Chwarel Cors-y-bryniau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Chwarel lechi i’r ochr ddwyreiniol i [[Moel Tryfan]] yw Chwarel Cors-y-Bryniau. Gelwir hi’n '''Alexandra''', neu '''Alexandria''' ar adegau.<ref>Tomos, Dewi ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llafar Gwlad, 2007)</ref>  
Chwarel lechi ar ochr ddwyreiniol [[Moel Tryfan]] yw '''Chwarel Cors-y-Bryniau'''. Gelwir hi’n ''Alexandra'', neu ''Alexandria'' ar adegau.<ref>Tomos, Dewi ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llafar Gwlad, 2007)</ref>  


Dechreuodd gwr o’r enw Robert Hughes, Bryn Fferam gloddio yno ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd drafferth cloddio yma, a daeth y gwaith i ben wedi ei farwolaeth. Erbyn 1824, roedd dynion o Gaernarfon wedi ceisio rhedeg y chwarel, ac ei hail-agor. Cafod hwythau drafferth yno, a llawer eraill ar eu hol. Mae’n debyg fod y tirwedd ddim yn ffafriol iawn a’r gwyr rhain oedd yn mentro yno. Yn 1862, agorodd fel chwarel swyddogol, a dechreuwyd gwaith ar y ‘Lefel Mawr’ a oedd tua 700 llath o hyd ar hyd ochr orllewinol Moel Tryfan. Cafwyd cyfalaf o £15,000 a chyflogwyd 140 o ddynion.<ref>Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry'', (Newton Abbot, 1974), t.310.</ref>
Dechreuodd gŵr o’r enw Robert Hughes, Bryn Fferam, gloddio yno ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd drafferth cloddio yno, a daeth y gwaith i ben wedi ei farwolaeth. Erbyn 1824, roedd dynion o Gaernarfon wedi ceisio rhedeg y chwarel a'i hail-agor. Cawsant hwythau drafferth yno, a llawer eraill ar eu hôl. Mae’n debyg nad oedd y tirwedd yn ffafriol iawn i'r dynion hyn a fentrodd yno. Ym 1862, agorodd fel chwarel swyddogol, a dechreuwyd gwaith ar y ‘Lefel Mawr’, a oedd tua 700 llath o hyd ar hyd ochr orllewinol Moel Tryfan. Cafwyd cyfalaf o £15,000 a chyflogwyd 140 o ddynion.<ref>Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry'', (Newton Abbot, 1974), t.310.</ref>


Nid oedd llawer o lwc yn perthyn i’r lle hwn, ac ar ôl llawer o ymdrechion ni chafodd y lle lwyddiant hyd nes diwedd y ganrif ymhle roedd yn cynhyrchu tua 6000 tunnell o lechi ar ei hanterth, ac yn cyflogi tua 256 o weithwyr.  
Nid oedd llawer o lwc yn perthyn i’r lle hwn, ac ar ôl llawer o ymdrechion ni chafodd y lle lwyddiant tan ddiwedd y ganrif pan oedd yn cynhyrchu tua 6000 tunnell o lechi ar ei hanterth, ac yn cyflogi tua 256 o weithwyr.  


Daeth cwymp yn y galw erbyn 1913, a bu rhaid diswyddo nifer o’r gweithiwyr, ac o ganlyniad aeth tua 200 o’r gweithiwyr ar streic a drefnwyd gan Undeb y Chwarelwyr. Rhwng 1918 a 1931, daeth y chwarel o dan reolaeth cwmni arall, sef yr ''Amalgamated Slate Association Ltd.'', a cheisiodd eu rhedeg ar y cyd gyda [[Chwarel Moel Tryfan]].
Daeth cwymp yn y galw am lechi erbyn 1913, a bu rhaid diswyddo nifer o’r gweithiwyr, ac o ganlyniad aeth tua 200 o’r gweithwyr ar streic a drefnwyd gan Undeb y Chwarelwyr. Roedd y ''Caernarvonshire Crown Slate Quarries Co. Ltd'' wedyn yn gyfrifol am y chwarel o 1918 ymlaen. Rhwng 1918 a 1931, daeth yn rhan o gwmni arall, sef yr ''Amalgamated Slate Association Ltd.'', a geisiodd ei gweithredu ar y cyd gyda [[Chwarel Moel Tryfan]] a [[Chwarel Cilgwyn]] yn ogystal â chwarel yng Nghapel Curig.


