  
  'Leni mae'n frad safadwy,  
Achwyn tost, nych iddynt hwy,  
  Achwyn tost, nych iddynt hwy,  
Nych o boen i'w dihoeni,  
  Nych o boen i'w dihoeni,  
Archoll grym ac erchyll gri,  
  Archoll grym ac erchyll gri,  
Am fwynaidd, glaearaidd glod  
  Am fwynaidd, glaearaidd glod  
Diwyd heini, dad hynod.
  Diwyd heini, dad hynod.


Gwae eilwaith i'w gywely  
  Gwae eilwaith i'w gywely  
Drwy amod faith, drymed fu
  Drwy amod faith, drymed fu
Ei dynnu o'i dŷ annedd,  
  Ei dynnu o'i dŷ annedd,  
Glân iawn barch, a'i gloi'n y bedd.
  Glân iawn barch, a'i gloi'n y bedd.
Llewyg wylo, lli' galar,
  Llewyg wylo, lli' galar,
   Difri iawn wedd, dwyfron wâr,  
   Difri iawn wedd, dwyfron wâr,  
   Poen ddirfawr er pan ddarfu
   Poen ddirfawr er pan ddarfu
Roi 'ngharchar y ddaear ddu
  Roi 'ngharchar y ddaear ddu
Ei hanwylyd, hoywfryd hedd,
  Ei hanwylyd, hoywfryd hedd,
  Llafurus a'i holl fawredd.
  Llafurus a'i holl fawredd.


  Hyll ddyrnod, garwnod o gur,  
    Hyll ddyrnod, garwnod o gur,  
Gais  dialedd megis dolur,  
  Gais  dialedd megis dolur,  
I'w fab hynaf, bruddaf bron,
  I'w fab hynaf, bruddaf bron,
Sydd wrol o swydd Aron,
  Sydd wrol o swydd Aron,
Meistr Edwart moes tradoeth,  
  Meistr Edwart moes tradoeth,  
Fwynaidd da difeinydd doeth.
  Fwynaidd da difeinydd doeth.
Gwall heddiw er gwell addysg,
  Gwall heddiw er gwell addysg,
Byw mewn mawl, na bai'n eu mysg,
  Byw mewn mawl, na bai'n eu mysg,
Bod ar led ei gerddediad,
  Bod ar led ei gerddediad,
Llew bri doeth, 'n llwybrau ei dad.
  Llew bri doeth, 'n llwybrau ei dad.
Trwm ludded weled Wiliam,  
  Trwm ludded weled Wiliam,  
Baun di-feth, heb ond ei fam.
  Baun di-feth, heb ond ei fam.
Ffraeth lin tw' eginin teg wedd,
  Ffraeth lin tw' eginin teg wedd,
Mawr fu'r ing mor ieuangedd.
  Mawr fu'r ing mor ieuangedd.
I Elsbeth, heleth wylo,
  I Elsbeth, heleth wylo,
Diwael wych un, dal i'w cho'
  Diwael wych un, dal i'w cho'
Drwy drymder fwyn dyner dad  
  Drwy drymder fwyn dyner dad  
Fu ragorol fawr gariad.  
  Fu ragorol fawr gariad.  
Ni bu 'rioed ferch ym mherchen  
  Ni bu 'rioed ferch ym mherchen  
Heb draws ffug, na llyg na llên,
  Heb draws ffug, na llyg na llên,
Gloywfun wawr yn glaf, yn iach,
  Gloywfun wawr yn glaf, yn iach,
   I’w foddio fai'n ufuddach.  
   I’w foddio fai'n ufuddach.  
   Durew a bloedd doriad blin,
   Durew a bloedd doriad blin,
   Och alar i'w  ferch Elin;  
   Och alar i'w  ferch Elin;  
   A thrwm i Ann wiwlan wedd
   A thrwm i Ann wiwlan wedd
        A fu lawen oleuwedd.
  A fu lawen oleuwedd.
  Ochneidion drwy greulon gri
  Ochneidion drwy greulon gri
  Alarus yw i Lowri.
  Alarus yw i Lowri.
  Hyll ddyrnod er trallod trwch  
  Hyll ddyrnod er trallod trwch  
    I'w frawd, o anhyfrydwch.  
  I'w frawd, o anhyfrydwch.  
  Chwaer a cheraint awch oeredd  
  Chwaer a cheraint awch oeredd  
  Gan hiraeth yn waethwaeth wedd.
  Gan hiraeth yn waethwaeth wedd.
    
