Chwarel Cilgwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Chwarel lechi a lethrau [[Mynydd Cilgwyn]], [[Dyffryn Nantlle]] oedd y lle hwn. Mae’n bosib iddo mai dyma oedd y chwarel hynaf yng Nghymru, ac wedi cael ei gweithio yn nyddiau'r Rhufeiniaid, ac yn y Canol Oesoedd.
Chwarel lechi ar lethrau [[Mynydd Cilgwyn]], [[Dyffryn Nantlle]] oedd y lle hwn. Mae’n bosib mai hon oedd y chwarel hynaf yng Nghymru, ac wedi cael ei gweithio yn nyddiau'r Rhufeiniaid, ac yn y Canol Oesoedd.


===Dyddiau cynnar===
===Dyddiau cynnar===
 
[[Delwedd:CilgwynQuarry.JPG|bawd|300px|de|Chwarel Cilgwyn yn 2006]]
O tua 1750 ymlaen, roedd nifer y dyllau chwarel bychan ar lethrau Mynydd Cilgwyn. Roedd prydles y tiroedd rhain yn nwylo ysgweier Glynllifon, John Wynn. Ceisiodd ddal ei brydles ar y tiroedd am gyfnod hir, ond yn 1776 collodd ei gyfle, ac erbyn 1791 roedd y brydles yn cael ei osod gan y Goron i unrhyw bobl a fyddai’n barod i weithio’r chwareli eu hunain. Roedd cydweithfa’r tyllau rhain yn nwylo’r chwareli am gyfnod, a chredir iddynt gyfarfod mewn tafarndai ledled yr ardal i drafod y gwaith a thrafod cytundebau ac ati – rhywbeth unigryw iawn o’r cyfnod. Roedd enwau amryw ar y tyllau rhain, megis ‘Gloddfa Glytiau’, ‘Twll Morus Ifans’, ‘Cloddfa Bach’, ‘Cloddfa Ddwfr’ a ‘Limerick’.
Erbyn 1745, roedd nifer o dyllau chwarel bychain ar lethrau Mynydd Cilgwyn, oedd yn dir y Goron. Rhoddwyd prydles y tiroedd hyn yn nwylo ysgweier Glynllifon, John Wynn, am gyfnod o 31 o flynyddoedd. Ceisiodd ddal ei brydles ar y tiroedd am gyfnod hir, ond ym 1776 collodd ei gyfle. Nid oedd fawr o reolaeth ar waith chwarelyddol 'answyddogol' oedd yn mynd ymlaen, gyda llawer o chwarelwyr-dyddynwyr yn gweithio'r mynydd ar eu liwt eu hunain. Erbyn 1791 roedd y brydles yn cael ei gosod gan y Goron i unrhyw rai a fyddai’n barod i weithio’r chwareli eu hunain. Roedd cyd-weithio'r tyllau hyn yn nwylo’r chwarelwyr eu hunain am gyfnod, a chredir iddynt gyfarfod mewn tafarndai ledled yr ardal i drafod y gwaith a thrafod cytundebau ac ati – rhywbeth unigryw iawn yn y cyfnod. Roedd enwau amrywiol ar y tyllau hyn, megis ‘Gloddfa Glytiau’, ‘Twll Morus Ifans’, ‘Cloddfa Bach’, ‘Cloddfa Ddwfr’ a ‘Limerick’.
   