Roedd y ''Caernarvonshire Crown Slate Quarries Co. Ltd'' wedyn yn gyfrifol am y chwarel o 1918 ymlaen. Cafodd eu siomi gan y diffyg galw ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac erbyn y cyfnod hyn dim ond 62 o weithwyr oedd yn gyflogedig yno. Daeth y gwaith yno i ben erbyn 1972 oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/site/40528/details/alexandra-quarrycors-y-bryniau-quarry  Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol]</ref>  
Siomwyd y cwmni gan y diffyg galw am lechi ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac erbyn y cyfnod hwnnw dim ond 62 o weithwyr oedd yn gyflogedig yno. Daeth y gwaith yno i ben erbyn 1972 am resymau iechyd a diogelwch.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/site/40528/details/alexandra-quarrycors-y-bryniau-quarry  Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol]</ref>  


{{eginyn}}
{{eginyn}}
Llinell 19: Llinell 19:


[[Categori: Diwydiant a Masnach]]
[[Categori: Diwydiant a Masnach]]
[[Categori:Chwareli llechi]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:21, 9 Chwefror 2021

Chwarel lechi ar ochr ddwyreiniol Moel Tryfan yw Chwarel Cors-y-Bryniau. Gelwir hi’n Alexandra, neu Alexandria ar adegau.[1]

Dechreuodd gŵr o’r enw Robert Hughes, Bryn Fferam, gloddio yno ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd drafferth cloddio yno, a daeth y gwaith i ben wedi ei farwolaeth. Erbyn 1824, roedd dynion o Gaernarfon wedi ceisio rhedeg y chwarel a'i hail-agor. Cawsant hwythau drafferth yno, a llawer eraill ar eu hôl. Mae’n debyg nad oedd y tirwedd yn ffafriol iawn i'r dynion hyn a fentrodd yno. Ym 1862, agorodd fel chwarel swyddogol, a dechreuwyd gwaith ar y ‘Lefel Mawr’, a oedd tua 700 llath o hyd ar hyd ochr orllewinol Moel Tryfan. Cafwyd cyfalaf o £15,000 a chyflogwyd 140 o ddynion.[2]

Nid oedd llawer o lwc yn perthyn i’r lle hwn, ac ar ôl llawer o ymdrechion ni chafodd y lle lwyddiant tan ddiwedd y ganrif pan oedd yn cynhyrchu tua 6000 tunnell o lechi ar ei hanterth, ac yn cyflogi tua 256 o weithwyr.

Daeth cwymp yn y galw am lechi erbyn 1913, a bu rhaid diswyddo nifer o’r gweithiwyr, ac o ganlyniad aeth tua 200 o’r gweithwyr ar streic a drefnwyd gan Undeb y Chwarelwyr. Roedd y Caernarvonshire Crown Slate Quarries Co. Ltd wedyn yn gyfrifol am y chwarel o 1918 ymlaen. Rhwng 1918 a 1931, daeth yn rhan o gwmni arall, sef yr Amalgamated Slate Association Ltd., a geisiodd ei gweithredu ar y cyd gyda Chwarel Moel Tryfan a Chwarel Cilgwyn yn ogystal â chwarel yng Nghapel Curig.

Siomwyd y cwmni gan y diffyg galw am lechi ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac erbyn y cyfnod hwnnw dim ond 62 o weithwyr oedd yn gyflogedig yno. Daeth y gwaith yno i ben erbyn 1972 am resymau iechyd a diogelwch.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Ffynonellau

  1. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llafar Gwlad, 2007)
  2. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, (Newton Abbot, 1974), t.310.
  3. Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol