W. Gilbert Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
arddull twrm (bold) i'r teitl
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 10 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ysgolfeistr a hanesydd lleol oedd '''W. Gilbert Williams''' (20 Ionawr 1874- 10 Hydref 1966).
Ysgolfeistr a hanesydd lleol oedd '''William Gilbert Williams''' (20 Ionawr 1874 - 10 Hydref 1966).


Fe'i ganed yn Nhŷ’r Capel, Rhostryfan, Llanwnda. Roedd yn fab i John Williams, chwarelwr a Catherine Jones. Buodd yn gweithio yn Chwarel Cilgwyn ac wedyn aeth ymlaen i fod yn athro, ac wedyn i’r Coleg Normal ym Mangor rhwng 1892-1894. Roedd yn Ysgolfeistr yn ysgol Felinwnda, Llanwnda ac wedyn yn Rhostryfan rhwng 1918 a 1934. Buodd hefyd yn ymwneud llawer â hanes lleol, a derbyniodd gradd M.A. er anrhydedd oddi wrth Prifysgol Cymru am ei gyfraniad i hanes Cymru.
==Teulu a gyrfa==
Fe'i ganed yn Nhŷ’r Capel, [[Rhostryfan]], [[Llanwnda]]. Roedd yn fab i John Williams, chwarelwr, a Catherine Jones. Brawd iddo oedd [[John Williams (J.W. Llundain)]], a gyhoeddodd ei hunangofiant (''Hynt Gwerinwr'') sydd yn rhoi manylion am gartref a blynyddoedd cynnar Gilbert Williams.
 
Bu Gilbert Williams yn gweithio yn [[Chwarel Cilgwyn]] i ddechrau ac wedyn aeth ymlaen i fod yn athro, gan astudio yn y Coleg Normal ym Mangor rhwng 1892-1894. Roedd yn Brifathro [[Ysgol Felinwnda]], [[Llanwnda]] o ddyddiad ei hagor ym 1895 ac wedyn yn [[Ysgol Rhostryfan|Rhostryfan]] rhwng 1918 a 1934. Bu'n flaenor yng [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan|Nghapel Horeb (MC)]] am flynyddoedd lawer, ac yn gynghorydd dosbarth a sirol rhwng 1951 a 1961.
 
==Yr hanesydd a'r llenor==
[[Delwedd:W.Gilbert Williams - CyfarfodCoffaBeirddyLonGoed1950 2.jpeg|200px|bawd|dde|W.Gilbert Williams yn 1950 :Llun o'r gyfrol ''Coffa Beirdd y Lôn Goed'']]
Bu'n un o brif ysgogwyr sefydlu [[Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon]] ym 1939. Bu hefyd yn ymwneud llawer â hanes lleol, a derbyniodd radd M.A. er anrhydedd oddi wrth Brifysgol Cymru am ei gyfraniad i hanes Cymru. O ddechrau'r 20g ymlaen, dechreuodd ysgrifennu erthyglau i bapurau lleol yn seiliedig ar ymchwil fanwl ymysg papurau hanesyddol y sir, gan gyhoeddi erthyglau eraill ar ffurf pamffledi bach a argraffwyd ar ei beiriant argraffu bach ei hun. Arbenigai yn hanes yr 17g., er bod llawer o'i ysgrifau hefyd yn ymwneud â hanes plwyfi Llanwnda a [[Llandwrog]] a'r mân foneddigion a drigai yno dros y canrifoedd. Fe'i cyfrifir ymysg y goreuon o haneswyr lleol 'gwyddonol' cynnar, yn seilio ei gasgliadau ar ffeithiau profedig yn hytrach na straeon gwlad. Cyhoeddwyd tair ysgrif o'i eiddo yn ymwneud â'r 17g yn arbennig yn y gyfrol ''Arfon y Dyddiau Gynt'' (Caernarfon: Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig Cyf.) a chyhoeddwyd detholiad o'i erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog yn y gyfrol ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (gol. Gareth Haulfryn Williams), (Cyhoeddiadau Mei, 1983).
 
Ysgrifennodd o leiaf ddwy ddrama hanesyddol - un ohonynt oedd y ddrama fydryddol ''Rhyfelgyrch Hywel'' - a pheth barddoniaeth hefyd. Weithiau arddelai'r enw barddol Gilbart.
 
Ceir casgliadau o'i waith ymchwil, yn nodiadau, traethodau, a dogfennau a gasglodd yn y dyddiau cyn bod archifdai, yn Archifdy Caernarfon ac Archifdy Prifysgol Bangor.
 
==Is-etholiad 1943==
Ym 1943, cynhaliwyd is-etholiad ar gyfer etholaeth Prifysgol Cymru, a'r ddau brif ymgeisydd oedd yr Athro W.J. Gruffydd, (Rhyddfrydwr) a Saunders Lewis (Plaid Genedlaethol Cymru). Gruffydd enillodd yr etholiad, ar ôl hir a chwerw ddadlau a rannodd fyd academaidd a deallusol y genedl. Diddorol yw nodi fod Gilbert Williams wedi ymuno â'i ffrind, Dr Thomas Richards (llyfrgellydd Coleg Bangor), wrth gefnogi Gruffydd mewn llythyr agored i'r Wasg (ynghyd â rhai degau o academyddion eraill). Ar y llaw arall roedd ei gyd-hanesydd a'r gohebydd, Bob Owen (Croesor), wedi cefnogi Lewis mewn llythyr arall a gafodd lawn cymaint o lofnodion. Er i Gruffydd sefyll fel Rhyddfrydwr, fodd bynnag, roedd yn gyn-is-lywydd y Blaid a llawer o'i gefnogwyr yn bleidwyr hefyd, ond iddynt weld y perygl o ethol Catholig fel Saunders Lewis i afael anghydffurfiaeth ar y wlad. Peryglus, felly, fyddai priodoli safbwynt gwleidyddol penodol i Gilbert fwy nag i unrhyw un arall o gefnogwyr Gruffydd.<ref>Tegwyn Jones, ''Ambell Air ac Ati'', (Llanrwst, 2013), tt.174-5</ref>
 
