Llyfr Beuno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Hen lyfr llawysgrif a gollwyd oddeutu'r flwyddyn 1600 oedd '''Llyfr Beuno''', neu ''Y Diboeth'' (sef 'heb losgi') a gedwid yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] yn y canol oesoedd. Fe'i sillefir yn aml, ond (yn ôl y cyn-ficer, y Parch. R.D Roberts) yn anghywir. Dywedir ei fod wedi ei ysgrifennu yn y 7eg ganrif gan [[Twrog Sant|Sant Twrog]], i gofnodi'r tiroedd a 'r hawliau a oedd wedi eu rhoi i'r ''clas'' a sefydlwyd yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog Fawr]].   
Hen lyfr llawysgrif a gollwyd oddeutu'r flwyddyn 1600 oedd '''Llyfr Beuno''', neu [[Tiboeth|''Y Diboeth'']] (sef 'heb losgi') a gedwid yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] yn y canol oesoedd. Fe'i sillefir "Y Diboeth" yn aml, ond (yn ôl y cyn-ficer, y Parch. R.D Roberts) mae hyn yn anghywir. Dywedir ei fod wedi ei ysgrifennu yn y 7ed ganrif gan [[Twrog Sant|Sant Twrog]], i gofnodi'r tiroedd a'r hawliau a oedd wedi eu rhoi i'r ''clas'' a sefydlwyd yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog Fawr]].   


Sonnir am y Diboeth gan Iolo Goch, tua 1390, pan ysgrifenodd:
Sonnir am y Diboeth gan Iolo Goch, tua 1390, pan ysgrifennodd:


  Llygaid fel glain cawad coeth
  Llygaid fel glain cawad coeth

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:38, 22 Rhagfyr 2021

Hen lyfr llawysgrif a gollwyd oddeutu'r flwyddyn 1600 oedd Llyfr Beuno, neu Y Diboeth (sef 'heb losgi') a gedwid yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr yn y canol oesoedd. Fe'i sillefir "Y Diboeth" yn aml, ond (yn ôl y cyn-ficer, y Parch. R.D Roberts) mae hyn yn anghywir. Dywedir ei fod wedi ei ysgrifennu yn y 7ed ganrif gan Sant Twrog, i gofnodi'r tiroedd a'r hawliau a oedd wedi eu rhoi i'r clas a sefydlwyd yng Nghlynnog Fawr.

Sonnir am y Diboeth gan Iolo Goch, tua 1390, pan ysgrifennodd:

Llygaid fel glain cawad coeth
 Tebyg i faen y Tiboeth.

ac felly mae'n sicr mai goroesi'r tân pan losgwyd Eglwys Clynnog yn 978 gan ymosodwyr Danaidd a arweiniodd at yr enw, yn hytrach na'r tân diweddarach yn Eglwys Clynnog yn ystod y 15g.[1]

Roedd arno glawr haearn, wedi ei addurno â gemau, yn cynnwys un tywyll a oedd, oherwydd iddo gael ei nodi'n benodol, yn debygol o fod yn fawr iawn neu'n hynod o ran lliw.

Mae Dr John Davies, Mallwyd, yn ei eiriadur, (1632), yn dweud mai'r un olaf i'w weld oedd Syr Thomas Wiliems, Trefriw, a hynny ym 1594. Erbyn yr 17g roedd ar goll ac ni chafwyd sôn amdano wedyn. Mae'n debyg iddo gael ei gadw yng Nghyff Beuno, y gist hynafol yn Eglwys Clynnog.

Mae Eben Fardd yn adrodd hen bennill[2]:

Tybwyd y cadwai Tiboeth,
Yn ei ffurf, oer na phoeth;
Ond mwy nid oes dim un darn
O'i gloer wiw, a'i glawr haearn.

Cyfeiriadau

  1. R.D. Roberts, Clynnog, its Saint and his Church (d.d.), tt.17-18
  2. Eben Fardd, Cyff Beuno, (Tremadog, 1864)