Capel Bethlehem (A), Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd ''' Capel Bethlehem''' (A) yn addoldy ym mhentref [[Trefor]]. | |||
1794 : sefydlwyd achos Maesyneuadd (A) yn hen ffermdy bychan Maesyneuadd. | |||
[ | 1812 : adeiladwyd y capel cyntaf ar dir Maesyneuadd a'i alw'n swyddogol yn Bethlehem (A). Ond Maesyneuadd neu'r Capel Bach oedd o i bawb ar lafar. | ||
1874 : agorwyd capel mwy gan yr Annibynwyr rhyw ganllath i lawr y lôn a'i enwi'n [[Capel Maesyneuadd (A), Trefor|Maesyneuadd (A)]].. | |||
1876 : trosglwyddwyd Bethlehem i rai Saeson o chwarelwyr (Inglish Côs) oedd wedi mudo yma o Swydd Caerlŷr yn bennaf. Parhai yn achos Annibynnol (English Cong. oedd ar yr arwydd ger y giât). Bellach, roedd yma ddau achos Annibynnol - un mawr Cymraeg ac un bach, bach Saesneg. Fodd bynnag, yn fuan daeth yr aelodau'n rhugl yn y Gymraeg a ni fu angen gwasanaethau yn yr iaith fain! | |||
1983 : Dim ond 3 aelod oedd ar ôl yn y Capel Bach erbyn hyn a'r rheiny'n Gymry trydedd genhedlaeth. Fe'i caewyd. Gan mai Maesyneuadd oedd piau'r capel cafwyd pleidlais ynglŷn â'i ddyfodol. Penderfynwyd o fwyafrif llethol ei roi yn rhodd am ddim i'r Seindorf oedd, ers rhyw ddwy flynedd, wedi gorfod cau yr hen Gwt Band o goed ac asbestos ym mhen arall y pentref. Mae'r Seindorf yn dal i ymarfer yno ac wedi gwario miloedd ar filoedd o bunnau i'w addasu a'i wneud yn ddiddos. | |||
[[Cwt Band Trefor]] y'i gelwir gan bawb ond y geiriau ar y mur yw : ''Bethlehem, Cartref [[Seindorf Trefor]] (sefydlwyd 1863)''. | |||
[[Categori:Crefydd]] | |||
[[Categori:Capeli]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:26, 13 Chwefror 2020
Roedd Capel Bethlehem (A) yn addoldy ym mhentref Trefor.
1794 : sefydlwyd achos Maesyneuadd (A) yn hen ffermdy bychan Maesyneuadd.
1812 : adeiladwyd y capel cyntaf ar dir Maesyneuadd a'i alw'n swyddogol yn Bethlehem (A). Ond Maesyneuadd neu'r Capel Bach oedd o i bawb ar lafar.
1874 : agorwyd capel mwy gan yr Annibynwyr rhyw ganllath i lawr y lôn a'i enwi'n Maesyneuadd (A)..
1876 : trosglwyddwyd Bethlehem i rai Saeson o chwarelwyr (Inglish Côs) oedd wedi mudo yma o Swydd Caerlŷr yn bennaf. Parhai yn achos Annibynnol (English Cong. oedd ar yr arwydd ger y giât). Bellach, roedd yma ddau achos Annibynnol - un mawr Cymraeg ac un bach, bach Saesneg. Fodd bynnag, yn fuan daeth yr aelodau'n rhugl yn y Gymraeg a ni fu angen gwasanaethau yn yr iaith fain!
1983 : Dim ond 3 aelod oedd ar ôl yn y Capel Bach erbyn hyn a'r rheiny'n Gymry trydedd genhedlaeth. Fe'i caewyd. Gan mai Maesyneuadd oedd piau'r capel cafwyd pleidlais ynglŷn â'i ddyfodol. Penderfynwyd o fwyafrif llethol ei roi yn rhodd am ddim i'r Seindorf oedd, ers rhyw ddwy flynedd, wedi gorfod cau yr hen Gwt Band o goed ac asbestos ym mhen arall y pentref. Mae'r Seindorf yn dal i ymarfer yno ac wedi gwario miloedd ar filoedd o bunnau i'w addasu a'i wneud yn ddiddos.
Cwt Band Trefor y'i gelwir gan bawb ond y geiriau ar y mur yw : Bethlehem, Cartref Seindorf Trefor (sefydlwyd 1863).