   
Erbyn 1800, roedd grŵp o dirfeddianwyr lleol wedi cymryd mantais ar gyfle i redeg y chwareli bychain rhain fel un menter. Sefydlwyd ‘Cwmni Chwarelau Cilgwyn’ yn 1800, gyda les ar y chwarel o’r Goron. O ganlyniad hyn, roedd llawer o wrthdaro rhwng y gweithiwyr a’r rheolwyr newydd. Roedd llawer o’r dynion rhain a oedd wedi rhedeg eu tyllau eu hunain ynghynt, bellach yn gorfod is-gontractio i’r meistri rhain, cholli llawer o’u helw. Roedd rhai grwpiau o’r gweithiwyr yn mynd yn erbyn y rhybuddion i gadw allan o’r chwareli, ac yn tresmasu i gario ymlaen gyda’r gwaith.  
Erbyn 1800, roedd grŵp o dirfeddianwyr lleol wedi cymryd mantais ar gyfle i redeg y chwareli bychain hyn fel un fenter. Sefydlwyd ‘Cwmni Chwarelau Cilgwyn’ ym 1800, gyda les ar y chwarel o’r Goron. O ganlyniad i hyn, roedd llawer o wrthdaro rhwng y gweithiwyr a’r rheolwyr newydd. Roedd llawer o’r dynion hyn, a oedd wedi rheoli eu tyllau eu hunain ynghynt, bellach yn gorfod is-gontractio i’r meistri hyn a cholli llawer o’u helw. Roedd rhai grwpiau o’r gweithiwyr yn mynd yn erbyn y rhybuddion i gadw allan o’r chwareli, ac yn tresmasu i gario ymlaen gyda’r gwaith.  


Erbyn diwedd hanner cyntaf y ganrif, roedd trefn yn dechrau ffurfio yn y chwarel ac roedd yn un o brif fannau o gyflogaeth i ddynion yr ardal.
Erbyn tua 1810, roedd trefn yn dechrau ffurfio yn y chwarel ac roedd yn un o brif ffynonellau cyflogaeth i ddynion yr ardal.


===1850 ymlaen===  
===1850 ymlaen===  


Erbyn ail hanner y ganrif, roedd hanesion y tresmasu wedi distewi ac roedd y chwarel ar ei phrysuraf. Roedd yn cynhyrchu allbwn o 7430 tunnell o lechi yn 1882, ac yn cyflogi o gwmpas 300 o ddynion. Cyfrannodd ddatblygiad y system rheilffordd newydd lawer at lwyddiant yn chwarel hefyd, gan gynyddu’r galw am lechi Dyffryn Nantlle.  
Erbyn ail hanner y ganrif, roedd hanesion y tresmasu wedi distewi ac roedd y chwarel ar ei phrysuraf. Roedd yn cynhyrchu 7430 tunnell o lechi ym 1882, ac yn cyflogi o gwmpas 300 o ddynion. Cyfrannodd datblygiad y system rheilffordd newydd lawer at lwyddiant y chwarel hefyd, gan gynyddu’r galw am lechi Dyffryn Nantlle.  
Parhaodd i fod yn fan hanfodol o bwysig yn yr ardal, ond erbyn 1956 ddaru’r chwarel gau oherwydd y gostyngiad mewn galw.  
Parhaodd i fod yn fan hanfodol o bwysig yn yr ardal, ond erbyn 1956 caewyd y chwarel oherwydd y gostyngiad mewn galw.
 
===Defnydd diweddarach===
 
Yn y 1960au dechreuwyd defnyddio'r tyllau mawr fel arllwysfeydd ar gyfer ysbwriel yr ardal, ond erbyn troad y ganrif roedd y ddau dwll cyntaf yn llawn, a sylweddolwyd mai peth anghyfeillgar i'r amgylchedd oedd cael gwared ar ysbwriel yn y fath fodd. Gorchuddiwyd y tipiau â phridd. Erbyn hyn, a'r ysbwriel tanddaearol yn dal i bydru a gollwng nwyon, mae'r nwyon yn cael eu dal at bwrpas cynhyrchu ynni.


{{eginyn}}
{{eginyn}}
Llinell 19: Llinell 23:


Tomos, Dewi ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llafar Gwlad, 2007)
Tomos, Dewi ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llafar Gwlad, 2007)
Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry'', (Newton Abbot, 1974), t. 314.


[https://cy.wikipedia.org/wiki/Chwarel_y_Cilgwyn Egin ar hanes y Chwarel ar Wicipedia]
[https://cy.wikipedia.org/wiki/Chwarel_y_Cilgwyn Egin ar hanes y Chwarel ar Wicipedia]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:26, 20 Chwefror 2022

Chwarel lechi ar lethrau Mynydd Cilgwyn, Dyffryn Nantlle oedd y lle hwn. Mae’n bosib mai hon oedd y chwarel hynaf yng Nghymru, ac wedi cael ei gweithio yn nyddiau'r Rhufeiniaid, ac yn y Canol Oesoedd.