{{eginyn}}
 
==Cyfeiriadau==
 
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Haneswyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 21:27, 27 Chwefror 2023

Ysgolfeistr a hanesydd lleol oedd William Gilbert Williams (20 Ionawr 1874 - 10 Hydref 1966).

Teulu a gyrfa

Fe'i ganed yn Nhŷ’r Capel, Rhostryfan, Llanwnda. Roedd yn fab i John Williams, chwarelwr, a Catherine Jones. Brawd iddo oedd John Williams (J.W. Llundain), a gyhoeddodd ei hunangofiant (Hynt Gwerinwr) sydd yn rhoi manylion am gartref a blynyddoedd cynnar Gilbert Williams.

Bu Gilbert Williams yn gweithio yn Chwarel Cilgwyn i ddechrau ac wedyn aeth ymlaen i fod yn athro, gan astudio yn y Coleg Normal ym Mangor rhwng 1892-1894. Roedd yn Brifathro Ysgol Felinwnda, Llanwnda o ddyddiad ei hagor ym 1895 ac wedyn yn Rhostryfan rhwng 1918 a 1934. Bu'n flaenor yng Nghapel Horeb (MC) am flynyddoedd lawer, ac yn gynghorydd dosbarth a sirol rhwng 1951 a 1961.

Yr hanesydd a'r llenor

W.Gilbert Williams yn 1950 :Llun o'r gyfrol Coffa Beirdd y Lôn Goed

Bu'n un o brif ysgogwyr sefydlu Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon ym 1939. Bu hefyd yn ymwneud llawer â hanes lleol, a derbyniodd radd M.A. er anrhydedd oddi wrth Brifysgol Cymru am ei gyfraniad i hanes Cymru. O ddechrau'r 20g ymlaen, dechreuodd ysgrifennu erthyglau i bapurau lleol yn seiliedig ar ymchwil fanwl ymysg papurau hanesyddol y sir, gan gyhoeddi erthyglau eraill ar ffurf pamffledi bach a argraffwyd ar ei beiriant argraffu bach ei hun. Arbenigai yn hanes yr 17g., er bod llawer o'i ysgrifau hefyd yn ymwneud â hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog a'r mân foneddigion a drigai yno dros y canrifoedd. Fe'i cyfrifir ymysg y goreuon o haneswyr lleol 'gwyddonol' cynnar, yn seilio ei gasgliadau ar ffeithiau profedig yn hytrach na straeon gwlad. Cyhoeddwyd tair ysgrif o'i eiddo yn ymwneud â'r 17g yn arbennig yn y gyfrol Arfon y Dyddiau Gynt (Caernarfon: Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig Cyf.) a chyhoeddwyd detholiad o'i erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog yn y gyfrol Moel Tryfan i'r Traeth, (gol. Gareth Haulfryn Williams), (Cyhoeddiadau Mei, 1983).

Ysgrifennodd o leiaf ddwy ddrama hanesyddol - un ohonynt oedd y ddrama fydryddol Rhyfelgyrch Hywel - a pheth barddoniaeth hefyd. Weithiau arddelai'r enw barddol Gilbart.

Ceir casgliadau o'i waith ymchwil, yn nodiadau, traethodau, a dogfennau a gasglodd yn y dyddiau cyn bod archifdai, yn Archifdy Caernarfon ac Archifdy Prifysgol Bangor.

Is-etholiad 1943

Ym 1943, cynhaliwyd is-etholiad ar gyfer etholaeth Prifysgol Cymru, a'r ddau brif ymgeisydd oedd yr Athro W.J. Gruffydd, (Rhyddfrydwr) a Saunders Lewis (Plaid Genedlaethol Cymru). Gruffydd enillodd yr etholiad, ar ôl hir a chwerw ddadlau a rannodd fyd academaidd a deallusol y genedl. Diddorol yw nodi fod Gilbert Williams wedi ymuno â'i ffrind, Dr Thomas Richards (llyfrgellydd Coleg Bangor), wrth gefnogi Gruffydd mewn llythyr agored i'r Wasg (ynghyd â rhai degau o academyddion eraill). Ar y llaw arall roedd ei gyd-hanesydd a'r gohebydd, Bob Owen (Croesor), wedi cefnogi Lewis mewn llythyr arall a gafodd lawn cymaint o lofnodion. Er i Gruffydd sefyll fel Rhyddfrydwr, fodd bynnag, roedd yn gyn-is-lywydd y Blaid a llawer o'i gefnogwyr yn bleidwyr hefyd, ond iddynt weld y perygl o ethol Catholig fel Saunders Lewis i afael anghydffurfiaeth ar y wlad. Peryglus, felly, fyddai priodoli safbwynt gwleidyddol penodol i Gilbert fwy nag i unrhyw un arall o gefnogwyr Gruffydd.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Tegwyn Jones, Ambell Air ac Ati, (Llanrwst, 2013), tt.174-5