Llanwnda (pentref): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:20180514 144901.jpg|bawd|300px|de|Pentref Llanwnda]] | [[Delwedd:20180514 144901.jpg|bawd|300px|de|Pentref Llanwnda]] | ||
Mae '''pentref Llanwnda''', yn wahanol i'r pentrefi eraill yn y cwmwd sy'n rhannu eu henw gyda'r plwyf, tua milltir i ffwrdd o eglwys y plwyf o'r un enw. Mae'r eglwys honno yn sefyll mewn cymuned arall yn y plwyf a elwir heddiw yn [[Dinas]]. Gweler yr erthygl ar y plwyf, sef [[Llanwnda]] am fanylion eraill. | Mae '''pentref Llanwnda''', yn wahanol i'r pentrefi eraill yn y cwmwd sy'n rhannu eu henw gyda'r plwyf, tua milltir i ffwrdd o eglwys y plwyf o'r un enw. Mae'r eglwys honno yn sefyll mewn cymuned arall yn y plwyf a elwir heddiw yn [[Dinas]]. Gweler yr erthygl ar y plwyf, sef [[Llanwnda]] am fanylion eraill. | ||
Tyfodd gasgliad o dai ar ochr lôn Pwllheli gyferbyn â'r orsaf a enwyd yn [[Gorsaf reilffordd Llanwnda|'Llanwnda']] yn niwedd y 19g, ac 'roedd Swyddfa Bost a iard lo yn agored tan ychydig flynyddoedd yn ôl. Bu tafarn boblogaidd iawn yno hefyd, sef ''Y Goat'' tan yn bur ddiweddar. Tua 200 lath ar ochr Caernarfon i'r pentref roedd [[Ysgoldy Graeanfryn (MC)]] a godwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd. Chwalwyd yr adeilad wrth ledu'r ffordd ac mae plac sy'n dynodi'r lle wedi ei osod ar y wal wrth y gylchfan. | Hen enw y dreflan oedd yno'n wreiddiol cyn i'r rheilfordd fawr gyrraedd oedd [[Tan-y-cefn]], enw sydd bellach ar un res o dai'n unig. Serch yr enw modern, dichon ei fod wedi cael ei fabwysiadu oherwydd dyna enw'r orsaf, a alwyd yn y lle cyntaf yn "[[Gorsaf reilffordd Pwllheli Road|Pwllheli Road]]". Ymddengys fodd bynnag mai'r enw gwreiddiol ar y casgliad bach o dai yn y lleoliad yma oedd "Graeanfryn".<ref>John Jones (Pwllheli), ''Cofiant John Jones, Brynrodyn'' (Caernarfon, 1903), t.57</ref> | ||
Tyfodd gasgliad o dai ar ochr lôn Pwllheli gyferbyn â'r orsaf a enwyd yn [[Gorsaf reilffordd Llanwnda|'Llanwnda']] yn niwedd y 19g, ac 'roedd Swyddfa Bost a iard lo yn agored tan ychydig flynyddoedd yn ôl. Bu tafarn boblogaidd iawn yno hefyd, sef [[Tafarn y Goat (Llanwnda)|''Y Goat'']] tan yn bur ddiweddar. Tua 200 lath ar ochr Caernarfon i'r pentref roedd [[Ysgoldy Graeanfryn (MC)]] a godwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd ym 1872<ref>W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t.346</ref>. Chwalwyd yr adeilad wrth ledu'r ffordd ac mae plac sy'n dynodi'r lle wedi ei osod ar y wal wrth y gylchfan. | |||
Prif res o dai pentref Llanwnda yw Rhes Gwelfor. Cyn i'r rheiny gael eu codi, safai hen fythynnod digon sâl ar y safle,ar gyfer tlodion anghenus a dderbyniai gymorth y plwyf; Stryd y Glem oedd enw'r ardal ar y rhes honno.<ref>W. Gilbert Williams. ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), t.152</ref> | |||
Arferai fod dwy dafarn yn y pentref tan ddechrau'r 20g. Yn ogystal â'r Goat, roedd [[Tafarn y Railway]] yr ochr arall i bont y lein yn gwasanaethu'r ardal. | |||
==Cyfarwyddiadur Llanwnda, 1889-90<ref>''Sutton's Directory of North Wales, 1889-90''</ref>== | ==Cyfarwyddiadur Llanwnda, 1889-90<ref>''Sutton's Directory of North Wales, 1889-90''</ref>== | ||
Llinell 30: | Llinell 36: | ||
[[Categori: Pentrefi a threflannau]] | [[Categori: Pentrefi a threflannau]] | ||
[[Categori:Enwau lleoedd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:54, 28 Awst 2024
Mae pentref Llanwnda, yn wahanol i'r pentrefi eraill yn y cwmwd sy'n rhannu eu henw gyda'r plwyf, tua milltir i ffwrdd o eglwys y plwyf o'r un enw. Mae'r eglwys honno yn sefyll mewn cymuned arall yn y plwyf a elwir heddiw yn Dinas. Gweler yr erthygl ar y plwyf, sef Llanwnda am fanylion eraill.