Dyddiau cynnar

Chwarel Cilgwyn yn 2006

Erbyn 1745, roedd nifer o dyllau chwarel bychain ar lethrau Mynydd Cilgwyn, oedd yn dir y Goron. Rhoddwyd prydles y tiroedd hyn yn nwylo ysgweier Glynllifon, John Wynn, am gyfnod o 31 o flynyddoedd. Ceisiodd ddal ei brydles ar y tiroedd am gyfnod hir, ond ym 1776 collodd ei gyfle. Nid oedd fawr o reolaeth ar waith chwarelyddol 'answyddogol' oedd yn mynd ymlaen, gyda llawer o chwarelwyr-dyddynwyr yn gweithio'r mynydd ar eu liwt eu hunain. Erbyn 1791 roedd y brydles yn cael ei gosod gan y Goron i unrhyw rai a fyddai’n barod i weithio’r chwareli eu hunain. Roedd cyd-weithio'r tyllau hyn yn nwylo’r chwarelwyr eu hunain am gyfnod, a chredir iddynt gyfarfod mewn tafarndai ledled yr ardal i drafod y gwaith a thrafod cytundebau ac ati – rhywbeth unigryw iawn yn y cyfnod. Roedd enwau amrywiol ar y tyllau hyn, megis ‘Gloddfa Glytiau’, ‘Twll Morus Ifans’, ‘Cloddfa Bach’, ‘Cloddfa Ddwfr’ a ‘Limerick’.

Erbyn 1800, roedd grŵp o dirfeddianwyr lleol wedi cymryd mantais ar gyfle i redeg y chwareli bychain hyn fel un fenter. Sefydlwyd ‘Cwmni Chwarelau Cilgwyn’ ym 1800, gyda les ar y chwarel o’r Goron. O ganlyniad i hyn, roedd llawer o wrthdaro rhwng y gweithiwyr a’r rheolwyr newydd. Roedd llawer o’r dynion hyn, a oedd wedi rheoli eu tyllau eu hunain ynghynt, bellach yn gorfod is-gontractio i’r meistri hyn a cholli llawer o’u helw. Roedd rhai grwpiau o’r gweithiwyr yn mynd yn erbyn y rhybuddion i gadw allan o’r chwareli, ac yn tresmasu i gario ymlaen gyda’r gwaith.

Erbyn tua 1810, roedd trefn yn dechrau ffurfio yn y chwarel ac roedd yn un o brif ffynonellau cyflogaeth i ddynion yr ardal.

1850 ymlaen

Erbyn ail hanner y ganrif, roedd hanesion y tresmasu wedi distewi ac roedd y chwarel ar ei phrysuraf. Roedd yn cynhyrchu 7430 tunnell o lechi ym 1882, ac yn cyflogi o gwmpas 300 o ddynion. Cyfrannodd datblygiad y system rheilffordd newydd lawer at lwyddiant y chwarel hefyd, gan gynyddu’r galw am lechi Dyffryn Nantlle. Parhaodd i fod yn fan hanfodol o bwysig yn yr ardal, ond erbyn 1956 caewyd y chwarel oherwydd y gostyngiad mewn galw.

Defnydd diweddarach

Yn y 1960au dechreuwyd defnyddio'r tyllau mawr fel arllwysfeydd ar gyfer ysbwriel yr ardal, ond erbyn troad y ganrif roedd y ddau dwll cyntaf yn llawn, a sylweddolwyd mai peth anghyfeillgar i'r amgylchedd oedd cael gwared ar ysbwriel yn y fath fodd. Gorchuddiwyd y tipiau â phridd. Erbyn hyn, a'r ysbwriel tanddaearol yn dal i bydru a gollwng nwyon, mae'r nwyon yn cael eu dal at bwrpas cynhyrchu ynni.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Ffynonellau

Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llafar Gwlad, 2007)

Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, (Newton Abbot, 1974), t. 314.

Egin ar hanes y Chwarel ar Wicipedia

Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol