Capel Gosen (A), Y Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Capel Annibynnol ym mhentref Y Groeslon yw’r Capel yma. Adeiladwyd y Capel tua 1850, a cafodd ei ail-adeiladu tua 1899.<ref>[http://www.coflein.gov...' |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Capel Gosen (A), Y Groeslon.jpg|bawd|de|400px|Capel Gosen, 2018, wedi iddo gael ei werthu]] | |||
Capel Annibynnol ym mhentref [[Y Groeslon]] yw '''Capel Gosen.''' | |||
Cychwynnwyd yr achos gan David Griffith, Foel, ym 1843, a rhentodd dŷ, sef Tai Newyddion (a elwid wedyn yn Gasgin) yn [[Rhosnenan]] fel man addoli, ond ymfudodd i America ym 1845. Roedd [[George Rhydero]] wedyn yn gefnogol iawn i'r achos. Cafwyd rhodd o dir gan un Catherine Hughes, Grugan Wen, a chodwyd capel a enwyd Gosen ym 1849. Nid y capel presennol oedd hwnnw, fodd bynnag, ond yr adeilad a alwyd wedyn yn ''Gosen Bach'' neu ''Church Room'' (gan i'r Eglwys ei ddefnyddio fel man cyfarfod ger y Ficerdy). Nid oedd erioed yn achos cryf yn ôl pob sôn, ond trwy ei gysylltu â chapel arall, [[Capel Pisgah (A), Carmel]], ym 1873, fe sicrhawyd gwasanaeth gweinidog.<ref>T. Rees a J. Thomas, ''Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru'', (Lerpwl, 1873), Cyf. 3, tt.233-4</ref> | |||
Adeiladwyd capel newydd yn nes at ganol pentref [[Y Groeslon|y Groeslon]] ym 1899, gan Griffith Roberts, adeiladydd o [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]], ac erbyn hynny roedd yr aelodaeth wedi codi i 65. Ym 1907, cafwyd gweinidog ar Gosen yn unig, sef y Parch. W. Jones, Llansamlet ac fe'i dilynwyd gan y Parch. W. Walters, Rhosneigr o 1913-21. Ar ôl hynny, nid oedd gan yr eglwys weinidog. | |||
Cafwyd trafferth i glirio'r dyledion wedi codi'r ail gapel a chael digon o arian at alwadau newydd ac felly, o 1931 ymlaen, cynhaliwyd Prawfgyngerdd yr Ieuainc yn flynyddol i godi arian, a hynny hyd at y 1960au cynnar. Roedd hwn yn un o'r digwyddiadau sefydlog yng nghalendr diwylliannol y pentref.<ref> ''Hanes y Groeslon'', (Caernarfon, 2000), tt.52-4</ref>. | |||
Gwerthwyd y capel yn 2018, gan nad oedd yn ddiogel i'w ddefnyddio ar gyfer oedfaon. Roedd y gynulleidfa wedi bod yn addoli yn [[Neuadd Y Groeslon]] ers rhai blynyddoedd erbyn hynny, ond mae'r achos yn parhau, yr unig achos crefyddol sydd ar ôl yn Y Groeslon. | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
[[Categori:Crefydd]] | [[Categori:Crefydd]] | ||
[[Categori:Capeli]] | [[Categori:Capeli]] | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 13:40, 5 Ebrill 2021
Capel Annibynnol ym mhentref Y Groeslon yw Capel Gosen.
Cychwynnwyd yr achos gan David Griffith, Foel, ym 1843, a rhentodd dŷ, sef Tai Newyddion (a elwid wedyn yn Gasgin) yn Rhosnenan fel man addoli, ond ymfudodd i America ym 1845. Roedd George Rhydero wedyn yn gefnogol iawn i'r achos. Cafwyd rhodd o dir gan un Catherine Hughes, Grugan Wen, a chodwyd capel a enwyd Gosen ym 1849. Nid y capel presennol oedd hwnnw, fodd bynnag, ond yr adeilad a alwyd wedyn yn Gosen Bach neu Church Room (gan i'r Eglwys ei ddefnyddio fel man cyfarfod ger y Ficerdy). Nid oedd erioed yn achos cryf yn ôl pob sôn, ond trwy ei gysylltu â chapel arall, Capel Pisgah (A), Carmel, ym 1873, fe sicrhawyd gwasanaeth gweinidog.[1]
Adeiladwyd capel newydd yn nes at ganol pentref y Groeslon ym 1899, gan Griffith Roberts, adeiladydd o Ben-y-groes, ac erbyn hynny roedd yr aelodaeth wedi codi i 65. Ym 1907, cafwyd gweinidog ar Gosen yn unig, sef y Parch. W. Jones, Llansamlet ac fe'i dilynwyd gan y Parch. W. Walters, Rhosneigr o 1913-21. Ar ôl hynny, nid oedd gan yr eglwys weinidog.
Cafwyd trafferth i glirio'r dyledion wedi codi'r ail gapel a chael digon o arian at alwadau newydd ac felly, o 1931 ymlaen, cynhaliwyd Prawfgyngerdd yr Ieuainc yn flynyddol i godi arian, a hynny hyd at y 1960au cynnar. Roedd hwn yn un o'r digwyddiadau sefydlog yng nghalendr diwylliannol y pentref.[2].
Gwerthwyd y capel yn 2018, gan nad oedd yn ddiogel i'w ddefnyddio ar gyfer oedfaon. Roedd y gynulleidfa wedi bod yn addoli yn Neuadd Y Groeslon ers rhai blynyddoedd erbyn hynny, ond mae'r achos yn parhau, yr unig achos crefyddol sydd ar ôl yn Y Groeslon.