Capel Seion (A), Tal-y-sarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Capel Seion, Tal-y-sarn yn 2018.JPG|bawd|300px|de|Capel Seion, Gwanwyn 2018]]  
[[Delwedd:Capel Seion, Tal-y-sarn yn 2018.JPG|bawd|300px|de|Capel Seion, Gwanwyn 2018]]  


'''Capel Seion''' oedd unig gapel y r Annibynwyr yn Nhal-y-sarn, ac erbyn heddiw (2018), hwn yw'r unig gapel o unrhyw enwad i ddal yn agored yn y pentref.
'''Capel Seion''' oedd unig gapel y r Annibynwyr yn Nhal-y-sarn, ac erbyn heddiw (2023), hwn yw'r unig gapel o unrhyw enwad sy'n dal yn agored yn y pentref. Fe saif ar ochr Stryd Cavour yn y pentref.


Mae gwreiddiau'r achos yn mynd yn ôl ymhell. Dywedir mai Michael Owens, aelod o Gapel Penlan, Pwllheli a chwarelwr yn [[Chwarel Gloddfa'r Goed]] oedd sylfaenydd yr achos trwy ei arferion crefyddol a drodd ei gydweithwyr, fesul tipyn, yn ddynion crefyddol eu hagwedd.
Mae gwreiddiau'r achos yn mynd yn ôl ymhell. Dywedir mai Michael Owens, aelod o Gapel Penlan, Pwllheli a chwarelwr yng [[Cloddfa'r Coed|Nghloddfa'r Coed]] oedd sylfaenydd yr achos trwy ei arferion crefyddol a drodd ei gydweithwyr, fesul tipyn, yn ddynion crefyddol eu hagwedd. Dechreuodd y symudiad hwn tua 1790, ac er na chafwyd llawer o ddilynwyr, cafwyd pregethu cyson, a thua 1802 cafwyd prydles hir ar hen ffatri ŵlan a'i defnyddio fel capel. Ym 1814 ordeiniwyd gweinidog, David Griffiths o'r Blowty, Pen Llŷn. Ym 1822, a'r gynulleidfa ar gynnydd, helaethwyd yr hen gapel. Tua 1830 symudodd David Griffiths i Bethesda, ac fe'i olynwyd gan un a fu'n fyfyriwr yng ngholeg Neuaddlwyd tan hynny, [[Isaac Harding Harries]]. Er iddo aros am ryw 4 blynedd, nid oedd o'n gymeradwy oherwydd ei agwedd at fusnes a oedd, meddid, yn cael ei seilio ar dwyll. Y pryd hyn, roedd capeli Tal-y-sarn a [[Capel Pisgah (A), Carmel|Chapel Pisgah yng Ngharmel]]. Olynydd Mr Harries oedd Owen Thomas, Rhydlydan, Sir Ddinbych, a bu'n weinidog ar gapeli yn Nhal-y-sarn, Pisgah (Carmel) a Phen-y-groes, a fe hefyd oedd yn cynorthwyo efo achos [[Capel Drws-y-coed (A)]].
 
Bu diwygiad yn yr ardal ym 1839, a gafodd effaith ar nifer yr aelodau, ac arhosodd Owen Thomas yn weinidog tan 1846. Am 4 blynedd roedd yr achos heb weinidog ond ym 1850 rhoddwyd galwad gan achosion Tal-y-sarn a Drws-y-coed i David Jones, myfyriwr diwinyddol yng ngholeg hyfforddi Caerfyrddin, ac arhosodd hwnnw am dair blynedd cyn symud i'r de, ac wedyn i America. Ym 1856, penodwyd y Parch. Edward W. Jones, ac yn ystod blynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth cynyddodd nifer yr aelodau o 30 i 130. Bu iddo yntau ymfudo i America, ym 1871. Yn y cyfamser, fodd bynnag, roedd yr achos wedi symud oherwydd diffygion yr hen gapel i safle newydd ym 1862, pan codwyd y capel presennol mewn man o'r enw Llechillyfnion oedd yn eiddo i fferm Coedmadog.<ref>T. Rees a J. Thomas, ''Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru'', Cyf. III (Lerpwl, 1873).</ref>
 
Un o'r aelodau hyd 1916 oedd [[Tom Sarah]], ynghyd â'i ferch, [[Mary King Sarah]], y ddau'n cyfrannu'n helaeth at lewyrch cerddorol yr oedfaon.<ref>''Y Casglwr'', Gwanwyn 1991, t.5</ref>
 
Fe ddathlodd canmlwyddiant codi'r capel newydd ym 1962. Cafwyd cyngerdd gan y plant ar nos Fercher, Hydref 24 a Cyfarfod Dathlu Nos Iau, Hydref 25; y pregethwr oedd y Parch. ldwal Jones, Llanrwst - un o feibion yr achos.<ref>Archifdy Gwynedd XM/6088/373</ref>
 
Mae papurau'r diweddar David Lloyd Rees, Tal-y-sarn, a gedwir yn Archifdy Caernarfon, yn cynnwys llawer o fanylion am hanes y capel.<ref>Archifdy Gwynedd XM/6088</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:15, 1 Tachwedd 2023

Capel Seion, Gwanwyn 2018

Capel Seion oedd unig gapel y r Annibynwyr yn Nhal-y-sarn, ac erbyn heddiw (2023), hwn yw'r unig gapel o unrhyw enwad sy'n dal yn agored yn y pentref. Fe saif ar ochr Stryd Cavour yn y pentref.

Mae gwreiddiau'r achos yn mynd yn ôl ymhell. Dywedir mai Michael Owens, aelod o Gapel Penlan, Pwllheli a chwarelwr yng Nghloddfa'r Coed oedd sylfaenydd yr achos trwy ei arferion crefyddol a drodd ei gydweithwyr, fesul tipyn, yn ddynion crefyddol eu hagwedd. Dechreuodd y symudiad hwn tua 1790, ac er na chafwyd llawer o ddilynwyr, cafwyd pregethu cyson, a thua 1802 cafwyd prydles hir ar hen ffatri ŵlan a'i defnyddio fel capel. Ym 1814 ordeiniwyd gweinidog, David Griffiths o'r Blowty, Pen Llŷn. Ym 1822, a'r gynulleidfa ar gynnydd, helaethwyd yr hen gapel. Tua 1830 symudodd David Griffiths i Bethesda, ac fe'i olynwyd gan un a fu'n fyfyriwr yng ngholeg Neuaddlwyd tan hynny, Isaac Harding Harries. Er iddo aros am ryw 4 blynedd, nid oedd o'n gymeradwy oherwydd ei agwedd at fusnes a oedd, meddid, yn cael ei seilio ar dwyll. Y pryd hyn, roedd capeli Tal-y-sarn a Chapel Pisgah yng Ngharmel. Olynydd Mr Harries oedd Owen Thomas, Rhydlydan, Sir Ddinbych, a bu'n weinidog ar gapeli yn Nhal-y-sarn, Pisgah (Carmel) a Phen-y-groes, a fe hefyd oedd yn cynorthwyo efo achos Capel Drws-y-coed (A).

Bu diwygiad yn yr ardal ym 1839, a gafodd effaith ar nifer yr aelodau, ac arhosodd Owen Thomas yn weinidog tan 1846. Am 4 blynedd roedd yr achos heb weinidog ond ym 1850 rhoddwyd galwad gan achosion Tal-y-sarn a Drws-y-coed i David Jones, myfyriwr diwinyddol yng ngholeg hyfforddi Caerfyrddin, ac arhosodd hwnnw am dair blynedd cyn symud i'r de, ac wedyn i America. Ym 1856, penodwyd y Parch. Edward W. Jones, ac yn ystod blynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth cynyddodd nifer yr aelodau o 30 i 130. Bu iddo yntau ymfudo i America, ym 1871. Yn y cyfamser, fodd bynnag, roedd yr achos wedi symud oherwydd diffygion yr hen gapel i safle newydd ym 1862, pan codwyd y capel presennol mewn man o'r enw Llechillyfnion oedd yn eiddo i fferm Coedmadog.[1]

Un o'r aelodau hyd 1916 oedd Tom Sarah, ynghyd â'i ferch, Mary King Sarah, y ddau'n cyfrannu'n helaeth at lewyrch cerddorol yr oedfaon.[2]

Fe ddathlodd canmlwyddiant codi'r capel newydd ym 1962. Cafwyd cyngerdd gan y plant ar nos Fercher, Hydref 24 a Cyfarfod Dathlu Nos Iau, Hydref 25; y pregethwr oedd y Parch. ldwal Jones, Llanrwst - un o feibion yr achos.[3]

Mae papurau'r diweddar David Lloyd Rees, Tal-y-sarn, a gedwir yn Archifdy Caernarfon, yn cynnwys llawer o fanylion am hanes y capel.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, Cyf. III (Lerpwl, 1873).
  2. Y Casglwr, Gwanwyn 1991, t.5
  3. Archifdy Gwynedd XM/6088/373
  4. Archifdy Gwynedd XM/6088