    
    Gwae Glynnog oediog wedi;
  Gwae Glynnog oediog wedi;
  O'i chôr teg ei chariad hi
  O'i chôr teg ei chariad hi
   A giliodd, gwywodd, nid gau,
   A giliodd, gwywodd, nid gau,
   Darostyngodd trist angau,
   Darostyngodd trist angau,
        Gorau hawl, o gyrrau hon,
  Gorau hawl, o gyrrau hon,
        Athro gŵyl, ei thrigolion.
  Athro gŵyl, ei thrigolion.
   A thrwy'r wlad yn wastadol  
   A thrwy'r wlad yn wastadol  
   Y cawn rai'n cwyno ar ei ôl.
   Y cawn rai'n cwyno ar ei ôl.
   Na chwynent, yn iach heno
   Na chwynent, yn iach heno
   Yn y byd i'w fywyd fo.
   Yn y byd i'w fywyd fo.
Ni ddaw o Grist er tristwch  
  Ni ddaw o Grist er tristwch  
Nac er gwên y llên o'r llwch.
  Nac er gwên y llên o'r llwch.
        Deg Iôn enwog, dwg ninne
  Deg Iôn enwog, dwg ninne
        O raean llawr i'r un lle.
  O raean llawr i'r un lle.
JOHN PRICHARD PRYS
                          JOHN PRICHARD PRYS
<
<


 
==Cyfeiriadau==


{{eginyn}}
9. ''Rheol Buchedd Sanctaidd'' gan Jer. Taylor, D.D., (Llundain, 1701 - atgynhyrchwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1928).
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pontydd]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Offeiriaid]]
[[Categori:Barddoniaeth]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:06, 24 Mehefin 2022

Roedd Edmund Price (neu weithiau, Edmwnd Prys)[1] yn ficer Clynnog Fawr, (?1662-1719). Fe'i penodwyd i'r fywoliaeth 10 Mai 1692 neu 1693, gan aros yno weddill ei oes.[2] Mab ydoedd i Edward Price, ac mae'n bosibl mai ficer Llanrhyddlad ac wedyn Llanfaethlu oedd hwnnw; os felly, dichon i Edmund gael ei ddwyn i fyny ar Ynys Môn. Fodd bynnag, dadleuai Joseph Foster (yn ei Index Ecclesiasticus) mai mab ydoedd i Edward Price, Llanbedr, Meirionydd, ac iddo ymaelodi (fel ‘pauper’) ym Mhrifysgol Rhydychen (o Goleg Iesu) 7 Ebrill 1682, yn 20 oed, graddio'n B.A. yn 1685, a chymryd yr M.A. (o S. Alban Hall) yn 1688.[3] Gwraig Edmund oedd Ann Savage (bu farw 19 Mawrth 1720). Roeddent wedi priodi rywbryd ychydig cyn 1695, ac roedd ganddynt 5 o ferched a 2 fab, yn cynnwys y Parch. Edward Price, rheithor Llanfairpwll, Sir Fôn. Bu farw Price 10 Chwefror 1719. Roedd yn or-ŵyr i'r Archddiacon Edmwnd Prys, y bardd a'r prydydd, o Dyddyn Du, Maentwrog, a'i ail wraig Gwen.[4]).

Yn ei ewyllys gadawodd gymynroddion ariannol i'w blant, a swllt yr un i'r deuddeg person tlotaf ym mhlwyf Clynnog.[5]

Yn y Llyfrgell Genedlaethol y mae copi o Foxe's Ecclesiasticall Historie a oedd yn eiddo i Edmund Price, cyn iddo basio i ddwylo teulu Anwyl.[6]

Canwyd marwnad iddo gan Siôn Prichard Prys (marw 1724) ar ffurf ymgom rhwng y bardd a'r eglwys yn ei phrofedigaeth.[7] Fe'i hatgynhyrchir isod, wedi ei chopïo o'r gwreiddiol gan y Parch. Ddr. Dafydd Wyn Wiliam, Bodedern.[8]

Pan gyhoeddodd Ellis Wynne o'r Lasynys ei gyfrol Rheol Buchedd Sanctaidd (sef cyfieithiad o'r gwaith Saesneg Holy Living and Holy Dying gan Jeremy Taylor) ceir chwe englyn ar ddechrau'r gyfrol gan "Edm. Prys Ficar Clynnog Fawr yn Arfon" wedi eu cyfeirio "At Gyfieithydd Rheol Buchedd Sanctaidd" yn canmol y gwaith a llafur y cyfieithydd.[9]


Prydydd
   Y tŷ gweddi teg addas,
 Ganllaw iawn gred, gwinllan gras,
 Gwiw le a drych golau drem,
 Côr o sylwedd Caersalem,
 Ffordd gain yn arwain i'r ne',
 Lon adail lân eneidie,
 Perllan ffrwyth, purlan parlwr, 
 Hardd i fyw, Duw yw dy dŵr.
 Lle'r oeddit, lliw ireiddwych,
 Gannaid hen iawn gynt yn wych, 
 Poen awel gerth pa niwl gau 
 A lwydodd d'oleuadau?
 Pa oer a blin, gerwin gur,
 Du ddialedd yw dy ddolur?	
 A'th gôr a'th allor i'th ddydd,   
 Dramawr boen, mor drwm beunydd, 
 A'th beraidd glych fal nych nâd 
 Mwyna' 'dwaenwn mewn dwnad.
 Du chwerw iawn y'm dychrynwyd,
 Y glyn gwâr, os Clynnog wyd.
Eglwys Clynnog
   Och Clynnog wyf, ddi-nwyf nod,
 Bannau hen Beuno hynod. 
 Bûm lewyrch gynnyrch i gant, 
 Borth miloedd, aberth moliant, 
 Yn llys teg, llawn anrhegion 
 Fal dw' iaith o fawl Duw Iôn,
 Lle bri, waned yn llwybr i’r nef,
 Rinweddau yw, wy’n addef.
 ‘N awr yn glaf tan ffurfafen, 
 Serth yw ‘mhwyll am syrthio 'mhen. 
 Fy nghloch oedd fy nghylch weddi, 
 Fy llwyr fraint, fy allor fri, 
 Fy llusern, fy llioswr, 
 Fy ffon deg, fy ffynnon dŵr, 
 Fy llyw o nerth, fy llên ŵr,
 Fy ngwiw hedd, fy ngwahoddwr, 
 Fy mhair olew, fy mhrelad, 
 Fy ngŵr hen, fy ngwir fawrhad, 
 Fy mhêr oglau, fy mh’riglor, 
 Fy llewyrch er cyrch i'm côr, 
 Fy mhur wres, fy nghynhesrwydd,
 Fy mhriod gwiwnod o'm gŵydd
 'Sywaeth aeth, mae'n saeth weithian 
 Ddyrys le, wyf ddiwres Lan.
 Am hynny mae fy mhenyd, 
 Archoll faith, a'm herchyll fyd,
 A baich im, nid heb achos,
 Anniddan iawn ddydd a nos.
Prydydd
  Och newydd awch anniwair,
 Tramawr gwymp, on'd trwm yw'r gair?
 A thrablin y'm cythryblwyd,   
 Fall oer waith, os felly 'rwyd.
 A dorrwyd pen nenbren iaith
 Bur ddeunydd. a barddoniaeth?
 A roed mewn arch yng ngwarchae
 Ddefnyddiaeth llywaeth o’i lle?
 A droed yr iaith, gwirfaith gof.
 Du oer ing i dir angof?
 Ai’r bedd yw etifeddiaeth
 Gŵr hoff rwydd â geiriau ffraeth?
 A roed gwreiddyn doethineb,
 Â chlwyf nych na chlywo neb
  (llinellau 63-76 i’w hychwanegu eto)
 Tra diwall fryd, drwy’i holl fro
 Rhodd addysg, rhyw oedd iddo.
 Gorwyr er gras urddas Iôn
 Wych hygar i’r Arch’iagon,
 A drôi’r Salmau, hymnau hedd,
 Eng hynod ar gynghanedd.
 Mawl a fydd i’w gyf’’rwyddyd
 Trwy bur wir barch tra bo’r byd.
 O'i henw a'i lin, hwn 'n ail oedd; 
 O wybodaeth mab ydoedd. 
 Iddo ran ei gyfraniad 
 Mae'n dasg rhodd mewn dysg a rhad. 
 Gorau rhai o garwyr hedd
 Hil iawn fwyn haelion fonedd, 
 Rhyw addas, a rhai oeddynt 
 Hedd Molwynog enwog gynt,
 Benwyn erchwyn o Farchudd 
 Ac Einiawn a gawn heb gudd, 
 Yn brif dadau gorau gwedd     
 Llên rhadol llawn anrhydedd. 
 Rhai o gynnydd rhyw gannaid 
 Llywelyn, hil Bleddyn blaid.
 Hil Iestyn deg mynegir, 
 Gawr gain hen, ap Gwrgan hir.
 Gwegi fai henwi hannar 
 Ei hynafiad gwiwrad gŵar.
  Byddwn gall a deallwn
 Noddfa hedd gyneddfau hwn,
 A'i fuchedd mewn rhinwedd rhad, 
 Dda wych ryw, ei ddechreuad. 
 Byw mewn deddfol ysgolion,
 Dirion iawn sail y deyrnas hon, 
 A'i faeth yn rhain nes ei fod, 
 Iawn reolau'n, wir aelod, 
 Mewn oedran diddan a doeth 
 Dewr union di-air-annoeth. 
 Pwy er gwellhad pechadur 
 Â'i athrawiaeth berffaith mor bur,
 Mor gynnes er lles i'r Llan, 
 Etholaidd araith wiwlan,
 Mor glaearaidd lariaidd lên 
 Cannaid rhag magu cynnen, 
 Mor astud gwiwfryd ac iach, 
 Poen ddyfal, pan oedd afiach?
 Rhoi, â’i wên ar ei ene,
 O ddiwres gorff, addysg gre',
 Pwnc lyfn glo, pen colofn gwlad, 
 Brig athro, ei bregethiad.
 Gair Duw tra fu fyw, trwy fawl
 Groyw iawn fodd, yn grefyddawl.
 Llais gwiwlan, nid llusg waeledd,
 Sain organ fwynlan hyd fedd.
 Mor brydferth gyfnerth i gyd
 Gwir awch. a gŵr o iechyd.
 Un i'w plaid oedd oen i'w plith
 Rhywiogaidd ddi-air-rhagrith, 
 A'i aur,heblaw ei eiriau, 
 Ddoniau ced, yn ddinacáu 
 Oedd barod rhag cernod caeth,
 Gam oer ddig, i'r gymdogaeth. 
 Rhoi ar goel i'r rhai gwaela' 
 'N rhwydd fenthyg heb ddig ei dda. 
 Ni wnâi gam wayw-lam o'i le,
 Na cham mawr ni chymere. 
 Doeth ddigynnen ymsennu, 
 Gellweirus dawnus i'w dŷ. 
 O'i elw fraint, pa le i'r fro
 A fu gwresog fwy groeso?
 Pêr gynnydd faeth helaethwych 
 I'r gwael yn gystal â'r gwych.
 Hydd â geiriau hawddgaredd 
 I'w briod fawrglod hyd fedd.
  Ac ni fu, gwiw un o fawl, 
 Ufudd ddoniau'n feddiannawl,
 Gan blant hynod eu codiad, 
 Haelwych dwr, anwylach dad. 
 Gŵr ag urddas i' r gwirdduw 
 I fyny'n eu dwyn 'n ofn Duw.
 Ac er haeddu cyrhaeddyd
 Mawr iawn barch ym marn y byd, 
 Pur iawn lwydd, pa rai'n y wlad
 Mor wedd deg, mor dda'u dygiad
 Yn llywydd ar cyn lleied?
 Mor ddiddan, mor dda'i addysg, 
 Foddion mawl, fyddai'n eu mysg! 
 Y llynedd, mor llawenwych 
 Er clwyfus anafus nych; 
 'Leni mae'n frad safadwy, 
 Achwyn tost, nych iddynt hwy, 
 Nych o boen i'w dihoeni, 
 Archoll grym ac erchyll gri, 
 Am fwynaidd, glaearaidd glod 
 Diwyd heini, dad hynod.
  Gwae eilwaith i'w gywely 
 Drwy amod faith, drymed fu
 Ei dynnu o'i dŷ annedd, 
 Glân iawn barch, a'i gloi'n y bedd.
 Llewyg wylo, lli' galar,
 Difri iawn wedd, dwyfron wâr, 
 Poen ddirfawr er pan ddarfu
 Roi 'ngharchar y ddaear ddu
 Ei hanwylyd, hoywfryd hedd,
 Llafurus a'i holl fawredd.
   Hyll ddyrnod, garwnod o gur, 
 Gais  dialedd megis dolur, 
 I'w fab hynaf, bruddaf bron,
 Sydd wrol o swydd Aron,
 Meistr Edwart moes tradoeth, 
 Fwynaidd da difeinydd doeth.
 Gwall heddiw er gwell addysg,
 Byw mewn mawl, na bai'n eu mysg,
 Bod ar led ei gerddediad,
 Llew bri doeth, 'n llwybrau ei dad.
 Trwm ludded weled Wiliam, 
 Baun di-feth, heb ond ei fam.
 Ffraeth lin tw' eginin teg wedd,
 Mawr fu'r ing mor ieuangedd.
 I Elsbeth, heleth wylo,
 Diwael wych un, dal i'w cho'
 Drwy drymder fwyn dyner dad 
 Fu ragorol fawr gariad. 
 Ni bu 'rioed ferch ym mherchen 
 Heb draws ffug, na llyg na llên,
 Gloywfun wawr yn glaf, yn iach,
 I’w foddio fai'n ufuddach. 
 Durew a bloedd doriad blin,
 Och alar i'w  ferch Elin; 
 A thrwm i Ann wiwlan wedd
 A fu lawen oleuwedd.
 Ochneidion drwy greulon gri
 Alarus yw i Lowri.
 Hyll ddyrnod er trallod trwch 
 I'w frawd, o anhyfrydwch. 
 Chwaer a cheraint awch oeredd 
 Gan hiraeth yn waethwaeth wedd.
 
  Gwae Glynnog oediog wedi;
 O'i chôr teg ei chariad hi
 A giliodd, gwywodd, nid gau,
 Darostyngodd trist angau,
 Gorau hawl, o gyrrau hon,
 Athro gŵyl, ei thrigolion.
 A thrwy'r wlad yn wastadol 
 Y cawn rai'n cwyno ar ei ôl.
 Na chwynent, yn iach heno
 Yn y byd i'w fywyd fo.
 Ni ddaw o Grist er tristwch 
 Nac er gwên y llên o'r llwch.
 Deg Iôn enwog, dwg ninne
 O raean llawr i'r un lle.
                         JOHN PRICHARD PRYS

<

Cyfeiriadau

9. Rheol Buchedd Sanctaidd gan Jer. Taylor, D.D., (Llundain, 1701 - atgynhyrchwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1928).

  1. "Edmund Price" oedd ei ddull ei hun o lofnodi ei enw ar ei ewyllys
  2. Arthur Ivor Pryce, The Diocese of Bangor During Three Centuries, (Caerdydd, 1929), t.13
  3. Y Bywgrafafiadur Ar-lein, erthygl am yr Archddiacon Edmwnd Prys, [=en&lang[]=cy&lang[]=en&sort=sort_name&order=asc&rows=12&page=12#?c=0&m=0&s=0&cv=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4670462%2Fmanifest.json&xywh=-679%2C0%2C2421%2C1954]
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.361.
  5. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ewyllysiau, B/1718/36.
  6. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg 4458E
  7. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg Peniarth 196, t.20
  8. Dafydd Wyn Wiliam, Traethawd Ph.D, (Bangor, 1983), Traddodiad Barddol Môn yn y XVII ganrif. Mae Cof y Cwmwd yn ddiolchgar i'r Dr Wiliam am hwyluso'r erthygl hon.