Cwmni Crefft Dolydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Sefydlwyd '''Cwmni Crefft Dolydd''' gan gyn-weithiwr Cwmni Ferodo, Bernard Mostyn, a'i wraig, yn eu cartref, Pen'rallt, [[Dolydd]] yn y 1970au. Roedd y cwmni'n cynhyrchu nwyddau o lechen, gan arbenigo mewn turnio llechen i greu pethau fel blychau llwch i ysmygwyr, potiau a phowlenni a matiau llechen crwn. Weithiau, argraffwyd lluniau ar y matiau trwy dechneg sgrîn sidan. Bu'r nwyddau'n cael eu cynhyrchu dros gyfnod o ryw 15 mlynedd, gan werthu eu nwyddau mewn ffeiriau crefft a thrwy siopau twristiaid yn yr ardal. Gan fod y llechen a ddefnyddid fel arfer yn sgil-gynnyrch gwaith [[Cwmni Inigo Jones]], a honno'n dod o Aberllefenni lle ceir llai o hollt yn y garreg, roedd y cynnyrch o safon uwch na'r cyffredin, oherwydd y gallu i lyfnu'r llechen yn arbennig o dda. Gellir adnabod y darnau gorau o waith y cwmni oherwydd symlrwydd a chwaeth y dyluniad, a oedd yn godi uwchlaw'r cynnyrch arferol a wnaed yn gyffredinol. Gosodwyd label hefyd o dan y darnau.
Sefydlwyd '''Cwmni Crefft Dolydd''' gan gyn-weithiwr Cwmni Ferodo, Bernard Mostyn, a'i wraig, yn eu cartref, Pen'rallt, [[Dolydd]] yn y 1970au. Roedd y cwmni'n cynhyrchu nwyddau o lechen, gan arbenigo mewn turnio llechen i greu pethau fel blychau llwch i ysmygwyr, potiau a phowlenni a matiau llechen crwn. Weithiau, argraffwyd lluniau ar y matiau trwy dechneg sgrîn sidan. Bu'r nwyddau'n cael eu cynhyrchu dros gyfnod o ryw 15 mlynedd, a chael eu gwerthu mewn ffeiriau crefft a thrwy siopau twristaidd yn yr ardal. Gan fod y llechen a ddefnyddid fel rheol yn sgil-gynnyrch [[Gwaith Llechi Inigo Jones]], a honno'n dod o Aberllefenni lle ceir llai o hollt yn y garreg, roedd y cynnyrch o safon uwch na'r cyffredin, oherwydd y gallu i lyfnhau'r llechen yn arbennig o dda. Gellir adnabod y darnau gorau o waith y cwmni oherwydd symlrwydd a chwaeth y dyluniad, a oedd yn codi uwchlaw'r cynnyrch arferol a wnaed yn gyffredinol. Gosodwyd label hefyd o dan y darnau.


[[Categori:Diwydiannau amrywiol]]
[[Categori:Diwydiannau amrywiol]]
[[Categori:Diwydiant a Masnach]]
[[Categori:Diwydiant a Masnach]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:54, 2 Mawrth 2022

Sefydlwyd Cwmni Crefft Dolydd gan gyn-weithiwr Cwmni Ferodo, Bernard Mostyn, a'i wraig, yn eu cartref, Pen'rallt, Dolydd yn y 1970au. Roedd y cwmni'n cynhyrchu nwyddau o lechen, gan arbenigo mewn turnio llechen i greu pethau fel blychau llwch i ysmygwyr, potiau a phowlenni a matiau llechen crwn. Weithiau, argraffwyd lluniau ar y matiau trwy dechneg sgrîn sidan. Bu'r nwyddau'n cael eu cynhyrchu dros gyfnod o ryw 15 mlynedd, a chael eu gwerthu mewn ffeiriau crefft a thrwy siopau twristaidd yn yr ardal. Gan fod y llechen a ddefnyddid fel rheol yn sgil-gynnyrch Gwaith Llechi Inigo Jones, a honno'n dod o Aberllefenni lle ceir llai o hollt yn y garreg, roedd y cynnyrch o safon uwch na'r cyffredin, oherwydd y gallu i lyfnhau'r llechen yn arbennig o dda. Gellir adnabod y darnau gorau o waith y cwmni oherwydd symlrwydd a chwaeth y dyluniad, a oedd yn codi uwchlaw'r cynnyrch arferol a wnaed yn gyffredinol. Gosodwyd label hefyd o dan y darnau.