Hen enw y dreflan oedd yno'n wreiddiol cyn i'r rheilfordd fawr gyrraedd oedd Tan-y-cefn, enw sydd bellach ar un res o dai'n unig. Serch yr enw modern, dichon ei fod wedi cael ei fabwysiadu oherwydd dyna enw'r orsaf, a alwyd yn y lle cyntaf yn "Pwllheli Road". Ymddengys fodd bynnag mai'r enw gwreiddiol ar y casgliad bach o dai yn y lleoliad yma oedd "Graeanfryn".[1]
Tyfodd gasgliad o dai ar ochr lôn Pwllheli gyferbyn â'r orsaf a enwyd yn 'Llanwnda' yn niwedd y 19g, ac 'roedd Swyddfa Bost a iard lo yn agored tan ychydig flynyddoedd yn ôl. Bu tafarn boblogaidd iawn yno hefyd, sef Y Goat tan yn bur ddiweddar. Tua 200 lath ar ochr Caernarfon i'r pentref roedd Ysgoldy Graeanfryn (MC) a godwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd ym 1872[2]. Chwalwyd yr adeilad wrth ledu'r ffordd ac mae plac sy'n dynodi'r lle wedi ei osod ar y wal wrth y gylchfan.
Prif res o dai pentref Llanwnda yw Rhes Gwelfor. Cyn i'r rheiny gael eu codi, safai hen fythynnod digon sâl ar y safle,ar gyfer tlodion anghenus a dderbyniai gymorth y plwyf; Stryd y Glem oedd enw'r ardal ar y rhes honno.[3]
Arferai fod dwy dafarn yn y pentref tan ddechrau'r 20g. Yn ogystal â'r Goat, roedd Tafarn y Railway yr ochr arall i bont y lein yn gwasanaethu'r ardal.
Cyfarwyddiadur Llanwnda, 1889-90[4]
Mae cyfarwyddiaduron masnach y 19g yn rhoi llawer o ffeirthiau am fasnach yn ein pentrefi a threfi, er i'r rhai cynnar dueddu i ganolbwyntio ar y trefi, gan beidio â rhestru ond y busnesau pwysicaf yn y wlad o'u cwmpas. Mae Cyfarwyddiadur Sutton am 1889-90, fodd bynnag, yn rhoi manylion fesul pentref neu blwyf. Y masnachwyr a restrir yn y llyfr hwnnw ar gyfer pentref Llanwnda yw'r canlynol:
William Griffiths, gwerthwr glo a thafarnwr y Goat Hotel John Jones, tafarnwr y Railway Inn R Williams a'i fab, depo gwagenni rheilffordd
Hefyd fe restrir y canlynol yng ngwaelodion plwyf Llanwnda, er nad yw;r cyfarwyddiadur yn nodi ym mha le yr oedd y busnesau canlynol:
Ellis Davies, groser Evan Evans, siopwr Jane Jones, siopwr
ac mae'n bur sicr yr oedd o leiaf un o siopydd y rhai hyn yn Llanwnda gerllaw'r orsaf.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma